Cynorthwyo dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol - Estyn

Cynorthwyo dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol

Arfer effeithiol

Coleg Cambria

Person mewn top gwyrdd gyda bathodyn adnabod, gwenu a sgwrsio gydag unigolyn arall yn eistedd ar draws y bwrdd mewn swyddfa ddisglair.

Gwybodaeth am y coleg 

Mae Coleg Cambria yn goleg addysg bellach mawr yng ngogledd ddwyrain Cymru. Mae ganddo bum campws ar draws Wrecsam, Sir y Fflint a Sir Ddinbych. Mae’r campysau sy’n cael eu defnyddio gan Coleg Cambria yng Nglannau Dyfrdwy, Iâl yn Wrecsam, Ffordd y Bers yn Wrecsam, Llysfasi a Llaneurgain. 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol  

Mae’r coleg wedi gwneud datblygiadau a buddsoddiad sylweddol yn ei Dîm Cynhwysiant ers yr arolygiad dysgu yn y gwaith blaenorol gan Estyn, yn enwedig o ran datblygu nodi anghenion dysgwyr a’r cymorth sydd ar gael. Bu ffocws strategol ar ffurfioli ac ymgorffori cymorth ar gyfer prentisiaid, gan gynnwys:  

  • rhannu arfer effeithiol  
  • datblygu cyfleoedd DPP cynhwysiant targedig 
  • rhannu ac olrhain gwybodaeth am gymorth i ddysgwyr 
  • cydweithio rhwng rheolwyr dysgu yn y gwaith, ymarferwyr a’r Tîm Cynhwysiant 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch  

Mae’r coleg wedi datblygu ymagwedd gyfannol a rhagweithiol at nodi a chynorthwyo prentisiaid ag anghenion cymorth ychwanegol trwy fuddsoddi mewn prosesau a gwasanaethau cymorth effeithiol.  

Taith y dysgwr 

Un o’r cryfderau allweddol yw effaith ymyriadau cynnar sy’n dechrau pan fydd dysgwyr yn dechrau eu prentisiaethau. O ganlyniad i gyfathrebu clir, cydweithio a rhannu gwybodaeth rhwng y tîm dysgu yn y gwaith a’r tîm cynhwysiant, mae dysgwyr yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt ar ddechrau eu prentisiaethau. Mae gan y coleg diwtor anghenion dysgu ychwanegol (ADY) dynodedig arbenigol ar gyfer dysgu yn y gwaith sy’n cyfathrebu’n rheolaidd ag aseswyr ac athrawon, timau ehangach a phartneriaid. Mae’r tiwtor arbenigol yn gwneud cyswllt cychwynnol o fewn wythnos o ddatgelu. Ar ôl asesiad, rhoddir strategaethau, addasiadau rhesymol ac arweiniad gwahaniaethu ar waith, a chânt eu rhannu trwy system gwybodaeth reoli yn y gwaith y coleg.  

Rhennir gwybodaeth am gymorth gyda dysgwyr yn ystod y cyfnod ymsefydlu, ac mae’r wybodaeth wedi’i chynnwys ar dudalennau gwe’r tîm dysgu yn y gwaith a mewnrwyd y staff. Gall pob un o’r aseswyr, yr athrawon a’r partneriaid fanteisio ar ystod eang o wybodaeth i gynorthwyo dysgwyr y nodwyd bod ganddynt anghenion dysgu ychwanegol yn effeithiol yn eu gweithleoedd. 

Yn rhan o daith y dysgwr, defnyddir proses i gynorthwyo dysgwyr sydd â chynllun statudol ar gyfer angen dysgu ychwanegol i ddarparu cymorth effeithiol ac amserol o dan y Ddeddf / Cod ADY.  

Caiff monitro effeithiol ar gyfer dysgwyr ag angen dysgu ychwanegol ei lywio trwy systemau gwybodaeth reoli’r coleg. Mae dangosfyrddau ac adroddiadau yn rhoi mewnwelediad manwl i anghenion dysgwyr sy’n caniatáu ar gyfer cymorth ymatebol a rhagweithiol gan y prentisiaid a’r tîm cynhwysiant.  

Datblygiad Proffesiynol mewn Arfer Gynhwysol 

Mae’r coleg wedi rhoi ffocws allweddol ar gynnig dysgu proffesiynol a rhannu arfer effeithiol ymhlith timau gan arwain at dîm cyflwyno sydd wedi cael ei hyfforddi’n dda. Mae cydweithio rhwng y tîm cynhwysiant a’r tîm dysgu proffesiynol yn sicrhau bod cyfleoedd hyfforddi a dysgu mewnol ar gael, sydd wedi’u cynllunio ac yn cael eu cyflwyno gan y tîm cynhwysiant. Mae’r coleg yn cyflwyno hyfforddiant dynodedig mewn dysgu yn y gwaith trwy gydol y flwyddyn i rannu arfer bresennol gyda ffocws allweddol ar gynhwysiant ac arfer gynhwysol. Mae partneriaid cyflwyno hefyd yn cael cyfle i fynychu’r gweithgareddau. 

Caiff timau dysgu yn y gwaith eu hyfforddi mewn meysydd fel arfer sy’n ystyriol o drawma, amgylcheddau dysgu cynhwysol, anhwylder y sbectrwm awtistig, dyslecsia, ADHD, meddalwedd gynorthwyol, iechyd meddwl, LHDTC+ ac ymwybyddiaeth o fod yn fyddar. Mae menter ASSCC yn darparu cymorth ar gyfer staff niwrowahanol ar draws y coleg.   

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr? 

Mae data presennol yn dangos y cyfraddau presenoldeb a chadw uchaf ar gyfer dysgwyr yn y gwaith yn y blynyddoedd diwethaf. Mae tegwch neu gyfraddau cadw uwch ar gyfer dysgwyr y nodwyd bod ganddynt angen dysgu ychwanegol. Mae staff yn ymateb yn gadarnhaol i’r cyfleoedd dysgu proffesiynol parhaus ac mae adborth dysgwyr yn awgrymu bod yr amgylchedd dysgu yn un cadarnhaol. 

Mae’r Coleg yn parhau i ddatblygu dulliau a systemau ar y cyd i fonitro safonau dysgwyr. Mae Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb ehangach y Coleg a chynllunio strategol y tîm cynhwysiant yn cyd-fynd â chynyddu profiad y dysgwr trwy gymorth effeithiol, gan alluogi a datblygu ymarferwyr a chael disgwyliadau a deilliannau uchel ar gyfer pob dysgwr.  

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda? 

Caiff arfer ei rhannu mewn digwyddiadau hyfforddi, i bartneriaid a thrwy ystod eang o ddigwyddiadau rhwydweithio. 


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn