Argymhellion
Dylai colegau addysg bellach, darparwyr dysgu yn y gwaith a phartneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned:
- A1 Sicrhau ansawdd darpariaeth dysgu o bell a dysgu cyfunol i sicrhau bod yr holl gyrsiau neu raglenni yn bodloni safon ansawdd ofynnol er mwyn lleihau’r amrywioldeb mewn darpariaeth
- A2 Sicrhau bod arweinwyr ac athrawon yn gallu elwa ar ddysgu proffesiynol sy’n cefnogi datblygiad o ran sut i gynllunio addysgu a dysgu effeithiol o bell a chyfunol, yn ogystal â datblygu medrau addysgegol ac asesu athrawon ymhellach.
- A3 Rhannu arfer sy’n dod i’r amlwg ac arfer arloesol o ran dysgu o bell a dysgu cyfunol o fewn, ac ar draws, sectorau ôl-16 yng Nghymru, a thu hwnt
Dylai Llywodraeth Cymru:
- A4 Barhau i gefnogi’r sector ag arweiniad i alluogi darparwyr i ddatblygu dulliau dysgu o bell a dysgu cyfunol o ansawdd da, yn enwedig o ran cefnogi’r dychwelyd i addysgu a hyfforddiant uniongyrchol, ac asesu medrau galwedigaethol a thechnegol ymarferol
- A5 Comisiynu dysgu proffesiynol ar gyfer y sector ôl-16, sy’n rhad ac am ddim i ddarparwyr ac yn eu helpu i ddatblygu arbenigedd penodol mewn dylunio, addysgu, hyfforddiant a dysgu o ran dysgu cyfunol a dysgu o bell ar gyfer eu sector i leihau amrywioldeb yn ansawdd y ddarpariaeth
- A6 Galluogi partneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned a dysgwyr i gael mynediad at blatfform digidol cenedlaethol canolog i ddarparu dysgu o bell a dysgu cyfunol yn haws
- A7 Annog a chefnogi darparwyr i rannu arfer sy’n dod i’r amlwg mewn dysgu o bell a dysgu cyfunol o fewn, ac ar draws, sectorau ôl-16 yng Nghymru