‘Darganfod fy elfen’, darparu cyfleoedd i ddisgyblion ymgysylltu â gweithgareddau newydd a chyffrous i feithrin gwydnwch a magu hunanhyder
Quick links:
Gwybodaeth am yr ysgol
Sefydlwyd Genus Education ym mis Chwefror 2010 fel ysgol arbennig annibynnol ar gyfer disgyblion ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol. Gweinyddir yr ysgol gan Genus Care Limited sy’n gweithredu saith cartref plant ledled De Cymru ar hyn o bryd. Mae Genus Education yn darparu addysg ar gyfer plant sy’n byw yng nghartrefi plant y cwmni nad ydynt yn gallu derbyn addysg brif ffrwd. Mae’r ysgol wedi’i chofrestru ar gyfer hyd at ddeg disgybl rhwng saith ac un deg wyth oed. Mae chwe disgybl ar y gofrestr ar hyn o bryd, ac mae gan ryw hanner ohonynt ddatganiad o anghenion addysgol arbennig. Caiff yr holl ddisgyblion eu lleoli gan awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae’r pennaeth addysg wedi bod yn ei swydd er 2019 ac yn goruchwylio addysg ar draws safleoedd yr ysgol. Caiff ei gynorthwyo gan dîm o dri athro a staff gofal sy’n gweithio yn y cartrefi preswyl. Cynhaliwyd yr arolygiad llawn diwethaf gan Estyn ym mis Medi 2023. Roedd yr ymweliad monitro diwethaf ym mis Medi 2022.
Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol
Mae Genus Education, sy’n cael ei arwain gan ymrwymiad i addysg gyfannol, yn croesawu athroniaeth Syr Ken Robinson, sy’n cydnabod y doniau cynhenid arbennig ym mhob plentyn. Trwy ddeall arwyddocâd amlygu disgyblion i gasgliad amrywiol o weithgareddau, mae’r ysgol wedi cyflwyno menter ‘Darganfod fy Elfen’. Nod y rhaglen hon yw grymuso disgyblion trwy ddarparu cyfleoedd i archwilio diddordebau newydd, datblygu medrau cymdeithasol hanfodol ac amlygu doniau cudd. Mae Genus Education yn credu bod amlygrwydd cyfyngedig i weithgareddau amrywiol yn gallu bod yn rhwystr rhag darganfod y doniau hyn. Mae menter ‘Darganfod fy elfen’ (‘Finding my element’) yn cynnig platfform misol i ddisgyblion ymgymryd â sbectrwm eang o weithgareddau nad oeddent wedi cael eu harchwilio o’r blaen. Mae hyn nid yn unig yn meithrin twf personol a datblygiad cymdeithasol, ond mae hefyd yn gosod y sylfaen ar gyfer archwilio gyrfaoedd yn y dyfodol.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch
Mae’r fenter yn mynd rhagddi trwy weithgareddau archwilio misol sy’n cwmpasu chwaraeon, y celfyddydau, digwyddiadau diwylliannol, teithiau natur, gwasanaeth cymunedol, a gweithdai galwedigaethol. Er enghraifft: gwaith gof, celf graffiti, ffensio, gwaith dj, crochenwaith, syrffio, gweithdai hud a lledrith, marchogaeth a chrefft ymladd.
Mae’r gweithgareddau hyn yn gynhwysol, yn annog pob un o’r disgyblion o fewn Genus Education i gymryd rhan. Ymestynnir hyn trwy sesiynau myfyrio dan arweiniad i helpu disgyblion i ddisgrifio eu diddordebau esblygol a sgwrs benodol gyda hyfforddwyr yn rhoi manylion am lwybrau gyrfa o fewn y gweithgaredd. Mae’r strategaeth hefyd yn pwysleisio datblygu medrau cymdeithasol trwy weithgareddau grŵp ac yn ymgorffori cynlluniau dysgu personoledig i gyd-fynd â thwf academaidd a phersonol.
Mae menter ‘Darganfod fy elfen’ Genus Education yn meithrin archwilio, hunanddarganfod a datblygiad cymdeithasol. Nod yr ysgol yw paratoi disgyblion ar gyfer llwyddiant academaidd ond hefyd ar gyfer bywyd yn llawn diben a chyflawniad. Mae adolygu ac addasu’r fenter yn barhaus yn dangos ymroddiad i sicrhau ei llwyddiant parhaus wrth gyflawni ei hamcanion. Trwy’r polisi cynhwysfawr hwn, mae Genus Education yn ffurfio cenhedlaeth o ddisgyblion sydd wedi’u harfogi i gyfrannu’n gadarnhaol at gymdeithas a byw bywydau ag iddynt arwyddocâd.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?
Mae disgyblion yn darganfod angerdd sy’n mynd y tu hwnt i bynciau academaidd traddodiadol. Adlewyrchir y pwyslais ar fedrau cymdeithasol mewn perthnasoedd rhyngbersonol gwell, cyfathrebu effeithiol, cydweithredu, datrys gwrthdaro ac arweinyddiaeth. Mae’r cynlluniau dysgu personoledig yn sicrhau bod diddordebau disgyblion yn cael eu hintegreiddio yn eu taith addysgol, gan greu amgylchedd dysgu cefnogol. Mae’r fenter nid yn unig yn paratoi disgyblion ar gyfer dysgu gydol oes ac archwilio gyrfaoedd, ond hefyd yn cyfrannu’n gadarnhaol at eu twf personol a’u grymuso.
Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?
Mae Genus Education yn cydnabod pwysigrwydd partneriaeth gref rhwng yr ysgol a rhieni neu warcheidwaid. Caiff cyfarfodydd rheolaidd, diweddariadau cynnydd, gweithdai a chyfleoedd ar gyfer ymgysylltu gweithredol eu hwyluso i’w cynnwys yn nhaith addysgol eu plentyn. Mae’r ymagwedd gydweithredol hon yn sicrhau bod manteision ‘Darganfod fy elfen’ yn ymestyn y tu hwnt i waliau’r ysgol, gan greu system cymorth cyfannol ar gyfer y disgyblion.
Yn ychwanegol, mae’r ysgol yn mynd ati i rannu ei harferion da â’r gymuned addysgol ehangach.