Darpariaeth effeithiol i ddisgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol

Arfer effeithiol

Ysgol Heulfan


 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Yn dilyn adolygiad o’r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol ar draws yr ysgol, penderfynwyd adeiladu ar yr arfer ragorol yn y ddarpariaeth ag adnoddau.  Fe wnaeth adolygiad gyd-daro ag arfarniad o strwythur staffio’r ysgol, a alluogodd un aelod o’r uwch dîm arwain i fod yn gyfrifol am uno’r ddarpariaeth ar gyfer lles, ymddygiad ac anghenion dysgu ychwanegol disgyblion.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn mynychu sesiynau grŵp lle maent yn rhannu syniadau gyda’r athro ynglŷn â beth yr hoffent ei ddysgu a sut.  Ar ddechrau bloc o waith, cytunir ar ‘Brosiect Dysgu’.  Gallai hyn fod er mwyn:

  • cynllunio taith i Wrecsam

  • ymweld â chaffi lleol i gael cinio

  • prynu eitemau bwyd a diod ar gyfer parti

  • trefnu agweddau gwahanol ar briodas

Mae’r tasgau dysgu yn rhai ymarferol a thrawsgwricwlaidd.  Maent yn annog disgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol i ddatblygu’u medrau bywyd go iawn, er enghraifft; bwcio tacsi, gwirio derbynneb, talu am eitemau; a gwirio newid.  Ceir ffocws bob amser ar ddatblygu medrau meddwl, cyfathrebu, TGCh a medrau rhif.  Caiff targedau penodol ar gyfer pob dysgwr eu cytuno ar ddechrau’r Prosiect Dysgu, a rhennir y rhain gyda rhieni hefyd.  Defnyddir waliau dysgu i gofnodi’r cynnydd dysgu, a rhennir hwn gyda rhieni.  Mae prosiectau ymgysylltu â theuluoedd a’r gymuned yn cael eu trefnu a’u darparu’n rheolaidd ar draws yr ysgol.  Roedd un prosiect arbennig o lwyddiannus yn cynnwys rhieni a’u plant yn dysgu iaith arwyddion gyda’i gilydd, a chafodd ei chyflwyno gan staff yr ysgol.  Roedd enghraifft lwyddiannus arall yn cynnwys rhieni disgyblion sydd ag anawsterau dysgu dwys a lluosog yn dysgu ochr yn ochr â’u plant a staff y dosbarth.  Roedd prosiect coginio amlsynhwyraidd yn arbennig o effeithiol o ran cael rhieni i ymgysylltu â dysgu’u plentyn.

Mae’r dulliau diwygiedig o ran addysgu disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn cynnwys arddull ddysgu fwy cydweithredol erbyn hyn, heb unrhyw daflenni gwaith cyfyngol wedi’u rhagbaratoi.  Caiff y disgyblion y cyfle i siarad, cynllunio, taflu syniadau ac ymchwilio.  Datblygant eu medrau personol a chymdeithasol drwyddi draw.  Mewn prosiect diweddar, penderfynodd y grŵp gynllunio taith i Wrecsam.  Aethant ati i daflu’u syniadau i nodi’r ffyrdd gwahanol o deithio, ac ystyried ‘manteision ac anfanteision’ pob dull teithio.  Aethant ymlaen i gerdded i’r orsaf drenau leol i edrych ar amserlenni a dysgont sut i’w darllen a’u deall.  Fe wnaeth dau ddisgybl ffonio’r orsaf dacsi lleol er mwyn prisio siwrnai tacsi yn gywir; roedd un disgybl yn siarad ac roedd disgybl arall yn recordio’r sgwrs gan ddefnyddio llechen yn hyderus.  Defnyddiodd aelodau eraill y grŵp y rhyngrwyd yn llwyddiannus i gael gwybodaeth am amserau gadael bysiau.  Roedd cyfleoedd helaeth i ddatblygu medrau llythrennedd a rhifedd y disgyblion trwy gydol y prosiect.  Daeth i ben gyda thaith i Wrecsam gan ddefnyddio’r dull teithio a gytunwyd.

Roedd prosiect llwyddiannus arall yn cynnwys dysgwyr yn cael y profiad o glywed seiren cyrch awyr a chuddio o dan eu byrddau.  Aeth y grŵp ymlaen i ysgrifennu cerdd ar y cyd am eu profiad a’u teimladau.  Roedd darn terfynol y gwaith llythrennedd hwn yn nodedig, ac roedd eu cerdd yn arwydd clir o faint yr oedd y disgyblion wedi ymgolli yn eu dysgu.

Er mwyn sicrhau bod rhieni’n cael gwybodaeth lawn ynglŷn â dulliau newydd yr ysgol, mae proses adolygiadau blynyddol yr ysgol wedi’i diweddaru hefyd i adlewyrchu’r arfer ragorol sydd eisoes yn amlwg yn y ddarpariaeth ag adnoddau.  Mae pob adolygiad blynyddol yn canolbwyntio ar y disgybl, ac mae ei farn a’i safbwyntiau wrth graidd y broses.  Proffiliau un tudalen yw’r man cychwyn ac fe’u hategir gyda fideos a ffotograffau o’r disgybl yn yr ysgol.  Mae’r adolygiad blynyddol yn ddathliad o beth sydd wedi’i gyflawni yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Mae Ysgol Heulfan yn ffodus i gael tîm mawr o staff profiadol yn gweithio ar draws yr ysgol ac yn y ddarpariaeth ag adnoddau ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol.  Mae’r ysgol yn ymdrechu’n barhaus i sicrhau bod pob disgybl, beth bynnag yw ei allu, yn cael cyfleoedd dysgu perthnasol, ystyrlon, bywyd go iawn i sicrhau y ‘gallant fod y gorau y gallant fod’.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

  • Mae monitro cynlluniau datblygu unigol yn dangos bod pob disgybl yn cyflawni’i dargedau.

  • Mae cael un unigolyn yn gyfrifol am les, ymddygiad ac anghenion dysgu ychwanegol disgyblion wedi arwain at eglurder i’r staff, disgyblion a rhieni.Mae’r unigolyn allweddol hwn yn wybodus iawn o ran ymyriadau gwahanol ac mae pawb yn ymddiried ynddo ac yn ei barchu.

  • Mae adolygiadau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn dangos bod disgyblion a rhieni yn hyderus a hapus gyda’r cymorth a gânt yn yr ysgol a’r cynnydd a wneir.

  • Mae fforymau rhannu yn yr ysgol yn galluogi lledaenu medrau’n barhaus, a chaiff hyn effaith gadarnhaol ar ddysgu a medrau disgyblion, ac ar ddatblygiad personol staff.

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol wedi rhannu ei dulliau gweithredu ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol gydag ysgolion o fewn eu clwstwr o ysgolion a gyda’r awdurdod lleol.  Mae hefyd wedi rhannu ei gwaith gydag ysgolion unigol ar gais.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn