Darparu profiadau wedi’u cyfoethogi i ddatblygu medrau

Arfer effeithiol

Ysgol-Y-Wern

Gwybodaeth am yr ysgol

Lleolir Ysgol-Y-Wern, yn ardal Llanisien yng Ngogledd Caerdydd.  Cymraeg yw prif gyfrwng gwaith a bywyd yr ysgol.  Mae 601 disgybl rhwng 3 ac 11 oed mewn 21 dosbarth.  Dros dreigl o dair blynedd, mae ychydig dros 5% o’r disgyblion yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim.  Mae 28% o’r disgyblion yn siarad Cymraeg gartref ac ychydig iawn sydd o gefndir lleiafrifol ethnig.  Mae’r ysgol wedi adnabod 21% o’i disgyblion fel rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. 

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Yn dilyn cyhoeddiad ‘Dyfodol Llwyddiannus’ sef y datblygiadau ar gyfer y cwricwlwm newydd yng Nghymru, aeth Ysgol y Wern ati i ail-edrych ar y cyd-destunau dysgu gan ystyried yn ofalus a oeddynt yn adlewyrchu pedwar diben y cwricwlwm newydd.  Pwrpas hyn oedd datblygu cwricwlwm creadigol ac arloesol a fyddai’n llwyddo i ennyn diddordeb pob dysgwr.   Fel ysgol, roedd yr arweinwyr a’r staff yn awyddus i feithrin arloesedd drwy fagu hyblygrwydd i gyflawni mewn ffyrdd mwy creadigol oedd yn gweddu tuag at ddiddordebau’r disgyblion.  Mae arweinwyr yr ysgol yn annog a chefnogi’r staff i dreialu syniadau newydd yn eu dosbarthiadau.  Wrth adolygu’r cyd-destunau, nododd yr ysgol mai’r her fwyaf oedd sicrhau fod y profiadau cyfoethog yn sbarduno diddordeb y disgyblion, gan barhau i ddatblygu eu medrau.  Erbyn hyn, mae’r athrawon yn cynllunio ar gyfer  themâu trawsgwricwlaidd sy’n plethu medrau llythrennedd, rhifedd, TGCh a digidol yn rheolaidd ac yn fwriadus.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Trwy ddull thematig o ddysgu, mae’r ysgol yn sicrhau fod disgyblion yn cael cyfleoedd cyson i ddatblygu eu medrau llythrennedd, rhifedd ,TGCh a digidol.  Drwy weithio ar y cyd gyda Cymdeithas Ysgolion dros Addysg Gymraeg (CYDAG) i ddatblygu prosiect yn ymwneud â’r tywydd, bu i athrawon Blwyddyn 6 gynllunio ystod o weithgareddau uchelgeisiol a oedd yn cymhwyso technegau arloesol.  Buddsoddwyd mewn gorsaf dywydd electronig ble roedd y disgyblion yn medru casglu data byw yn ddyddiol drwy ddefnyddio ap. Roedd hyn yn gyfle euraidd i ddatblygu eu medrau rhifedd drwy ddehongli data dros gyfnod o amser.  Er mwyn datblygu hyn ym mhellach, manteisiwyd ar y cyfle i feithrin perthynas rhwng ysgol mewn lleoliad cyferbyniol a rhannwyd data’r tywydd rhwng y ddwy ysgol.  Yn sgil hyn, cymharwyd cymedr tymheredd a glawiad y ddwy ysgol dros gyfnod o amser.  Roedd defnyddio TGCh fel hyn yn ennyn diddordeb y disgyblion, yn enwedig gan ei fod yn ddata perthnasol iddynt.  Mae athrawon yn cynllunio cychwyn eu gwersi’n fanwl ac effeithiol er mwyn sbarduno’r drafodaeth. Y datganiad a roddwyd ar ddechrau’r wers hon oedd ‘mae Gwynedd wedi cael gaeaf caletach na Chaerdydd’. Roedd hyn yn datblygu sgiliau meddwl y disgyblion a’u harwain i fod yn ddisgyblion annibynnol.

Defnyddiwyd y prosiect i ddatblygu medrau llythrennedd amrywiol.  Bu’r disgyblion edrych ar y broses o greu rhagolygon y tywydd o’r ‘sgript i’r sgrin’.  Er mwyn gwneud y profiad yn un perthnasol i’w bywyd bob dydd, dilynwyd yr union gamau a ddefnyddir gan y cyfryngau.  Wrth gael mynediad i ddata byw am y tywydd o amrywiaeth o ffynonellau, cynlluniwyd eu rhagolygon yn fanwl gan ystyried y tymheredd, glawiad a chryfder gwynt.  Defnyddiwyd strategaethau asesu ar gyfer dysgu wrth fodelu  dwy enghraifft o ragolygon tywydd.  Un ohonynt yn rhagolwg tywydd o ansawdd da ac un arall yn rhagorol, er mwyn i’r disgyblion fedru pennu meini prawf llwyddiant ar gyfer y math yma o ysgrifennu. Arweiniodd hyn at waith ysgrifennu o safon uchel, gan fod y disgyblion wedi pennu meini prawf ar y cyd ac yn deall nodweddion iaith bwletin y tywydd.  Deilliant y gwaith oedd i’r disgyblion gael cyflwyno eu rhagolygon yn unigol o flaen y sgrin werdd electronig.  Wrth i bawb ymgymryd mewn rôl benodol yn ystod y ffilmio, o gyflwyno i gyfarwyddo, datblygwyd eu medrau llafaredd yn ogystal â’u medrau TGCh a’u sgiliau rhyngbersonol.  Mireiniwyd eu cyflwyniadau wrth i’r ‘uwch gynhyrchydd’ a gweddill y ‘criw’ asesu eu medrau llafar cyn mynd ati i’w recordio’n derfynol.  Roedd cynnig profiad dysgu arloesol o’r fath, a oedd yn cwmpasu’r holl fedrau, yn galluogi pob dysgwr i fod yn uchelgeisiol, hyderus a gwybodus.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau disgyblion?

Roedd cynnig profiadau cyfoethog o’r math yma yn gyfle i herio disgyblion wrth iddynt ddatblygu’n ddysgwyr annibynnol.  Wrth sicrhau fod yr addysgu’n greadigol ac ymatebol, mae’r disgyblion yn gwneud cysylltiadau gyda sefyllfaoedd bywyd go iawn, ac felly mae’n ystyrlon a phwrpasol.  Mae prosiectau cyfoethog fel y rhain wedi cael effaith gadarnhaol ar fedrau llafar, ysgrifennu a digidol y disgyblion a fydd yn eu paratoi’n dda ar gyfer y dyfodol.