Darpariaeth Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ar lefel 3 mewn ysgolion uwchradd – Gorffennaf 2012
Adroddiad thematig
Argymhellion
Dylai Llywodraeth Cymru:
- ystyried adolygu strwythur Cymhwyster Bagloriaeth Cymru, i adeiladu ar ei gryfderau a dileu ei wendidau;
- gweithio gydag ysgolion a CBAC i gynllunio sut i gyflwyno graddio i asesu Cymhwyster Bagloriaeth Cymru; ac
- adolygu’r trefniadau ar gyfer asesu cymwysterau medrau hanfodol.
Dylai cyrff dyfarnu:
- ddarparu arweiniad a deunyddiau enghreifftiol pellach i gefnogi ysgolion wrth gyflwyno ac asesu medrau hanfodol; a
- datblygu gwefan Bagloriaeth Cymru i gynnwys ystod ehangach o adnoddau cymeradwy, gan gynnwys adnoddau cyfrwng Cymraeg.
Dylai ysgolion uwchradd:
- monitro’n agosach y trefniadau ar gyfer cyflwyno ac asesu medrau hanfodol fel nad ydynt yn or-fiwrocrataidd;
- monitro ansawdd dysgu ac addysgu ym Magloriaeth Cymru fel rhan o’u gweithdrefnau hunanarfarnu arferol, gyda ffocws penodol ar gynnydd a safonau myfyrwyr; a
- chasglu a defnyddio arfarniadau myfyrwyr o’u profiadau o Fagloriaeth Cymru i wella’r ddarpariaeth.