Darpariaeth i wella medrau Cymraeg ei disgyblion
Quick links:
Gwybodaeth am yr ysgol
Mae Ysgol Gymunedol Peniel wedi ei lleoli mewn pentref bach gerllaw Caerfyrddin, sy’n rhan o awdurdod addysg Sir Gaerfyrddin.
Darpara’r ysgol addysg i 123 o ddisgyblion 4-11 oed. Mae 5 dosbarth, gan gynnwys 3 dosbarth o ddisgyblion oedran cymysg a dau ddosbarth oedran unigol. Ychydig iawn o ddisgyblion sy’n siarad Saesneg fel iaith ychwanegol ac mae’r mwyafrif yn siarad Cymraeg gartref.
Mae’r cyfartaledd tair blynedd o ddisgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim tua 3%. Mae oddeutu 6% o ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.
Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol
Mae arwyddair yr ysgol ‘Un tîm, un teulu – llwyddo gyda’n gilydd’ ar waith yn llwyddiannus. Mae gan yr ysgol uchelgais strategol i wella a chodi safonau’n barhaus gan roi ffocws cryf ar y Gymraeg. Mae meithrin Cymry sy’n falch o’u hiaith a’u hunaniaeth yn nodwedd y mae cymuned yr ysgol yn angerddol amdano. Roedd codi a chynnal safonau’r Gymraeg yn flaenoriaeth ysgol gyfan ar gyfer 2021 – 2022.
I ddechrau, er mwyn adnabod anghenion yr ysgol a meysydd i’w gwella, gwerthuswyd y ddarpariaeth bresennol er mwyn gweld defnydd y disgyblion o ferfau wrth gyfathrebu, cywirdeb treigladau a chystrawen brawddegau yn gyffredinol, ynghyd ag addysgeg staff o iaith a’u parodrwydd i herio’r disgyblion. Gwelwyd tystiolaeth o ddiffyg cysondeb yn y ddarpariaeth wrth gynnig cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu eu Cymraeg ac ymarfer eu medrau llafar.
Yn sgil hyn, sicrhawyd digon o gyfleoedd i uwch sgilio staff gan ymweld ag arferion da a mynychu hyfforddiant yn seiliedig ar ddatblygu iaith disgyblion. Penderfynwyd ar gamau gweithredu fel tîm gyda ffocws clir ar gysondeb, disgwyliadau uchel, drilio iaith a chynllunio cyfleoedd penodol i’r disgyblion ymarfer medr llafar penodol.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd
Er mwyn datblygu medrau llafar Cymraeg y disgyblion yn naturiol, mae gan yr ysgol strategaethau effeithiol iawn, megis cynllunio drilio iaith clir, er mwyn datblygu eu hiaith llafar ymestynnol. Mae’r cynllun yn hyrwyddo’u dealltwriaeth a’u defnydd o elfennau ieithyddol fel treigladau a berfau ac mae wedi cael ei wreiddio ac ar waith ar draws yr ysgol. Mae’r tîm addysgu’n fodelau rôl ieithyddol cryf ac effeithiol ac mae pob un yn canolbwyntio ar ddatblygu medrau llafaredd y disgyblion am gyfnod penodol bob dydd. Mae’r staff ategol yn ogystal yn fodelau rôl ieithyddol gadarn iawn, maent yn atgyfnerthu’r patrymau a ffocws ieithyddol lafar sy’n cael eu drilio ar lawr y dosbarthiadau o ddydd i ddydd.
Mae sesiynau drilio iaith yn adeiladu’n gydlynol ar wybodaeth, dealltwriaeth a medrau cyfredol y disgyblion i sicrhau dilyniant wrth iddynt symud drwy’r ysgol. Gyda’r lleiafrif yn dechrau’r ysgol o gartrefi di-Gymraeg mae’r defnydd o ganu ac ail-adrodd rhigymau wedi bod yn hanfodol i ddysgu patrymau ieithyddol. Wedi hyn, mae’r ddarpariaeth wedi cael ei datblygu’n bwrpasol ac yn adeiladol ar gyfer ystod oedran gwahanol.
Trwy gynnig y ddarpariaeth gyson yma, rydym yn datblygu disgyblion sy’n gyfathrebwyr hyderus sydd â medrau llafar Cymraeg cadarn erbyn diwedd eu taith yn yr ysgol.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?
Mae ymrwymiad ac ymroddiad cymuned yr ysgol i sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu wedi cael effaith sylweddol ar fedrau llafar a pharodrwydd disgyblion i ddefnyddio’r iaith Gymraeg yn naturiol ac yn rhugl. Mae’r cynllunio bwriadus yn sicrhau continwwm ar draws yr ysgol sydd yn adeiladu ar ddyfnder ieithyddol, ehangder ieithyddol a dealltwriaeth o iaith. Mae disgyblion erbyn hyn yn llawer mwy parod i sgwrsio yn y Gymraeg, gan wneud hynny’n raenus mewn sefyllfaoedd ffurfiol ac anffurfiol. Heb os, mae’r cyfleoedd a’r cynllunio bwriadus wrth wraidd y cynnydd a’r datblygiad mewn medrau llafar Cymraeg.
Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?
Mae’r ysgol wedi rhannu ei harfer dda gyda staff yr awdurdod lleol ac ysgolion yr awdurdod. Mae arweinwyr a staff wedi croesawu cynnal ymweliadau gan ysgolion eraill.