Cynorthwyo disgyblion y mae Saesneg yn iaith ychwanegol iddynt, er mwyn eu helpu i integreiddio

Arfer effeithiol

Westbourne School


 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae’r ysgol uwch yn cynnwys nifer sylweddol o ddisgyblion â Saesneg fel iaith ychwanegol (SIY).  Daw tuag 20% o ddisgyblion o gefndiroedd ethnig lleiafrifol ac mae tua 25% yn cael cymorth ar gyfer dysgu Saesneg fel iaith ychwanegol.  I sicrhau bod ethos yr ysgol wedi gwreiddio a bod disgyblion yn gwneud cynnydd cryf, mae eu hyder a’u cymhwysedd mewn Saesneg o’r pwys mwyaf.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae gan yr ysgol un flaenoriaeth, sef defnyddio cymaint â phosibl o strategaethau wedi’u cynllunio’n dda i flaenoriaethu ymdrochi a chynnwys disgyblion â SIY yn llwyr yng nghymuned yr ysgol.  Cyflawnir hyn trwy sicrhau eu bod yn datblygu eu medrau siarad, darllen ac ysgrifennu Saesneg yn gymwys ac yn hyderus ar bob adeg.

Mae’r broses yn dechrau trwy asesu cefndir a hyfedredd Saesneg disgyblion cyn eu derbyn.  Mae hyn yn caniatáu i’r ysgol ddosbarthu geirfaon pwnc unigol, cymorth ac arweiniad cyn derbyn.  Mae llawer o ddisgyblion yn ymrestru am sawl wythnos yn ystod tymor yr haf cyn eu dyddiad dechrau arfaethedig a/neu yn cymryd rhan yn yr ysgol haf i ddisgyblion SIY.  Mae’r cyfuniad hwn o asesu a chymorth yn hysbysu staff yn fwy cywir ac mae’n paratoi disgyblion yn fwy effeithiol cyn iddynt ddechrau eu haddysg yn yr ysgol.  Mae tiwtoriaid dosbarth neilltuedig yn cyfathrebu â’r teulu cyn ac yn ystod derbyn, a chaiff disgybl-llysgenhadon penodol eu neilltuo i helpu’u cymheiriaid pan fyddant yn cyrraedd.  Pan fydd disgyblion yn dechrau yn yr ysgol, rhoddir gwersi cymorth SIY personoledig ar waith a bydd nifer y gwersi hyn yn amrywio rhwng dwy a deg yr wythnos, yn dibynnu ar lefel hyfedredd iaith y disgybl.  Mae siarad Saesneg yn orfodol yn yr ysgol ac yn y llety.  Mae athrawon yn hybu lefelau uchel o gynhwysiant disgyblion ac yn eu hannog i gymryd rhan mewn gweithgareddau, fel gwasanaethau boreol, digwyddiadau elusennol, diwrnod rhyngwladol a gwersi siarad cyhoeddus.  Mae’r cyfleoedd hyn yn annog disgyblion i ddatblygu eu llafaredd mewn amgylchedd cefnogol ac anogol.  Mae clybiau ar ôl ysgol yn annog rhyngweithio â’u cymheiriaid y tu allan i’r diwrnod ysgol, sy’n annog disgyblion ymhellach i ddatblygu’u medrau llafaredd.  Mae addysgu ieithoedd ychwanegol, fel Lladin, yn ffordd ychwanegol o gynorthwyo disgyblion â SIY â’u dealltwriaeth o amseroedd y ferf ac i ddatblygu geirfa.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae disgyblion â SIY yn dod yn hyderus ar lafar yn gyflym, mewn gwersi a thu hwnt.  Nid yw canlyniadau disgyblion â SIY mewn asesiadau yn wahanol i ganlyniadau disgyblion sy’n siarad Saesneg mamiaith; yn wir, maent yn well yn aml.  Er bod yr ysgol yn cynnig TGAU SIY, mae llawer o ddisgyblion â SIY yn sefyll TGAU Saesneg, iaith a llenyddiaeth, ac yn ennill graddau A*/A.  Yn Niploma’r Fagloriaeth Ryngwladol, caiff disgyblion â SIY ddewis astudio Saesneg mamiaith neu ail iaith ac mae llawer yn dewis y cyntaf (ac yn rhagori ynddo).  Yn olaf, y mwyaf o ieithoedd mae disgyblion yn eu hastudio, y mwyaf hyfedr yn Saesneg yr ymddengys eu bod yn datblygu.  Cymaint yw hyder a chymhwysedd ymhlith disgyblion â SIY, fel eu bod yn llunio 40% o’r cyngor ysgol.

Sut rydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Mae’r cwrs cyn y Fagloriaeth Ryngwladol a’i ffocws ar ddatblygu iaith wedi’i rannu gyda chydlynwyr eraill y Fagloriaeth Ryngwladol ac ysgolion eraill y Fagloriaeth Ryngwladol yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.  Mae athrawon iaith rhan-amser yn rhannu syniadau a strategaethau’r ysgol gyda’r ysgolion eraill y maent yn addysgu ynddynt.