Cysylltu’r cenedlaethau - Estyn

Cysylltu’r cenedlaethau

Arfer effeithiol

St Mary’s C in W Voluntary Aided School


 
 
Gwybodaeth am yr ysgol

Ysgol wirfoddol a gynorthwyir 3-11 cyfrwng Saesneg yn awdurdod lleol Blaenau Gwent yw Ysgol Yr Eglwys yng Nghymru’r Santes Fair.  Mae’n darparu addysg yr Eglwys yng Nghymru ar gyfer cymuned Bryn-mawr a’r ardal ehangach.  Mae’r ysgol yn Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu.  Mae 248 o ddisgyblion ar y gofrestr.

Mae tua 12% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sydd islaw’r cyfartaledd cenedlaethol mewn ysgolion cynradd, sef 18%.  Mae bron pob un o’r disgyblion yn siarad Saesneg fel eu mamiaith ac yn dod o gefndir gwyn, Prydeinig.  Nid yw unrhyw ddisgyblion yn rhugl yn y Gymraeg.

Mae gan ryw 12% o ddisgyblion anghenion addysgol arbennig.  Mae hyn yn is na’r ffigur cenedlaethol, sef 21%.  Cyfran y disgyblion sydd â datganiad o anghenion addysgol arbennig yw  1%.  Mae hyn islaw’r ffigur cenedlaethol, sef 2.4%.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mynychodd aelod o’r uwch dîm arweinyddiaeth, sydd hefyd yn arwain côr yr ysgol, lansiad digwyddiad ‘Cysylltu’r Cenedlaethau’ Ffrind i Mi ym mis Mehefin 2018, ac fe wnaeth hyn ei hysbrydoli i gysylltu â chartref gofal lleol i archwilio’r syniad i gôr yr ysgol ymweld, a datblygu côr rhwng y cenedlaethau, o bosibl.  Y prif nod i’r ysgol oedd ‘rhoi’n ôl’ i’r gymuned: gwella iechyd a lles yr oedolion hŷn a rhoi cyfle i’r plant ryngweithio â phobl eraill.  Byddai’r prosiect hefyd yn gweddu’n agos i raglen lles ac addysg yr ysgol, sy’n seiliedig ar werthoedd.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae Côr yr Ysgol, sy’n cynnwys tua 45 o ddisgyblion (40% o gyfnod allweddol 2 / 20% o boblogaeth yr ysgol gyfan) yn ymweld â chartref gofal lleol bob wythnos i ymarfer ar y cyd â phreswylwyr.  Mae’r sesiwn yn cynnwys caneuon cynhesu, ymarfer caneuon eraill ac amser anffurfiol ar y diwedd i’r disgyblion sgwrsio a chymdeithasu â’r preswylwyr lleol.  Cymaint yw poblogrwydd y sesiynau, mae preswylwyr o gyfleusterau gofal eraill, aelodau teulu preswylwyr y cartref gofal ac aelodau eraill o’r gymuned yn mynychu.  Er enghraifft, mae Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn mynychu’n rheolaidd ar gyfer y sesiynau. 

I ddechrau, amcan y côr rhwng y cenedlaethau oedd perfformio mewn cyngerdd cymunedol i goffáu canmlwyddiant y Cadoediad.  O ganlyniad i frwdfrydedd pawb sydd wedi cymryd rhan, mae’r côr wedi parhau i fynd o nerth i nerth, gan barhau i ymarfer bob wythnos a pherfformio’n rheolaidd mewn digwyddiadau cymunedol.  Mae’r prosiect rhwng y cenedlaethau yn parhau i ddatblygu elfennau pellach.  Mae grŵp iwcalili eisoes wedi’i sefydlu gydag ymarferion wythnosol, mae clwb garddio yn dechrau yn ystod yr Haf a bwriedir dechrau clwb coginio ar gyfer y misoedd i ddod.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae pawb sy’n mynychu yn mwynhau’r rhyngweithio a’r canu, ac mae staff y cartref gofal yn sylwi bod rhai o’r preswylwyr yn ‘dod yn fyw’ pan fydd y plant yn ymweld, gan mai’r côr bellach yw uchafbwynt yr wythnos i lawer o’r preswylwyr.  Mae staff yr ysgol wedi gweld disgyblion yn datblygu o ran hyder a hunan-barch fel rhan o’r prosiect trwy’r perfformiadau ar y cyd a’r rhyngweithio cymdeithasol.  Mae’r côr wedi rhoi cyfle gwerthfawr i ddisgyblion ymarfer a gwella medrau llythrennedd yn rheolaidd.  Mae’r disgyblion yn hynod falch o’u côr, ac mae hyn wedi cyfrannu’n dda at synnwyr disgyblion o werth a chyflawniad.  Ni ellir tanamcangyfrif gwerth y perthnasoedd a ffurfiwyd, ac fe gaiff anrhegion a chardiau pen-blwydd eu cyfnewid. 

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae’r côr wedi perfformio mewn nifer o ddigwyddiadau cymunedol, gan rannu’r gwaith da tra’n darparu cyfleoedd gwerthfawr i’r côr berfformio.  Mae’r côr hefyd wedi perfformio mewn cynadleddau rhwng y cenedlaethau, gan roi mwy o gyfle i roi enghraifft wirioneddol o waith rhwng y cenedlaethau i’r rhai sy’n mynychu.  Mae’r côr wedi cymryd rhan mewn ambell astudiaeth achos, gan gynnwys yr un ar gyfer yr Esgobaeth, a chwblhawyd fideo o’u gwaith yng Ngwanwyn 2019.  

Mae’r ysgol wedi defnyddio cyfryngau cymdeithasol hefyd i rannu’r arfer dda, ond mae hefyd yn dangos y mwynhad, y budd a’r gwerth a gaiff disgyblion a phreswylwyr y cartref gofal o’r prosiect arbennig hwn.