Darpariaeth gwasanaethau a chyfleusterau bro gan ysgolion – Mai 2008
Adroddiad thematig
Argymhellion
Dylai Llywodraeth Cymru:
- egluro trefniadau ariannu ar gyfer YB yn y dyfodol a sicrhau bod y trefniadau’n cefnogi cynllunio tymor canolig a thymor hir awdurdodau lleol; a
- sicrhau bod trefniadau ariannu yn y dyfodol yn hyrwyddo amcanion YB Llywodraeth Cymru yn fwy cadarn.
Dylai awdurdodau lleol:
- sicrhau eu bod yn ymgorffori eu strategaethau YB yn gadarn mewn blaenoriaethau, polisïau a chynlluniau corfforaethol; a
- gweithio’n agosach gyda phartneriaid strategol allweddol, yn enwedig iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.
Dylai ysgolion:
- ddwysáu eu hymdrechion i weithio gyda theuluoedd i wneud dysgu’n ddymunol i bobl o bob oedran;
- dwysáu eu gwaith i wella eu henw da yn y gymuned leol a phwysleisio gwerth cyfleoedd addysgol; a
- chynyddu mynediad cymunedol i’w cyfleusterau.