Cynorthwyo dysgwyr mewn unedau cyfeirio disgyblion i ddychwelyd i ysgolion prif ffrwd - Estyn

Cynorthwyo dysgwyr mewn unedau cyfeirio disgyblion i ddychwelyd i ysgolion prif ffrwd

Arfer effeithiol

Denbighshire PRU


 

Gwybodaeth am yr ysgol

Uned cyfeirio disgyblion pob oed ar gyfer disgyblion sydd ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol (ACEY) yw UCD Portffolio Sir Ddinbych, sy’n gweithredu ar draws tri safle.  Mae’r prif safle yn Ysgol Plas Cefndy yn cynnig darpariaeth o’r cyfnod sylfaen i gyfnod allweddol 4.  Mae safle Rhuthun yn cynnig darpariaeth Cam wrth Gam ar gyfer disgyblion yn y sector cynradd.  Mae’n darparu lleoliadau tymor byr a rhan-amser.  Mae safle ychwanegol yn Y Rhyl yn cynnig darpariaeth Cerrig milltir ar gyfer grŵp o ddisgyblion cyfnod allweddol 3 a 4 sydd â lefelau uchel o orbryder.

Mae tua 80% o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim.  Mae gan 14% o ddisgyblion ddatganiadau o anghenion addysgol arbennig ac mae pob disgybl ar y gofrestr anghenion addysgol arbennig.  Mae disgyblion o gartrefi Saesneg eu hiaith yn bennaf.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae Ysgol Plas Cefndy yn un gwasanaeth sy’n cwmpasu UCD yr awdurdod lleol, ochr yn ochr â thîm cymorth allymestyn ledled y sir, sy’n rhoi cymorth i ysgolion o’r meithrin i Flwyddyn 11.  Mae cael tîm 

allymestyn, y gellir galw arno i weithio yn yr UCD ar unrhyw adeg, yn rhan annatod o’r gwaith sy’n cael ei wneud gan yr UCD, ac mae wrth wraidd ffurfio cysylltiadau cryf ac effeithiol gydag ysgolion prif ffrwd cyn, yn ystod ac ar ôl lleoliad.  Nod yr UCD yw dychwelyd i addysg prif ffrwd neu i addysg bellach, hyfforddiant neu gyflogaeth.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Cyn ystyried disgybl ar gyfer lleoliad UCD, ceir ymateb graddedig cytûn, y mae ysgolion yn ei ddilyn i geisio cadw disgyblion mewn ysgol prif ffrwd.  Mae’r UCD yn cefnogi’r ymateb hwn trwy’r gwasanaethau allymestyn y mae’n eu darparu.  Mae aelodau’r tîm yn gweithio ochr yn ochr ag ysgolion, gan ddarparu ymyrraeth mewn argyfwng, sesiynau grŵp ac un i un, cyngor i staff a hyfforddiant teilwredig.  Mae gan yr UCD bolisi drws agored hefyd, sy’n annog staff yn yr ysgol i ymweld â’r UCD i arsylwi arfer orau.

Erbyn yr adeg y caiff disgybl ei gyfeirio ar gyfer lleoliad, bydd yr UCD eisoes yn ei adnabod.  Bydd gan staff yr UCD ddealltwriaeth o’r hyn sy’n rhwystro’r disgybl rhag dysgu, a bydd yn gallu teilwra’r cwricwlwm i’w helpu i oresgyn y rhwystrau hyn a dychwelyd i ysgol yn llwyddiannus, neu goleg ar gyfer y rheiny ym Mlwyddyn 11.  Bydd unrhyw staff sydd wedi gweithio gyda’r disgyblion yn eu lleoliad prif ffrwd yn cael eu cynnwys mewn trafodaethau gyda staff yr UCD i sicrhau bod yr holl wybodaeth berthnasol yn cael ei rhannu.  Mae hyn yn cynnwys datblygu ‘Proffiliau Tudalen’ ar draws yr holl ddosbarthiadau.

Mae disgyblion yn yr adran gynradd yn treulio hanner diwrnodau yn yr UCD a hanner diwrnodau yn yr ysgol.  Mae’r dull hwn yn allweddol i sicrhau bod gan ddisgyblion synnwyr o berthyn i’w hysgol prif ffrwd o hyd, a bu hyn yn ffactor arwyddocaol yn llwyddiant y rhaglen dros flynyddoedd lawer.

Caiff ailintegreiddio ei ystyried yn ofalus yn ystod adolygiadau ‘Cynllunio yn Canolbwyntio ar y Disgybl’, lle ystyrir agweddau penodol ar yr amserlen.  Ar ôl y lleoliad, mae’r tîm yn parhau i gynorthwyo’r disgybl mewn ffordd sensitif a chytûn, p’un a yw hynny yn y tymor byr yn yr ystafell ddosbarth, cymorth mewn sesiynau neu dim ond trwy gysylltu â’r disgybl yn ystod yr wythnos.  Bydd y staff allymestyn yn parhau i ymwneud â disgyblion ac yn cynorthwyo’r ysgolion am gyhyd ag y bydd angen, ac mae hyn yn aml yn cynnwys cymorth â phontio i ddisgyblion wrth iddynt symud ymlaen i’r ysgol uwchradd.

Mae’r medrau sydd eu hangen ar gyfer ailintegreiddio yn ôl i’r brif ffrwd yn rhan o’r cwricwlwm sy’n cael ei ddilyn.  Er enghraifft, caiff y medrau sydd eu hangen ar ddisgyblion i weithredu a ffynnu mewn ysgol prif ffrwd eu hystyried yn ofalus, trwy ddulliau fel meddylfryd twf a meddylgarwch, dulliau symud ymlaen a sesiynau chwarae therapiwtig ar gyfer pob grŵp oedran.  Trwy gydol eu cyfnod yn yr UCD, mae staff bob amser yn cyfeirio at bwysigrwydd bod yn ôl yn y brif ffrwd, a dyna yw eu nod bob amser, yn y pen draw.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar y ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae’r tîm allymestyn wrth wraidd yr UCD.  Mae’n darparu hyblygrwydd ac ymateb cyflym pan fydd disgybl mewn argyfwng, ac erbyn hyn, dyma’r ddarpariaeth fwyaf effeithiol i ddisgyblion ailintegreiddio’n llwyddiannus.  Mae hefyd yn galluogi’r UCD i wneud y dewis gorau ar gyfer disgyblion unigol, wrth nodi pa aelod o’r tîm fydd yn parhau fel eu hunigolyn cyswllt pan fyddant yn dychwelyd i’r brif ffrwd.  Nid gadael yr UCD yw’r diwedd; mae’n rhan o gontinwwm cymorth sydd ond yn dod i ben pan fydd pawb yn cytuno nad oes ei angen mwyach.

Gall yr UCD sicrhau hefyd fod cyswllt cryf yn cael ei gynnal gyda’r staff sydd wedi eu cynorthwyo, pe bai angen eu cymorth ar unrhyw adeg.

Dros gyfnod, mae canran uchel iawn o’r disgyblion o’r UCD wedi dychwelyd i’w lleoliadau mewn ysgolion prif ffrwd, ac wedi eu cynnal.  Mae hyn yn golygu hefyd y gall mwy o ddisgyblion elwa ar yr UCD a’i chwricwlwm teilwredig, sy’n rhoi i ddisgyblion y medrau a’r hyder sydd eu hangen arnynt i ddychwelyd i’r ysgol yn llwyddiannus.

Sut ydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Mae’r cysylltiadau cryf ag ysgolion prif ffrwd, y mae gan bob un ohonynt athrawon allymestyn a staff cymorth dynodedig, yn helpu’r UCD i rannu arfer dda â phob un o’i hysgolion.  Mae hyn yn ymestyn i rannu adnoddau a gwella medrau staff yn yr ysgol i ddefnyddio’r rhain yn eu lleoliadau eu hunain.  Caiff staff yn yr ysgol eu hannog i ymweld â’r UCD hefyd.

Mae’r UCD yn rhan o’r rhwydwaith UCD ehangach ledled Gogledd Cymru lle mae rhannu arfer dda wrth wraidd yr agenda.

Mae staff o UCDau a gwasanaethau cynhwysiant ledled Cymru bob amser yn ymwelwyr a groesewir, gan roi cyfle iddynt weld yr hyn sy’n cael ei wneud, ac i’r UCD gael syniadau newydd y gellir eu cyflwyno yn ei lleoliad.