Datblygu amgylchedd addysgu gyfoethog ac ysgogol sy’n hybu chwilfrydedd a brwdfrydedd y disgyblion ieuengaf
Quick links:
Gwybodaeth am yr ysgol/darparwr
Mae Ysgol Bro Eirwg yn ysgol gyfrwng Gymraeg sydd wedi ei lleoli yn Llanrhymni, gorllewin Caerdydd. Mae 394 o ddisgyblion ar y gofrestr gan gynnwys 64 yn y dosbarth meithrin. Mae 28.9% o’r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae’r ysgol yn rhan o Ffederasiwn y Ddraig a gafodd ei sefydlu ym mis Medi 2019 ac mae’r ysgol yn cydweithio’n agos iawn â’r ysgol arall sydd yn rhan o’r Ffederasiwn, sef Ysgol Pen y Pîl, er mwyn rhoi’r addysg orau i’r holl ddisgyblion.
Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol
Mae dau ddosbarth derbyn a dau ddosbarth meithrin rhan amser yn yr ysgol. Mae gan yr ysgol ddosbarthiadau mawr gydag ardaloedd eang y tu allan. Roedd y staff yn awyddus i ddatblygu’r amgylchedd addysgu fel bod y disgyblion ieuengaf yn dysgu drwy chwarae a chael profiadau ymarferol, ‘bywyd go iawn’, mewn amgylchedd croesawgar, deniadol, ond yn ddi-ffws heb fod yn or-ysgogol. Roedd datblygu’r ardal gyfan yn bwysig i’r staff – bod yr ardal allanol yn rhan annatod o’r amgylchedd ddysgu barhaus.
Wedi sefydlu eu gweledigaeth, aeth y staff ati i ymchwilio drwy ddarllen erthyglau, blogiau a llyfrau, chwilio am hyfforddiant addas ac yna mynd ati i arbrofi, treialu a myfyrio er mwyn penderfynu ar y ffordd mwyaf addas ymlaen.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd
Mae amgylchedd addysgu y blynyddoedd cynnar wedi ei drawsnewid. Mae’r staff wedi datblygu ardaloedd pendant gan ddefnyddio deunyddiau naturiol sydd yn tawelu yn hytrach na chyffroi’r disgyblion. Mae’r ardal tu allan yn estyniad o’r ardal tu fewn ac mae’r disgyblion yn symud yn ôl ac ymlaen rhwng y ddwy ardal yn naturiol. Mae’r amgylchedd yn ysgogol ac yn annog chwilfrydedd.
Mae’r staff yn cyd-gynllunio yn ofalus er mwyn darparu gweithgareddau sydd yn rhoi cyfleoedd i’r disgyblion ddysgu drwy arsylwi, ymchwilio, arbrofi a chwarae. Mae llais y plentyn yn bwysig a thrwy drafod gyda’r disgyblion ac arsylwi’n anffurfiol arnynt yn gyson, mae’r staff yn cynllunio, addasu a datblygu’r ddarpariaeth a’r gweithgareddau yn ôl eu gallu a’u diddordebau.
Mae’r holl weithgareddau sydd yn cael eu darparu yn cynnig digon o gyfleoedd ac amrywiaeth er mwyn i’r disgyblion wneud eu penderfyniadau eu hunain sydd yn annog a meithrin creadigrwydd, annibyniaeth a rhyddid i archwilio. Mae’r disgyblion yn treulio’u hamser yn dewis eu dysgu yn hytrach na chyflawni cyfres o dasgau caeedig ac mae cyfleoedd i gymryd risg a deall ffiniau, er enghraifft defnyddio offer mawr i ymarfer cydbwyso a dringo. Mae’r disgyblion yn mwynhau archwilio ac ymchwilio ar ben eu hunain ac ar y cyd ag eraill.
Mae’r staff yn modelu agwedd bositif at ddysgu, gan annog a chefnogi chwilfrydedd naturiol y disgyblion drwy chwarae yn yr ardaloedd gyda nhw. Gwneir y mwyaf o’r dysgu digymell sy’n digwydd yn naturiol wrth i’r staff eistedd a chwarae gyda’r disgyblion neu wrth arsylwi arnynt yn cyflawni eu gweithgareddau.
Cynhelir ‘Dydd Gwener Gwyllt’ yn wythnosol yn y dosbarth meithrin ble mae’r disgyblion yn treulio eu hamser y tu allan beth bynnag fo’r tywydd, yn archwilio, yn arsylwi ac arbrofi, ac o ganlyniad yn dysgu am ryfeddodau byd natur.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?
Mae’r gwaith yma wedi cael effaith fawr ar ddisgyblion ieuengaf yr ysgol. Mae’r dull addysgu a dysgu hwn wedi magu annibyniaeth a hyder yn y disgyblion, wedi annog eu medrau creadigol a’u gallu i archwilio ac arbrofi. Mae wedi rhoi’r cyfle i’r disgyblion feddwl yn greadigol, i ddatrys problemau ac i feddwl am sut i wella a datblygu. Drwy gael y cyfle i ddewis yr hyn maent yn ei wneud ac yn ei greu, maent yn teimlo perchnogaeth a balchder yn eu dysgu a thuag at yr ysgol. Drwy gael y rhyddid i ddysgu yn unigol neu gydag eraill, mae’r gwaith wedi cael effaith gadarnhaol ar les y disgyblion gan arwain at gyd-weithio a chyd-chwarae hapus. Mae’r rhyddid yn rhoi mwy o reolaeth personol ac wedi arwain at agweddau cadarnhaol tuag at eu dysgu. Maent yn fodlon cymryd risg a dysgu drwy eu camgymeriadau. Maent yn mwynhau ac yn hapus yn yr ysgol.
Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?
Mae’r ysgol wedi rhannu’r gwaith gydag ysgolion eraill yn y clwstwr ac mae staff o ysgolion eraill wedi bod yn arsylwi ar yr arfer dda.