Darganfod ffyrdd newydd o ehangu profiadau disgyblion
Quick links:
Gwybodaeth am yr ysgol
Mae Ysgol Gynradd Severn yn ardal Treganna yng Nghaerdydd. Mae 407 o ddisgyblion ar y gofrestr rhwng 4 ac 11 oed, a 146 o ddisgyblion meithrin pellach yn mynychu’r ysgol ar sail ran-amser.
Mae tua 24% o’r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, ac mae gan 25% ohonynt anghenion dysgu ychwanegol. Mae gan yr ysgol ddisgyblion o gefndiroedd amrywiol, gan gynnwys dros 50 o ieithoedd a thafodieithoedd, y rhai mwyaf cyffredin ohonynt yw Wrdw ac Arabeg. Mae llawer o ddisgyblion yr ysgol yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol.
Cyd-destun a chefndir i arfer sy’n arwain y sector
Mae’r ysgol yn gymuned eithriadol o gytûn a chynhwysol, sy’n cael ei hadlewyrchu yn ei datganiad o weledigaeth, sef: ‘Gyda’n gilydd rydym yn dysgu, gyda’n gilydd rydym yn tyfu’ (‘Together we learn, together we grow’).
Er bod bron i chwarter y disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, mae staff yn cydnabod y daw llawer mwy o’r disgyblion o gartrefi lle maent wedi cael profiadau bywyd cyfyngedig iawn. Er enghraifft, nid yw rhai o ddisgyblion yr ysgol erioed wedi ymweld â’r traeth neu’r sinema, nac wedi bod i ganol y ddinas.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch
Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae’r ysgol wedi canolbwyntio ar ddod o hyd i ddulliau arloesol i ehangu profiadau disgyblion a’u hannog i fod yn uchelgeisiol.
Nod prosiect ‘Sand Between Our Toes’ yr ysgol yw rhoi rhai o’r gweithgareddau diwylliannol, chwaraeon, creadigol ac anturus i ddisgyblion y mae’n bosibl nad ydynt wedi cael profiad ohonynt. Mae’r ysgol wedi cyflawni hyn trwy gynllunio dros 40 o ymweliadau i ddisgyblion o’r dosbarth Derbyn i Flwyddyn 6, a gwahodd ystod eang o ymwelwyr i’r ysgol i wella’r cwricwlwm.
Mae’r ysgol yn defnyddio lleoliadau diwylliannol ledled Caerdydd i danio chwilfrydedd y disgyblion a datgelu doniau efallai nad ydynt wedi’u darganfod hyd yn hyn, er enghraifft Neuadd Dewi Sant, amgueddfeydd, canolfannau celfyddydau lleol a mannau addoli lleol. Mae ymwelwyr fel Opera Cenedlaethol Cymru, grwpiau theatr ac adroddwyr storïau yn helpu i ysbrydoli disgyblion a chodi eu dyheadau, gan eu galluogi i sylweddoli a gwerthfawrogi’r ystod eang o gyfleoedd sydd ar gael iddynt yn lleol.
Mae partneriaethau â llawer o sefydliadau chwaraeon yn galluogi disgyblion i gael profiad o ystod eang o weithgareddau. Yn fwyaf diweddar, mae’r rhain wedi cynnwys jiwdo a badminton. Cychwynnwyd clwb amlchwaraeon sy’n denu llawer iawn o ferched yn sgil staff yn nodi cymhareb isel y merched Mwslimaidd sy’n cymryd rhan mewn clybiau chwaraeon.
Bu ysbrydoli creadigrwydd yn ei disgyblion yn amlweddog, ac mae prosiectau’n amrywio o beirianneg i berfformiadau cerddorol. Mae gan Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) broffil uchel yn yr ysgol, ac mae peirianwyr lleol yn gweithio gyda disgyblion yn ystod ac ar ôl y diwrnod ysgol.
Mae staff yn ysbrydoli disgyblion i ddatblygu eu medrau anturus ar bob lefel, o ddyddiau mewn canolfannau gweithgareddau awyr agored (y mae cymdeithas rhieni ac athrawon yr ysgol yn talu amdanynt) i sgrialu pyllau glan môr neu gicio dail yn y parc.
Roedd gan lawer o ddisgyblion yr ysgol ddyheadau cyfyngedig iawn gynt, ac nid oeddent yn gallu nodi gyrfa ar gyfer y dyfodol na delfryd ymddwyn. O ganlyniad, datblygodd yr ysgol wythnos ‘Agorwch Eich Llygaid/Open Your Eyes’ i ddisgyblion Blwyddyn 6. Bob blwyddyn, mae staff yn gwahodd gweithwyr proffesiynol o ystod eang o alwedigaethol i siarad am eu gwaith a’r hyn â’u hysbrydolodd, gan sicrhau ei fod yn herio ystrydebau. Bellach, mae’r wythnos hon yn cynnwys disgyblion o Flwyddyn 5 hefyd.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?
Mae ffocws yr ysgol ar ddod o hyd i ddulliau dychmygus i ehangu profiadau disgyblion a’u hannog i fod yn uchelgeisiol wedi arwain at agwedd fwy uchelgeisiol a chadarnhaol gan ddysgwyr tuag at eu dyfodol.
“Ar ôl i mi gael addysg, galla’ i wneud unrhyw beth mewn bywyd.” J.O, 11 oed.
“Does neb wedi fy ysbrydoli fel chi… Nawr dw i’n gwybod bod gen i ddyfodol disglair. Nawr dw i am fwrw ati a gweithio’n arbennig o galed” N.S. 10 oed.
“Dw i’n gwybod nad oes ots am fy nghefndir o ran cyflawni fy nodau.” M.M. 11 oed.
“Mae eich gwaith chi mor gyfareddol, mae wedi newid fy nyfodol.” K.S. 10 oed.