Cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn y gweithlu addysg - Estyn

Cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn y gweithlu addysg

Arfer effeithiol

Dysgu Cymraeg Ceredigion – Powys – Sir Gâr / Learn Welsh Ceredigion – Powys – Carmarthenshire


Gwybodaeth gyd-destunol fras am y darparwr/bartneriaeth

Mae Dysgu Cymraeg Ceredigion Powys Sir Gâr (DCCPSG) yn flaengar ymysg darparwyr CiO yng Nghymru wrth gynllunio’n fwriadus, mewn partneriaeth â sefydliadau eraill i hyfforddi’r gweithlu addysg yn unol â blaenoriaethau cenedlaethol i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg gweithredol.

Nodwch sut mae’r maes arfer ragorol/arfer sy’n arwain y sector a nodwyd yn ystod arolygiad, yn ymwneud â chwestiwn allweddol, dangosydd ansawdd a/neu agwedd benodol:

Mae DCCPSG yn hyfforddi’r gweithlu addysg gyda chyrsiau gweithle wedi’u teilwra i staff ysgolion Ceredigion a Phowys, er mwyn cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn y gweithlu. Maent yn gweithio’n agos gyda swyddogion addysg Cyngor Ceredigion a Phowys i adnabod y staff sydd angen hyfforddiant ac i deilwra cyrsiau perthnasol iddynt.  

Maent hefyd yn cydweithio’n werthfawr â Rhagoriaith, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS,) wrth hyfforddi’r gweithlu addysg a rhannu addysgeg y sector gyda darpar athrawon a hyfforddwyr athrawon.  Drwy gyfranogi yn y cynllun hwn mae DCCPSG yn gwireddu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru i ehangu darpariaeth dysgu Cymraeg dwys i’r gweithlu addysg.

Cyd-destun a chefndir i arfer ragorol/arfer sy’n arwain y sector

Yn ystod y cyfnod clo bu cynnydd yn y galw am gyrsiau gweithle ar wahanol lefelau ar-lein i’r gweithlu addysg ym Mhowys a Cheredigion. Mae DCCPSG yn ymwneud â’r Cynllun Sabothol i athrawon ers dros ddeg mlynedd, ac mae bellach yn gweithio mewn partneriaeth strategol â Rhagoriaith yn PCYDDS i ddarparu cyrsiau dwys ar gyfer y gweithlu addysg. Ers Medi 2021, mae cydlynydd cyrsiau gweithle’r darparwr wedi ei secondio yn rhan amser i Rhagoriaith am dridiau’r wythnos i ddysgu cyrsiau sabothol i athrawon a chynorthwy-wyr dosbarth ym Mhowys. Mae hyn wedi arwain at gyfleoedd i rannu arfer da rhwng y ddau sefydliad a’r ddwy sector. Mae’r cydlynydd yn rhannu arfer dda am fethodoleg dysgu Cymraeg ail iaith mewn ysgolion gyda thiwtoriaid y cyrsiau gweithle, sydd yn eu tro yn rhannu’r arfer da i’r gweithlu addysg iddynt hwy ei efelychu yn eu hysgolion.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd a nodwyd fel arfer ragorol/arfer sy’n arwain y sector

Mae’r cydweithio strategol hwn yn cael ei ddatblygu ymhellach drwy gynllunio llwybrau dilyniant addas i ymarferwyr cyrsiau Sabothol Cenedlaethol ar gyrsiau Dysgu Cymraeg, er mwyn i’r dysgwyr fanteisio’n llawn ar bolisi Llywodraeth Cymru i ganiatáu mynediad yn rhad ac am ddim i’r gweithlu addysg ar gyrsiau Dysgu Cymraeg. Mae’r cydlynydd yn trafod cyrsiau Dysgu Cymraeg addas gydag ymarferwyr y cyrsiau Sabothol yn ogystal â rhannu manylion digwyddiadau allgyrsiol lleol a drefnir gan DCPCSG e.e. cymerodd  tîm o athrawon y cwrs Sabothol ran yn y Cwis Mawr ardal Maldwyn yn 2022, cyfle iddynt gymdeithasu a defnyddio eu Cymraeg yn y gymuned leol yn ogystal â’r ysgol. Bu’r cydlynydd mewn trafodaethau gydag un ysgol wrth gydlynu cwrs Dysgu Cymraeg yn yr ardal fel bod athrawes a wnaeth gwrs Sabothol Sylfaen yn medru mynychu dosbarth cymunedol yn ei hamser cynllunio a pharatoi.

O ganlyniad mae’r athrawes wedi parhau gyda’i hastudiaethau, a bellach hi yw Cydlynydd yr iaith Gymraeg yn yr ysgol a bydd yn dychwelyd i gwrs Sabothol ar lefel Canolradd.  Cryfder y gwaith hwn yw ei fod yn seiliedig ar gydweithio gydag awdurdodau lleol, Rhagoriaith, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ac ysgolion unigol gan ddwyn arbenigedd o ddisgyblaethau gwahanol at ei gilydd er lles hyfforddi’r gweithlu addysg ym Mhowys a Cheredigion.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr

Oherwydd y cydweithio agos a chynllunio bwriadus mae cyrsiau DCCPSG i’r gweithlu addysg wedi llwyddo i fagu hyder yr ymarferwyr iddynt ddefnyddio’r iaith oedd ganddynt yn barod, dysgu patrymau iaith newydd addas i’w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth gyda disgyblion a staff eraill a thrafod methodoleg dysgu Cymraeg i blant ysgolion ail iaith.  Mae hyn wedi cael effaith uniongyrchol ar safonau’r ymarferwyr a’r defnydd o Gymraeg yn yr ysgolion.