Darparu cyfleoedd i ddysgwyr mwy galluog a thalentog - Estyn

Darparu cyfleoedd i ddysgwyr mwy galluog a thalentog

Arfer effeithiol

Coleg Sir Gâr a / and Coleg Ceredigion


Cyd-destun a chefndir i arfer sy’n arwain y sector

Mae Coleg Sir Gâr yn Goleg Addysg Bellach mawr, aml-safle. Mae ganddo tua 10,000 o ddysgwyr, y mae tua 3,000 ohonynt yn rhai amser llawn a 7,000 ohonynt yn rhai rhan-amser. Mae tua 950 o ddysgwyr addysg uwch.

Mae’r Coleg wedi’i leoli yn ne orllewin Cymru, ac mae ganddo bum prif gampws yn Llanelli (Graig), Caerfyrddin (Pibwrlwyd a Jobs Well), Rhydaman a Llandeilo (Gelli Aur). Mae hefyd yn cynnig ei ddarpariaeth ar-lein, trwy bartneriaethau mewn lleoliadau cymunedol, ac yn y gweithle. Mae’r campysau’n amrywio o ran eu maint a’u natur, ac yn cynnig amrywiaeth o bynciau. Yn gyffredinol, ni chaiff pynciau eu dyblygu ar draws y campysau oni bai bod galw uchel iawn yn cyfiawnhau hynny.

Mae gan y Coleg ystod gynhwysfawr ac eang o addysg academaidd a galwedigaethol, ynghyd â rhaglenni hyfforddi. Mae’r rhain yn amrywio o lefel cyn-mynediad i lefel ôl-raddedig, ac yn darparu gwasanaeth i’r gymuned ddysgu gyfan. Mae’n cynnig addysg bellach, dysgu oedolion yn y gymuned, addysg uwch a dysgu yn y gwaith. Mae hefyd yn darparu ar gyfer nifer fawr o ddisgyblion ysgol rhwng 14 a 16 oed, sy’n mynychu’r Coleg neu’n cael eu haddysgu gan staff y Coleg yn eu hysgolion.

Mae gan y Coleg drosiant blynyddol o £30m ac mae’n cyflogi cyfanswm o 854 o staff. O’r rhain, mae 451 ohonynt wedi’u cysylltu’n uniongyrchol ag addysgu ac mae 403 ohonynt mewn swyddogaethau cymorth a gweinyddol.

Yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (2011), mae sawl ardal o amddifadedd yn Sir Gâr, ac mae nifer fach ohonynt ymhlith y 10% mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Mae’r rhain o gwmpas y canolfannau â’r poblogaethau mwyaf yn bennaf, sef Caerfyrddin, Llanelli a Rhydaman. Mae data gan yr Adran Addysg a Sgiliau (AdAS) yn dangos bod tuag 14.8% o ddysgwyr yn byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn Sir Gâr.

Mae data Llywodraeth Cymru ar gyfer Mawrth 2013 yn dangos bod 66.2% o drigolion Sir Gâr dros 16 oed mewn cyflogaeth o gymharu â’r cyfartaledd yng Nghymru, sef 67.3%. Mae’r data’n dangos bod 72% o’r oedolion o oed gwaith yn meddu ar gymhwyster lefel 2 o leiaf, o gymharu â 74% yng Nghymru. Mae 33% o’r oedolion o oed gwaith yn meddu ar gymhwyster lefel 4 neu’n uwch, o gymharu â’r cyfartaledd o 32% yng Nghymru. Canran yr oedolion o oed gwaith heb gymhwyster yw 13%, sydd ychydig yn uwch na’r cyfartaledd yng Nghymru, sef 11%. Mae tuag 8,500 o unedau busnes yn Sir Gâr. Mae’r gyfran uchaf o fusnesau yn ymwneud â’r tir, manwerthu, adeiladu a gweinyddu.

Yn ôl Cyfrifiad 2011, gall tua 46% o boblogaeth Sir Gâr siarad, darllen neu ysgrifennu yn Gymraeg. Dyma’r bedwaredd ganran uchaf yng Nghymru. Fodd bynnag, mae gan Sir Gâr y nifer fwyaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru.

Mae’r Coleg wedi integreiddio’r angen i ddarparu cyfleoedd heriol i bob dysgwr ag anghenion dysgu ychwanegol, gan gynnwys y rhai mwy galluog a thalentog, yn ei strategaeth ar gyfer datblygu addysgu a dysgu. Mae’r coleg wedi mynd i’r afael ag anghenion y dysgwyr hyn mewn sawl ffordd:

•trwy gydweithio’n agos ag ysgolion partner i ddatblygu rhaglen atodol mwy galluog a thalentog ar gyfer eu disgyblion;
•trwy fentrau perthnasol fel ‘World Skills’;
•trwy ddarparu cyfleoedd a phrofiadau rhagorol nad ydynt yn rhan o’r cwricwlwm i ddysgwyr talentog; a
•thrwy rannu arfer dda mewn addysgu a dysgu.

Natur strategaeth neu weithgaredd a nodwyd yn arfer sy’n arwain y sector

TY Rhaglen Atodol Mwy Galluog a Thalentog 14-19
Mae’r rhaglen hon yn rhoi cyfle i ddisgyblion ysgol mwy galluog a thalentog gynyddu eu gwybodaeth bynciol ymhellach, sy’n ategu’r gwaith maent yn ymgymryd ag ef ar hyn o bryd yn eu rhaglen astudio TGAU. Mae hefyd yn rhoi cyfle i ddisgyblion fynegi eu hunain a chael hwyl mewn amgylchedd lle nad ydynt yn cael eu hasesu. Mae’r rhaglen yn amlygu llwybrau dilyniant a gyrfa yn y dyfodol ac yn rhoi cyfle i ddisgyblion ymweld â diwydiant lleol a sefydliadau Addysg Uwch i siarad gyda staff am eu profiadau. Hefyd, mae disgyblion yn cydweithio ac yn meithrin perthynas â disgyblion mwy galluog a thalentog o ysgolion eraill, ac yn dod i adnabod tiwtoriaid profiadol sy’n arwain y rhaglen. Mae’r coleg yn rhoi tystysgrifau i ddisgyblion am bresenoldeb da a chyfranogiad gweithredol yn y cynllun.

World Skills
Mae lefel uchel y cyfranogiad mewn cystadlaethau medrau ar draws y coleg yn cyfrannu’n sylweddol at ddatblygu medrau galwedigaethol technegol dysgwyr. Cyfranogiad dysgwyr mewn cystadlaethau medrau yw un o dargedau strategol y coleg, a chyflawnwyd llwyddiant ar lefel leol, ranbarthol, genedlaethol a rhyngwladol. Y coleg yw’r unig goleg yng Nghymru sydd wedi darparu cystadleuwyr ar gyfer Team UK yng nghystadlaethau Worldskills International am ddwy gystadleuaeth ddwyflynyddol yn olynol, sef Calgary 2009 a Llundain 2011. Hefyd, darparodd y coleg ddau o’r pedwar cystadleuydd o Gymru ar gyfer y tîm a gynrychiolodd y Deyrnas Unedig yn 2013. Enillodd un o ddysgwyr y coleg y wobr Aur yn Euroskills yn 2012.

Mae’r coleg wedi cynnal cystadlaethau medrau rhanbarthol a chenedlaethol ac wedi’i ddewis gan Lywodraeth Cymru i reoli contract Cystadlaethau Sgiliau Cymru-gyfan bob blwyddyn ers eu dechrau yn 2011. Mae gan y coleg y lefel uchaf o gystadleuwyr yng Nghystadlaethau “Worldskills’ y DU o unrhyw goleg yng Nghymru. Yn y ‘Skills Show’ cyntaf yn y DU yn 2012, lle y cynhaliwyd rowndiau terfynol holl gystadlaethau’r DU, roedd y coleg ar y blaen yn y DU o ran nifer y medalau a enillwyd.

Academïau Chwaraeon Coleg Sir Gâr
Mae cysyniad Academi Chwaraeon Coleg Sir Gâr wedi datblygu dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf i roi cyfle i fyfyrwyr gyflawni eu llawn botensial mewn meysydd chwaraeon ac academaidd. Erbyn hyn, mae strwythur yr academi chwaraeon yn cynnwys pêl-rwyd, pêl-droed, rygbi a golff. Mae hefyd yn cefnogi perfformwyr unigol mewn chwaraeon fel athletau, golff, sboncen a jwdo. Mae gan yr academi gysylltiadau rhagorol â phartneriaid fel Undeb Rygbi Cymru (WRU), Clwb Rygbi’r Scarlets a Llanelli, Ymddiriedolaeth Pêl-droed Cymru (WFT), Cymdeithas Pêl-rwyd Cymru (WNA) ac Adran Datblygu Chwaraeon Cyngor Sir Gâr. Hefyd, mae gan yr Academi Golff bartneriaeth werthfawr â Chlwb Golff a Gwledig Machynys, lle gall myfyrwyr fanteisio ar ei gyfleusterau rhagorol a chael hyfforddiant proffesiynol.

Gall myfyrwyr yr academi fanteisio ar gyfleoedd am therapi chwaraeon a thylino yn y coleg. Mae Scarlets Llanelli a phartneriaid eraill yn defnyddio’r gwasanaeth hwn hefyd, sy’n cael ei ddarparu gan fyfyrwyr Coleg Sir Gâr. Gall holl fyfyrwyr yr academi ddefnyddio’r ystafell ffitrwydd i wneud ymarferion cyflyru aerobig ac ymwrthedd, a’r Ganolfan Dadansoddi Perfformiad, lle caiff eu cyflwr corfforol ei ddadansoddi’n wyddonol. Mae’r Academi Chwaraeon yn gysyniad cyffrous. Mae’n annog cyfranogiad mewn chwarae ac mae’r strwythur proffesiynol yn helpu myfyrwyr yng Ngholeg Sir Gâr i gyflawni eu potensial. Trwy gydweithio’n gadarnhaol â’n partneriaid, mae’r Coleg yn cynnig cymorth buddiol dros ben i fyfyrwyr, sydd wedi cyfrannu at sawl llwyddiant cenedlaethol a rhyngwladol.

Rhaglen Academaidd, Ddiwylliannol a Rhagoriaeth (ACE)
Nod rhaglen ‘ACE’ yw herio a chynorthwyo ein dysgwyr mwyaf galluog i’w helpu i gyflawni eu llawn botensial. Mae’r Coleg yn cydnabod bod angen rhaglenni penodol ar yr unigolion hyn, sydd wedi’u teilwra i helpu i’w cyfeirio tuag at eu prifysgol a’u gyrfa ddewisol. Mae staff Safon Uwch profiadol wedi rhoi rhaglen at ei gilydd a fydd yn ymestyn, herio a chyfoethogi dysgu ein myfyrwyr mwy galluog. Caiff dysgwyr ‘ACE’ gyfle i fanteisio ar ystod o weithgareddau mewn grwpiau tiwtorial arbenigol ar gyfer Meddygaeth, Milfeddygaeth, Deintyddiaeth, Mathemateg, Gwyddoniaeth, y Gyfraith ac Ieithoedd Tramor Modern i gymryd rhan mewn cyfleoedd cyfoethogi sy’n cynnwys cystadlaethau ‘World Skills’, cystadlaethau gwyddoniaeth a chymryd rhan mewn enghraifft o Gynhadledd y Cenhedloedd Unedig.

Effaith mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr

Mae lefelau hyder a medrau dysgwyr mwy galluog wedi gwella o ganlyniad i’r mentrau hyn. Mae’r rhaglen gydag ysgolion wedi helpu’r pontio i ddysgwyr a rhoi cyfle iddynt ymgysylltu â staff addysgu’r Coleg. Bu’r effaith ar gystadlaethau medrau yn nodedig hefyd, gan ganiatáu i ddysgwyr ddangos eu medrau galwedigaethau ar lefelau o safon fyd-eang. Mae hefyd wedi cael effaith ddwys ar brofiadau dysgu myfyrwyr ac wedi cynyddu ansawdd addysgu medrau galwedigaethol. Mae’r Academi Chwaraeon yn darparu cyfleoedd rhagorol i ddysgwyr yn eu disgyblaethau dewisol, ac wedi cyfrannu at nifer o lwyddiannau ar lefel genedlaethol a rhyngwladol.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn