Cynorthwywyr Cymorth Dysgu yn arwain ar raglenni ymyrraeth - Estyn

Cynorthwywyr Cymorth Dysgu yn arwain ar raglenni ymyrraeth

Arfer effeithiol

Herbert Thompson Primary


Cyd-destun a chefndir i arfer sy’n arwain y sector

Mae Herbert Thompson Primary School yn gwasanaethu ardal Trelái yng Nghaerdydd. Mae mwyafrif y disgyblion o gefndir ethnig gwyn ac mae’r gweddill o grwpiau ethnig cymysg. Mae Saesneg yn iaith ychwanegol i 17% o ddisgyblion ac nid oes unrhyw ddisgyblion yn siarad Cymraeg fel mamiaith. Mae gan ryw 51% o ddisgyblion hawl i gael prydau ysgol am ddim, sydd gryn dipyn yn uwch na’r cyfartaledd ar gyfer yr awdurdod lleol a Chymru. Mae’r ysgol wedi nodi bod gan ryw 45% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol, gan gynnwys rhai ohonynt sydd â datganiadau o anghenion addysgol arbennig. Mae nifer y disgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol gryn dipyn yn uwch na chyfartaledd yr awdurdod lleol. Datganiad cenhadaeth yr ysgol yw ‘Find your talents, let them grow. Be the person that you’d like to know’.

Gweledigaeth yr ysgol yw ‘bod pob aelod o gymuned Herbert Thompson yn byw gyda gwerthoedd ac ymddygiadau cadarnhaol a bod ganddynt y dyheadau a’r medrau i symud yn llwyddiannus i gyfnod nesaf eu bywydau’.

Mae Herbert Thompson yn defnyddio system effeithiol o olrhain disgyblion i fonitro cynnydd disgyblion. Mae hyn yn rhoi cyfoeth o wybodaeth a data defnyddiol i staff ar gyrhaeddiad disgyblion mewn llythrennedd a rhifedd wrth iddynt symud trwy’r ysgol. Mae athrawon yn dadansoddi’r wybodaeth i baratoi ar gyfer ‘Adolygiadau Dysgu’ tymhorol yr ysgol. Mae Adolygiadau Dysgu yn cynnwys athrawon, yr Arweinydd Cynhwysiant a’r Pennaeth, sy’n trafod cynnydd pob plentyn yn fanwl. Mae hyn yn hyrwyddo cysondeb ar draws yr ysgol ac yn sicrhau bod y staff yn deall anghenion disgyblion yn well. Yn ystod yr Adolygiadau Dysgu, mae staff yn diwygio darpariaeth i fodloni anghenion dysgwyr unigol a grwpiau i sicrhau bod pob un o’u hanghenion yn cael eu bodloni’n briodol. Mae staff yn creu ‘Mapiau Anghenion Dysgu Ychwanegol’ ac yn cofnodi unrhyw gamau pellach sydd wedyn yn gyfrifoldeb yr Arweinydd Cynhwysiant. Mae staff yn gwneud cysylltiadau priodol gydag asiantaethau allanol ac yn cwblhau a mynd i’r afael ag unrhyw gyfeiriadau sydd eu hangen.

Natur strategaeth neu weithgaredd a nodwyd yn arfer sy’n arwain y sector

Mae’r ysgol yn canolbwyntio’n barhaus ar wella ac mae ganddi synnwyr cryf o gyfrifoldeb ac atebolrwydd. Roedd arnom eisiau ymestyn hyn ymhellach gyda chynorthwywyr cymorth dysgu. Roedd arnom eisiau mynd ar drywydd y cyfoeth o arfer ragorol ac effeithiol trwy gynorthwyo cynorthwywyr cymorth dysgu i ddatblygu’n broffesiynol trwy ddadansoddi data a deall effaith eu gwaith.

Felly, rhoddodd yr ysgol gyfleoedd priodol i gynorthwywyr cymorth dysgu arbenigo mewn ystod o raglenni ymyrraeth a’u harwain i gynorthwyo disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol. Trwy greu hinsawdd broffesiynol lle caiff doniau a diddordebau staff eu datblygu a’u gwerthfawrogi, sicrhawyd bod ymyriadau’n gweddu’n dda i fedrau tîm ymroddgar.

Cyflwynodd arweinwyr fodel rheoli llinell clir lle mae pob cynorthwyydd cymorth dysgu yn atebol i athrawon dosbarth a’r Arweinydd Cynhwysiant. Gan adeiladu ar lwyddiant yr Adolygiadau Dysgu, cafodd ‘Adolygiadau Dysgu Bach’ eu cyflwyno a’u rhoi ar waith i olrhain effaith pob ymyrraeth yn fanwl. O ganlyniad, mae cynorthwywyr cymorth dysgu wedi datblygu perchnogaeth o’u rhaglenni ymyrraeth a’u meysydd dysgu, gan arwain at welliant mewn safonau ar draws yr ysgol.

Caiff Adolygiadau Dysgu Bach eu cynllunio’n ofalus a’u cynnal ar ddiwedd pob hanner tymor. Rhoddir apwyntiad Adolygiad Dysgu Bach i bob cynorthwyydd cymorth dysgu ac offeryn olrhain unigol i sicrhau bod data yn cysylltu’n uniongyrchol â meysydd dysgu penodol. Mae cynorthwywyr cymorth dysgu yn paratoi ar gyfer data mewnbwn eu hadolygiad ar gyfer pob disgybl ac yn cwblhau arfarniadau byr i godi unrhyw bryderon ynghylch diffyg cynnydd posibl neu anawsterau annisgwyl yn codi o fewn y rhaglen. Yn ystod yr Adolygiad Dysgu Bach, mae’r Arweinydd Llythrennedd a’r Arweinydd Cynhwysiant yn trafod a dadansoddi cynnydd disgyblion unigol. Trwy wneud penderfyniadau ar y cyd, maent yn addasu’r ddarpariaeth i fodloni anghenion pob disgybl a gwella deilliannau disgyblion yn gyson. Mae’r adolygiadau hefyd yn ymwneud â thargedau rheoli perfformiad cynorthwywyr cymorth dysgu sy’n cael eu harfarnu yn ystod pob adolygiad. Yn unol ag Adolygiadau Dysgu, mae arweinwyr uwch dimau arweinyddiaeth yn cofnodi unrhyw gamau pellach sydd eu hangen i sicrhau’r cyfleoedd dysgu gorau ar gyfer disgyblion a staff. Ar ddiwedd pob tymor, mae uwch arweinwyr yn arfarnu’r holl raglenni ymyrraeth, gan lunio barn am gynnydd a nodi ffyrdd ymlaen.

Effaith mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr

Mae athrawon a chynorthwywyr cymorth dysgu yn credu y gall pob plentyn gyflawni’n dda. Maent yn teimlo bod ganddynt gyfrifoldeb a’u bod yn atebol am eu gwaith. Maent yn teimlo eu bod wedi eu grymuso, eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u paratoi’n dda i wneud yr hyn sy’n ddisgwyliedig ohonynt. Erbyn hyn, mae gan staff lefelau uchel o hyder a brwdfrydedd ac mae pob un ohonynt wedi datblygu medrau arweinyddiaeth, gan rannu arfer gydag ysgolion eraill.

Caiff pob disgybl gymorth targedig naill ai yn yr ystafell ddosbarth neu drwy raglenni ymyrraeth cynlluniedig.

Mae bron pob disgybl sy’n dilyn rhaglenni ymyrraeth ychwanegol yn gwneud cynnydd da iawn mewn cyfnod byr.

Yn ogystal, mae hyn wedi gwella presenoldeb ac wedi lleihau nifer y gwaharddiadau yn sylweddol.

Er gwaethaf lefelau uchel o anfantais a gwaelodlinau isel iawn, mae perfformiad ar ddiwedd cyfnod allweddol 2 wedi parhau i wella ac mae wedi bod yn uwch na’r teulu, yr awdurdod lleol a Chymru am y pedair blynedd diwethaf mewn Saesneg a’r ddwy flynedd ddiwethaf mewn mathemateg a gwyddoniaeth. Mae disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn perfformio cystal â’r rhai nad ydynt yn gymwys i’w cael.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn