Darparu cyfleoedd i ddysgwyr fireinio eu medrau iaith a dysgu mwy am ddiwylliant, hanes a materion cyfoes trwy gyfrwng llenyddiaeth a barddoniaeth. - Estyn

Darparu cyfleoedd i ddysgwyr fireinio eu medrau iaith a dysgu mwy am ddiwylliant, hanes a materion cyfoes trwy gyfrwng llenyddiaeth a barddoniaeth.

Arfer effeithiol

Dysgu Cymraeg Morgannwg/Learn Welsh Glamorgan

Person sy'n dal pen a llyfr nodiadau wedi'i labelu "Dysgu Cymraeg"

Gwybodaeth am yr ysgol/y darparwr

Mae Dysgu Cymraeg Morgannwg (DCM) yn un o 10 o ddarparwyr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ac yn gyfrifol am ddarparu cyrsiau Cymraeg i oedolion yn ardaloedd Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Merthyr ac ar-lein. Mae DCM yn rhan o Gyfadran Gwyddorau, Bywyd ac Addysg (FLSE) ym Mhrifysgol De Cymru. 

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Yn dilyn ymholiadau gan ddysgwyr sy’n dymuno ehangu eu dealltwriaeth a gwybodaeth o’r Gymraeg, dechreuodd DCM sefydlu cyrsiau sy’n canolbwyntio ar lenyddiaeth, yn arbennig cyrsiau byr ac yn ddiweddarach, cwrs barddoniaeth. Erbyn hyn, mae’r cwrs barddoniaeth 10 wythnos ‘O’r gair i’r gerdd’ yn cynnig cyfleoedd i’r dysgwyr ymarfer a datblygu eu sgiliau barddoni, wrth iddynt drafod barddoniaeth Gymraeg trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r cwrs hwn yn helpu dysgwyr i wella eu sgiliau drwy ddefnyddio’r iaith mewn ffordd greadigol a chymdeithasol, gan gyfuno dysgu iaith â myfyrio ar ddiwylliant a hanes y Gymraeg. Mae’r ymagwedd hon yn cynnig ffordd newydd a deniadol o ymgysylltu â’r iaith, gan leihau’r rhwystrau sy’n atal dysgwyr rhag ymdrin â’r iaith mewn amgylcheddau mwy ffurfiol neu draddodiadol. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Mae’r gweithgaredd yn cynnwys astudio cerddi ac archwilio’r technegau barddoniaeth fel cynganeddu ac arddulliau eraill, gyda’r tiwtor yn darparu arweiniad ac yn annog y dysgwyr i greu eu cerddi eu hunain rhwng y sesiynau. Mae’r tiwtor hefyd yn defnyddio enghreifftiau o gerddi sydd wedi’u hysbrydoli gan wahanol feysydd, fel cerddoriaeth, hanes a beirdd enwog, i ysgogi’r dysgwyr i feddwl yn greadigol. Ynghyd â hyn, mae’r tiwtor yn cyhoeddi cerddi’r dysgwyr yn ystod y sesiynau, gan ddangos cydnabyddiaeth o’u gwaith ac yn annog themâu newydd o ystyried a chydnabod yr hyn a ysbrydolodd eu creu. Mae llawer o’r dysgwyr wedi cyflwyno eu cerddi mewn eisteddfodau lleol, gan ddangos y lefel uchel o sgiliau a chreadigrwydd a ddatblygwyd drwy gyfrwng y cwrs. Mae’r ffordd hon o ymarfer a chydweithio hefyd yn hyrwyddo’r gwerth o rannu ac archwilio syniadau mewn ffordd sy’n rhoi gwerth ar y Gymraeg yn y byd heddiw. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a deilliannau i ddysgwyr ac/neu eu teuluoedd?

Mae’r gwaith hwn wedi cael effaith gadarnhaol sylweddol ar y dysgwyr, gan eu helpu i ddatblygu eu dealltwriaeth a’u medrau yn yr iaith Gymraeg a barddoniaeth. Mae’r dysgwyr yn cael y cyfle i ddysgu mwy am ddiwylliant, hanes, a materion cyfoes, yn ogystal â datblygu sgiliau critigol a chreadigol. Mae’r gwaith hwn hefyd yn darparu llwyfan i’r dysgwyr drafod syniadau a barn, a’u hannog i ystyried problemau cymdeithasol mewn ffordd Gymraeg. O ran y teuluoedd, mae’r effaith yn amlwg wrth i’r dysgwyr ddod yn siaradwyr Cymraeg mwy hyderus ac wrth iddynt gymryd rhan yn y gymuned Gymraeg mewn ffordd fwy gweithredol. Mae’r dysgwyr yn gwerthfawrogi’r cyfle i weithio’n greadigol a datblygu eu medrau wrth ddefnyddio’r iaith mewn cyd-destunau eraill, gan adlewyrchu eu gwerthusiad o’r iaith a’r diwylliant Cymreig. Mae hefyd yn helpu i greu dysgwyr sydd wedi meithrin ymdeimlad o falchder yn eu defnydd o’r Gymraeg, gan ddod yn siaradwyr Cymraeg gweithredol. 

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda yn yr ysgol, y sector a thu hwnt?

Mae’r arfer dda wedi cael ei rhannu’n eang ar draws y sector Dysgu Cymraeg. Yn ogystal, bydd yr arfer dda yn cael ei rannu ar blatfform digidol Dysgu Cymraeg Morgannwg, sydd yn darparu mynediad i adnoddau a gwybodaeth am y gweithgareddau a’r strategaethau a ddefnyddir yn y cyrsiau. Bydd y strategaethau hyn yn cael eu rhannu ymhlith timau academaidd y Gyfadran ac Uned Gymraeg Prifysgol De Cymru gan alluogi staff ac ymchwilwyr eraill i rannu ac ymchwilio i effeithiolrwydd y dulliau a gweithgareddau dysgu. Trwy’r cyfryngau hyn, mae’r arfer yn cael ei ledaenu’n ehangach, gan greu cyfleoedd ar gyfer dysgu a datblygiad parhaus ymysg aelodau’r sector ac eraill sy’n gysylltiedig â dysgu’r Gymraeg. 


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn