Darpariaeth Gymraeg a dwyieithog ar gyfer dysgwyr 14-19 oed – Mai 2008
Adroddiad thematig
Argymhellion
Dylai Llywodraeth Cymru:
- nodi data gwaelodlin a gosod targedau ar gyfer rhwydweithiau 14-19 i gynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg a monitro cynnydd yn erbyn y targedau hynny; a
- hyrwyddo adnoddau cyfrwng Cymraeg ar-lein newydd a chodi ymwybyddiaeth darparwyr am yr hyn sydd ar gael ar hyn o bryd.
Dylai’r rhwydweithiau 14-19:
- nodi bylchau a gwendidau mewn darpariaeth Gymraeg ar draws darparwyr a gosod targedau i fynd i’r afael â nhw; a
- hysbysu darparwyr a dysgwyr am gymwysterau sydd ar gael yn Gymraeg.
Dylai darparwyr:
- farchnata eu cyrsiau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn fwy gweithredol;
- arfarnu cost-effeithiolrwydd cyrsiau, a chydweithio mwy i ddarparu cyrsiau cyfrwng Cymraeg ar y cyd â darparwyr eraill pan fydd niferoedd yn isel, er enghraifft, trwy ymestyn y defnydd o athrawon peripatetig; a
- chynyddu cymorth tiwtoriaid i ddysgwyr sy’n dilyn cyrsiau dysgu o bell trwy fideo-gynadledda neu e-ddysgu.