Cyrsiau safon uwch mewn dosbarthiadau chweched a cholegau addysg bellach
Adroddiad thematig
Agymhellion
Dylai ysgolion a cholegau:
- A1 Wella deilliannau Safon Uwch, yn enwedig ar lefel UG, ac yn enwedig deilliannau bechgyn
- A2 Gwella’r cyngor a’r arweiniad a roddir i ddysgwyr trwy:
- a. ystyried lefelau cyrhaeddiad addysgol dysgwyr mewn TGAU yn ofalus wrth roi cyngor ac arweiniad
- b. rhoi gwybodaeth gywir a chyfoes i ddysgwyr am ystod lawn y cyfleoedd chweched dosbarth, addysg bellach a phrentisiaeth sy’n agored iddynt
- c. rhoi cyngor ar y cyfuniadau gorau o bynciau iddynt
- ch. datblygu polisi clir ar ddilyniant o UG i Safon Uwch
- d. ystyried yn ofalus nifer y cymwysterau a ddilynir gan bob dysgwr, gan ystyried llwybr dilyniant tebygol pob dysgwr
- A3 Gwella medrau dysgu annibynnol dysgwyr cyn-16 er mwyn eu paratoi ar gyfer astudiaethau Safon Uwch
- A4 Gweithio gyda’i gilydd i wella cyfleoedd dysgu proffesiynol sy’n gysylltiedig ag addysgu Safon Uwch
- A5 Rhoi sylw priodol i ddeilliannau a darpariaeth mewn Safon Uwch ac UG mewn prosesau hunanarfarnu a chynllunio gwelliant
Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:
- A6 Hwyluso rhwydweithiau dysgu proffesiynol sy’n gysylltiedig â Safon Uwch ar draws ysgolion a cholegau
- A7 Helpu ysgolion i arfarnu effeithiolrwydd eu darpariaeth Safon Uwch
Dylai Llywodraeth Cymru:
- A8 Fonitro llwyddiant y setiau data mesurau cyson newydd ar draws ysgolion a cholegau
- A9 Sicrhau bod newidiadau i’r cwricwlwm a chymwysterau yn rhoi parhad a dilyniant
- A10 Adolygu’r fformiwla cyllid ar gyfer cyrsiau Safon Uwch mewn ysgolion a cholegau, a’i gymhwyso ar draws awdurdodau, gyda’r nod i ddileu canlyniadau anfwriadol, fel annog dysgwyr nad ydynt yn addas ar gyfer astudio cyrsiau Safon Uwch i wneud hynny
- A11 Datblygu ffordd o gyfleu i ddysgwyr a’u rhieni wybodaeth glir am gyrhaeddiad a darpariaeth Safon Uwch mewn canolfannau unigol