Darparu ymagwedd ac ethos ysgol gyfan o ran gweithio mewn partneriaeth â rhieni a gofalwyr. - Estyn

Darparu ymagwedd ac ethos ysgol gyfan o ran gweithio mewn partneriaeth â rhieni a gofalwyr.

Arfer effeithiol

Pontlliw Primary School


Gwybodaeth am yr ysgol neu’r darparwr

Mae Ysgol Gynradd Pont-lliw yn ysgol gynradd gymunedol sydd wedi’i lleoli ym mhentref Pont-lliw yn Nwyrain Abertawe.  

Mae’r ysgol yn darparu ar gyfer disgyblion rhwng tair ac un ar ddeg oed sy’n cael eu haddysgu mewn dosbarthiadau un oedran. Mae gan yr ysgol saith dosbarth un oedran a dosbarth meithrin yn y bore. Mae 223 o ddisgyblion ar y gofrestr ar hyn o bryd.  

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae Ysgol Gynradd Pont-lliw yn ysgol anogol, hapus a gweithgar sy’n rhoi blaenoriaeth uchel i les ei staff a’i disgyblion. Mae arweinwyr wedi creu diwylliant cryf o gymorth ar y ddwy ochr wrth weithio gyda’i gilydd tuag at werthoedd craidd yr ysgol, sef ‘Parch, Gofal, Cymuned’. Rhennir y gwerthoedd hyn ar draws cymuned yr ysgol, ac maent yn annog parch a charedigrwydd rhwng staff a disgyblion. Mae staff yn sicrhau bod y gymuned leol yn rhan allweddol o fywyd a gwaith yr ysgol. O ganlyniad, mae’r ysgol yn ffurfio rhan ganolog o fywyd cymunedol a cheir diwylliant cryf o berthyn a balchder cymunedol. Wedi iddynt ddychwelyd ar ôl pandemig COVID-19, gwelodd staff fod llawer o ddysgwyr yn arddangos ymddygiadau gorbryderus. Ar ôl trafod eu pryderon gyda rhieni, daeth yn glir fod angen cymorth ychwanegol i rieni allu cael cymorth er mwyn gwella iechyd a lles y plant a’u teuluoedd. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Mae ethos Ysgol Gynradd Pont-lliw yn rhoi gwerth uchel ar y cyfraniad a wna rhieni a gofalwyr at fywyd yr ysgol a’r dysgu a ddarperir. Maent yn annog, yn datblygu ac yn dathlu perthnasoedd a chyfathrebu gyda dysgwyr, staff a’r gymuned leol fel mater o drefn ac yn systematig. Maent yn gweithio’n agos gyda rhieni a gofalwyr i sicrhau bod y tîm o amgylch y plentyn yn gryf a chefnogol. Gwneir hyn mewn llawer o ffyrdd trwy gydol y flwyddyn ysgol. 

Mae pryderon rhieni / gofalwyr bob amser yn cael eu gwerthfawrogi, a gweithredir yn unol â nhw. Mae’r ysgol yn gweithio’n agos gydag amrywiaeth o asiantaethau allanol, fel yr Hyb Cymorth Cynnar, i sicrhau bod teuluoedd bob amser yn gallu manteisio ar unrhyw gymorth ychwanegol y gallai fod ei angen arnynt ar unrhyw adeg benodol. Yn yr un modd, darperir parseli bwyd i’r rhai mewn angen i sicrhau bod cymorth ar waith hyd yn oed pan fydd y diwrnod ysgol yn dod i ben. Mae gan yr ysgol bolisi drws agored, lle caiff rhieni a gofalwyr eu hannog i siarad â staff am unrhyw gymorth sydd ei angen arnynt, ac fe gaiff staff eu hysbysu’n dda ynglŷn â sut i alluogi cymorth ychwanegol pan fydd angen. I gefnogi hyn, mae pob aelod o staff yn weladwy bob bore a gyda’r nos ar iard yr ysgol, felly gellir ymdrin ag ymholiadau a phryderon rhieni / gofalwyr mewn modd amserol. 

Mae’r ysgol wedi gweithio’n agos gydag ymarferwyr iechyd meddwl i ddarparu sesiynau iechyd a lles meddyliol ar gyfer cynorthwyo rhieni / gofalwyr â rheoli dicter a gorbryder. Roedd rhieni wedi nodi’r meysydd hyn lle roedd angen cymorth a strategaethau ychwanegol arnynt i’w defnyddio gartref er mwyn gwella bywyd teuluol. Darparwyd mynediad at wybodaeth a strategaethau ar gyfer rhieni, a chyswllt uniongyrchol gydag ymarferwr iechyd meddwl a lles. Cyflwynwyd gweithdy pontio Blwyddyn 6 i Flwyddyn 7 i gynorthwyo disgyblion a’u teuluoedd â’r heriau sy’n gallu codi yn sgil pontio i ysgol gyfun. Mae’r sesiynau hyn yn hygyrch ar wefan yr ysgol fel y gall rhieni / gofalwyr gyfeirio’n ôl atynt ar unrhyw adeg benodol. Mae hyn yn grymuso rhieni i gefnogi eu hiechyd meddwl eu hunain ac iechyd meddwl eu plant, trwy allu elwa ar wybodaeth, strategaethau a chymorth perthnasol. 

Wrth ddatblygu’r cwricwlwm, er enghraifft y Cwricwlwm i Gymru, ACRh, y Fframwaith Meddyliol ac Emosiynol, mae rhieni wedi cael eu cynnwys yn llawn â rhannu eu barn trwy holiaduron rheolaidd. Rhennir y dadansoddiad a’r ymateb i awgrymiadau gyda rhieni ac mae’n bwydo i’r cynllun datblygu ysgol. 

Bob tymor, rhoddir gwybod i rieni beth yw’r ‘Cwestiwn Mawr’ ar gyfer pob dosbarth, ac estynnir gwahoddiad iddynt rannu unrhyw arbenigedd a diddordebau a allai fod ganddynt er mwyn darparu cyfleoedd dysgu unigryw. Trwy hyn, mae rhieni’n cynnig sesiynau’n rheolaidd sy’n ennyn diddordeb y plant, gan amrywio o sut y caiff technoleg feddygol ei defnyddio i wella bywydau cleifion, i sut y caiff rhandiroedd lleol eu defnyddio i dyfu amrywiaeth o fwyd. Trwy’r sesiynau hyn, caiff dysgwyr gyfle i brofi gwahanol yrfaoedd, gan felly ehangu eu gorwelion a’u hysbrydoli ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol. 

Caiff pontio rhwng dosbarthiadau ei gynllunio’n ofalus. Darperir cyfarfodydd pontio ar gyfer rhieni, lle byddant yn cael cyfle i gyfarfod â’r athro dosbarth nesaf, derbyn gwybodaeth bwysig a gofyn unrhyw gwestiynau a allai fod ganddynt. Mae’r ysgol yn cynnal boreau coffi ar gyfer rhieni disgyblion sy’n dechrau yn y dosbarthiadau meithrin a derbyn, i sicrhau bod perthnasoedd cadarnhaol a chysylltiadau cryf â rhieni / staff yn cael eu hannog a’u datblygu cyn gynted ag y bo modd. Yn ogystal â’n nosweithiau rhieni rheolaidd ac addysgiadol, mae’r ysgol yn croesawu rhieni i’r ysgol ar gyfer sesiynau ‘Edrych ar Lyfrau’ gyda’u plant. Yn ystod y sesiynau hyn, mae’r plant yn trafod eu taith ddysgu gyda rhieni / gofalwyr, ac mae athrawon wrth law i ddathlu’r llwyddiannau gyda theuluoedd. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae’r data canlynol o holiaduron rhieni a anfonwyd ar gyfer y Fframwaith Meddyliol ac Emosiynol: 

  • Mae’r staff yn trafod pwysigrwydd lles emosiynol a meddyliol gyda rhieni / gofalwyr yn rheolaidd: 98% 
  • Mae’r ysgol yn rhannu ei pholisïau gyda rhieni / gofalwyr i’n helpu i ddeall ymagwedd yr ysgol at les emosiynol a meddyliol: 98% 
  • Mae’r ysgol yn casglu adborth gan rieni / gofalwyr yn rheolaidd: 100% 
  • Mae’r ysgol yn rhoi cyfleoedd i rieni / gofalwyr fod yn rhan o ddatblygiad yr ysgol trwy arolygon, nosweithiau rhieni / gofalwyr, holiaduron, er enghraifft: 100% 
  • Mae’r ysgol yn gwrando ar lais rhieni: 100% 
  • Mae’r ysgol yn gwahodd gwahanol ymwelwyr i’r ysgol i hyrwyddo lles emosiynol a meddyliol, e.e. Young Minds, Nyrs Ysgol, ac ati. 100% 
  • Mae’r ysgol yn gweithio gyda chymuned yr ysgol gyfan, e.e. disgyblion, rhieni / gofalwyr, i ddatrys materion, ac yn hyrwyddo perthnasoedd cadarnhaol: 100% 
  • Mae rhieni / gofalwyr yn deall ymagwedd yr ysgol at ddatblygu amgylchedd cadarnhaol ar gyfer disgyblion yn yr ysgol: 100% 
  • Mae rhieni / gofalwyr yn deall ymagwedd yr ysgol at ddatblygu amgylchedd cadarnhaol ar gyfer disgyblion yn yr ysgol: 100% 
  • Mae’r ysgol yn rhannu gwybodaeth gyda rhieni / gofalwyr i gynorthwyo ein plant pan fydd angen cymorth ychwanegol arnynt: 98% 
  • Mae rhieni’n gwybod at bwy i droi yn yr ysgol am gymorth os bydd ei angen arnom: 98% 
  • Caiff rhieni gyfle i siarad yn agored am eu lles emosiynol a meddyliol gydag aelodau staff: 98% 
  • Caiff rhieni gyfle i fynegi eu syniadau i gefnogi’r ysgol: 100% 

The following data is from the school’s parental questionnaires:  

  • Mae’r ysgol yn helpu fy mhlentyn i fod yn annibynnol a chyfrifol – 100%   
  • Mae’r ysgol yn hyrwyddo iechyd meddwl da – 99%  
  • Mae fy mhlentyn yn mwynhau’r ysgol – 100%  
  • Mae fy mhlentyn yn cael cymorth a her briodol – 99%  
  • Gweledigaeth yr ysgol yw “Plannu’r hadau ar gyfer tyfu am oes” ochr yn ochr â’i gwerthoedd, sef parch, gofal a chymuned. Gwelir gweledigaeth yr ysgol yn ymarferol – 99%  
  • Ceir cyfathrebu da gan yr ysgol i roi gwybod i rieni am yr hyn sy’n digwydd – 99% 

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol wedi rhannu’i harfer effeithiol gydag ysgolion eraill yn y clwstwr lleol ac ar draws yr awdurdod lleol.