Darpariaeth ar gyfer gofalwyr ifanc mewn ysgolion uwchradd, colegau addysg bellach ac unedau cyfeirio disgyblion ledled Cymru - Estyn

Darpariaeth ar gyfer gofalwyr ifanc mewn ysgolion uwchradd, colegau addysg bellach ac unedau cyfeirio disgyblion ledled Cymru

Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai ysgolion uwchradd, colegau ac UCDau​:

  • A1 Sicrhau bod ganddynt weithdrefnau cadarn i nodi pa rai o’u disgyblion/dysgwyr sydd â rôl ofalu
  • A2 Cael aelod o staff enwebedig sydd â chyfrifoldeb arweiniol am ofalwyr ifanc, sy’n gweithredu fel unigolyn cyswllt ar gyfer gofalwyr ifanc, ac yn hyrwyddo eu hanghenion
  • A3 Codi ymwybyddiaeth staff am anghenion gofalwyr ifanc
  • A4 Ymgysylltu â gwasanaethau arbenigol i adolygu a gwella eu darpariaeth i ddiwallu anghenion gofalwyr ifanc
  • A5 Olrhain a monitro cynnydd a deilliannau ar gyfer gofalwyr ifanc, yn unol â’r drefn ar gyfer grwpiau eraill o ddysgwyr sy’n agored i niwed
  • A6 Gwerthuso eu darpariaeth ar gyfer gofalwyr ifanc gan gyfeirio at y rhestr wirio yn Atodiad 1 neu becynnau cymorth sydd ar gael.

Dylai awdurdodau lleol:

  • A7 Ganolbwyntio strategaethau gofalwyr ar gynyddu capasiti ysgolion, colegau ac UCDau i nodi a diwallu anghenion gofalwyr ifanc

Dylai Llywodraeth Cymru​:

  • A8 Lunio data dibynadwy a gesglir yn genedlaethol i helpu nodi gofalwyr ifanc

Darparwyr dan sylw

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn