Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol - Estyn

Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol

Arfer effeithiol

Ysgol Gyfun Llangefni


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gyfun Llangefni yn ysgol uwchradd ddwyieithog i ddisgyblion 11 i 18 oed a gynhelir gan awdurdod lleol Ynys Môn. Lleolir yr ysgol yn nhref Llangefni yng nghanol Ynys Môn ac mae’n ardal Gymraeg ei hiaith yn bennaf.

Mae 719 o ddisgyblion ar y gofrestr, gan gynnwys 91 o ddisgyblion yn y chweched dosbarth. Mae 78.5% yn siarad Cymraeg ar yr aelwyd. Mae canran y disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim tua 18.9% ar gyfartaledd. Mae’r uwch dîm arwain yn cynnwys y pennaeth, dirprwy bennaeth, dau bennaeth cynorthwyol parhaol a dau bennaeth cynorthwyol dros dro.
 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mewn paratoad ar gyfer dyfodiad y Côd ymarfer newydd ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), mae’r ysgol wedi blaenoriaethu paratoi staff i’w galluogi i ddarparu’n hyderus ar gyfer disgyblion ag ADY. Mae hyn wedi digwydd ar sawl lefel sy’n cynnwys y llywodraethwyr, yr uwch dîm rheoli, rheolwyr canol, athrawon, cymorthyddion a staff ategol. Cred yr ysgol fod ADY yn gyfrifoldeb ar bawb a rhoddwyd y cyfrifoldeb i’r CADY i sicrhau fod gan pob aelod o staff y gallu i wireddu hyn.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae’r gofrestr ADY yn ddogfen fyw, gynhwysfawr sy’n cyfeirio’n benodol at rwystrau i ddysgu ac yn cynnwys arweiniad penodol ar sut i’w goresgyn. Yn ychwanegol, ceir dolenni uniongyrchol at broffiliau un tudalen pob disgybl ag ADY. Nodir gwybodaeth am unrhyw ddulliau cefnogi personol sy’n addas i bob unigolyn yn ogystal a chyfeiriad at strategaethau cefnogi cyffredinol.

Mae map darpariaeth yn cyfeirio’n benodol at yr holl ymyraethau sy’n cael eu cynnig gan yr ysgol. Telir sylw penodol i’r meini prawf mewnbwn ac allbwn i bob ymyrraeth unigol. Yn ychwanegol, rhoddir sylw i’r gweithredu pellach fydd ei angen pe na byddai’r ymyrraeth yn llwyddiannus.
Wrth lunio’r cynllun dysgu unigol, rhoddir sylw i ddyheadau disgyblion a cheisir llunio deilliannau sy’n arwain at y dyheadau hynny. O ganlyniad, sicrheir fod unrhyw ddarpariaeth addysgu ychwanegol yn ddisgybl ganolog.

Mae’r ysgol wedi adnabod dirywiad ym medrau sylfaenol disgyblion yn dilyn y cyfnodau clo, ac nid o reidrwydd yn y disgyblion fyddai angen darpariaeth ddysgu ychwanegol. Er mwyn ymateb i hyn nododd yr ysgol flaenoriaeth i sicrhau ‘Addysgu o Safon yn Gyntaf’ (Quality First Teaching) ar gynllun datblygu’r ysgol, sef datblygu strategaethau addysgu sy’n amlygu’r angen am ddulliau dysgu personol sy’n annog blaenoriaethu anghenion disgyblion ag ADY wrth gynllunio. 

Mae’r ysgol ar daith at geisio bod yn ysgol sy’n wybodus am drawma) sydd wedi cynnwys hyfforddiant ysgol gyfan, hyfforddiant UDRh a hwyluso i nifer o staff yr ysgol a’u rhanddeiliaid i gwblhau diploma perthnasol. Golyga hyn fod disgyblion ag ADY yn derbyn cyfleoedd i ddefnyddio dulliau amgen i gyfathrebu eu teimladau gan roi llai o bwyslais ar gyfathrebu geiriol neu ysgrifenedig.

Er mwyn gwireddu’r weledigaeth, mae’r ysgol wedi buddsoddi amser ac arian mewn hyfforddi cymorthyddion dosbarth. Paratowyd cyfleodd hyfforddiant cynhwysfawr megis rhaglen ‘Cymorthyddion Wrth eu Gwaith’, ELSA a ‘Drawing and Talking’. Yn ogystal, mae’r adran ADY wedi creu sbardunau sgwrsio i’w defnyddio gyda disgyblion er mwyn hybu annibyniaeth; gwaith sy’n seiliedig ar ymchwil yr EEF(Education Endowment Foundation).

Yn ddiweddar, mae’r adran ADY wedi gweddnewid eu dull o gynnal cyfarfodydd adrannol. Maent bellach yn cynnal cyfarfodydd ‘Datrysiad’ sy’n cynnig cyfleoedd i rannu arferion da ac arbrofi gydag ystod o strategaethau cefnogi.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

O ganlyniad i’r hyfforddiant a gyflwynwyd i’r holl staff ar y Côd Ymarfer newydd a blaenoriaethau’r cynllun datblygu ysgol, mae pob aelod o staff yn ymwybodol o’u dyletswydd wrth ddarparu’n briodol i ddiwallu rhwystrau at ddysgu disgyblion ag ADY. Mae hyn wedi galluogi adrannau i arfarnu eu darpariaethau ar gyfer y grwp penodol hwn o ddisgyblion. Defnyddir yr arfarniadau gwerthfawr hyn i gynllunio gwelliant i’r dyfodol drwy’r cynllun datblygu ysgol a chynlluniau datblygu adran.

Mae buddsoddiad mewn meddalwedd mapio darpariaeth wedi galluogi’r ysgol i arfarnu llwyddiant a gwerth am arian unrhyw ymyraethau sydd ar waith. Mewn achosion ble nad oes cynnydd, gellir cyfeirio’n ôl at y map darpariaeth i addasu’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol. Dengys arfarniadau diweddar fod sgriptiau ymateb y cymorthyddion wedi arwain at leihad mewn cefnogaeth arwynebol sy’n blaenoriaethu ‘cwblhau tasgau’ a chynnydd mewn arferion sy’n blaenoriaethu’r broses o ddysgu a meta wybyddiaeth. Mae’r dangosyddion yma hefyd yn adlewyrchiad cryf o lwyddiannau staff i wahaniaethu’n effeithiol ar gyfer disgyblion ag ADY. Mae arfarniadau o holiadur uwchradd ynghylch trawma hefyd yn dangos effaith cadarnhaol mae’r gefnogaeth a rhoddir i ddisgyblion ag ADY yn ei gael ar eu lles emosiynol.
 

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol yn cydweithio’n agos gydag ysgolion cynradd y dalgylch ac yn rhaeadru arferion da drwy gyfarfodydd cydlynwyr ADY y dalgylch. Mae’r ysgol yn cydweithio’n agos gydag ysgolion uwchradd Môn ac yn gwneud defnydd o gynllun cydweithio ‘Cynghrair Ysgolion Môn’ er mwyn rhannu’r arferion gorau ac i gasglu barn cydweithwyr eraill am y gwaith.
 


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn