Cynorthwyo dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol
Quick links:
Gwybodaeth am y darparwr
Mae Coleg Caerdydd a’r Fro (CAVC) yn arwain partneriaeth o 19 is-gontractwr i gyflwyno rhaglenni prentisiaeth Llywodraeth Cymru. Maent yn cyflwyno prentisiaethau i ryw 2,500 o ddysgwyr ar lefelau 2, 3 a 4, a’r rhan fwyaf o ddarpariaeth yn y sectorau blaenoriaethol. Mae 80% o ddysgwyr o grwpiau lleiafrifoedd ethnig, mae gan 10% anabledd wedi’i ddatgan, ac mae 35% o ddysgwyr yn dod o ardaloedd ag amddifadedd uchel. Mae’r coleg yn gwasanaethu cymuned amrywiol yn ardal prifddinas Cymru gan weithio gyda chyflogwyr, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru i hyrwyddo prentisiaethau. Mae’n gweithio gyda thros 1,000 o gyflogwyr, o gyflogwyr rhyngwladol a chenedlaethol, i fusnesau bach a chanolig, gyda 76% o gyflogwyr yn fusnesau bach a chanolig. Mae gan y coleg ddiben clir i newid bywydau trwy ddysgu gyda ffocws penodol ar uchafu cyfleoedd i bobl ifanc ymgymryd â phrentisiaethau a mynd i’r afael â rhwystrau ar gyfer grwpiau nad oes cynrychiolaeth ddigonol ohonynt.
Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol
Darparodd y Ddeddf ADY gyfle i Brentisiaethau CAVC adolygu eu darpariaeth i sicrhau eu bod yn rhoi’r cymorth mwyaf effeithiol i’r dysgwyr hynny a oedd wedi datgelu bod ganddynt ADY / anabledd dysgu. Roedd yn bwysig sicrhau bod yr holl is-gontractwyr yn ymwybodol o ofynion y Ddeddf ac mewn sefyllfa i fodloni’r gofynion. Roedd gan Goleg Caerdydd a’r Fro dîm sefydledig ac arbenigol o staff ADY, a defnyddiwyd yr arbenigedd hwn yn effeithiol i ddatblygu darpariaeth ar draws y rhwydwaith, a chefnogi rhoi polisïau a gweithdrefnau newydd ar waith i fodloni gofynion y Cod ADY. Roedd yr holl ddarpariaeth yn cyd-fynd yn agos â gweledigaeth strategol Coleg Caerdydd a’r Fro a chyfleoedd gwell i allu mynd ati i recriwtio a chynorthwyo prentisiaid ag ADY / anableddau dysgu i ddysgu a chyflogaeth.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch
Mae timau cefnogi dysgwyr sy’n Brentisiaid CAVC yn cynnig ystod eang o wasanaethau ar gyfer dysgwyr. Mae trefniadau cryf ar waith i nodi anghenion cymorth dysgwyr a monitro cymorth yn briodol er mwyn datblygu dysgwyr a chefnogi eu cynnydd. Dyfeisiwyd prosesau clir ar gyfer prentisiaid oedd â chynllun datblygu, y rhai oedd wedi datgan bod ganddynt ADY / anabledd dysgu ar ddechrau eu rhaglen a’r rhai yr oedd staff yn amau bod ganddynt ADY / anabledd dysgu. O fewn y broses, nodwyd y meysydd allweddol canlynol:
- Amlygwyd addasiadau y gellid eu gwneud trwy ddarpariaeth gyffredinol.
- Trefnwyd bod cronfa adnoddau ar gael, yn cynnwys offer a chanllawiau, yn cynnwys apiau.
- Dyfeisiwyd proses atgyfeirio glir i’r tîm ADY.
- Roedd proses ar waith i olrhain a monitro’r dysgwyr hyn ar bob cam o’u taith.
- Cynhaliwyd cyfarfodydd rheoli achosion atgyfeirio ADY bob mis gyda thîm ADY CAVC, i drafod a chytuno ar atgyfeiriadau ADY ar gyfer prentisiaid.
- Daethpwyd o hyd i gysylltiadau â’r cymorth ALS, os oedd angen.
Galluogodd y ddarpariaeth hon gymorth teilwredig ar gyfer unrhyw ddysgwyr y nodwyd bod ganddynt ADY / anabledd dysgu, neu os oedd amheuaeth fod ganddynt ADY / anabledd dysgu. Sicrhaodd hefyd fod cynnydd dysgwyr yn cael ei olrhain a bod unrhyw ddysgwyr a oedd angen cymorth ychwanegol neu a oedd mewn perygl yn cael eu nodi’n gyflym.
Mynychodd pob un o’r staff raglen hyfforddi gynhwysfawr ar nodi ADY, darpariaeth gyffredinol, strategaethau cymorth effeithiol a phob elfen o’r broses atgyfeirio. O ganlyniad, cryfhawyd cysylltiadau â thîm ADY CAVC, ac mae rhai darparwyr wedi gallu datblygu eu cymorth ychwanegol eu hunain.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?
O ganlyniad i’r gwaith hwn, bu cynnydd yn nifer y dysgwyr yn y darparwr yn datgelu bod ganddynt ADY / anabledd dysgu. Mae mwy o ddysgwyr yn manteisio ar y cymorth teilwredig hwn erbyn hyn, ac yn gwneud cynnydd yn eu dysgu ac yn eu gweithleoedd. Mae data cynnydd a chyflawniad yn dangos bod dysgwyr sy’n datgelu bod ganddynt ADY / anabledd dysgu yn gwneud yn dda o gymharu â dysgwyr eraill.
Mae staff wedi nodi eu bod nhw bellach yn fwy hyderus o ran nodi angen a gweithio gyda phrentisiaid sydd ag ADY / anabledd dysgu.
Mae cyflogwyr yn ymgysylltu’n effeithiol ac yn cyflogi dysgwyr ag ADY, maent yn cydnabod setiau sgiliau’r dysgwyr hyn ac yn ehangu cyfleoedd a chyfranogiad.
Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?
Mae darparwyr prentisiaethau Coleg Caerdydd a’r Fro yn mynychu cyfarfodydd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru ac yn rhannu eu harfer gyda darparwyr prentisiaethau eraill. Maent wedi gweithio’n agos gydag Arweinydd Rhaglen Trawsnewid y System ADY Colegau Cymru trwy fynychu cyfarfodydd, adolygu hyfforddiant a myfyrio ar ymagweddau at fodloni’r Cod ADY.