Cynorthwyo disgyblion ag anghenion ychwanegol trwy newid - Estyn

Cynorthwyo disgyblion ag anghenion ychwanegol trwy newid

Arfer effeithiol

George Street Primary School


 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd George Street wedi’i lleoli yn Waunfelin, ychydig y tu allan i dref Pont-y-pŵl yn sir Tor-faen.  Mae 466 o ddisgyblion ar y gofrestr, rhwng 3 ac 11 oed, gan gynnwys 62 sy’n mynd i’r feithrinfa’n rhan amser.

Mae tri deg y cant o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sydd uwchlaw’r cyfartaledd cenedlaethol (18%).  Mae llawer o ddisgyblion o ethnigrwydd gwyn Prydeinig ac yn dod o gartrefi lle Saesneg yw’r brif iaith.  Mae tua 13% o ddisgyblion o gefndir sipsiwn a theithwyr.  Mae ychydig bach iawn o ddisgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol.  Mae ychydig bach iawn o ddisgyblion yn siarad Cymraeg gartref.

Mae’r ysgol yn nodi bod tua 19% o ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.  Mae hyn islaw’r cyfartaledd cenedlaethol (21%).

Ar hyn o bryd, mae’r ysgol yn ysgol arloesi ac mae’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac ysgolion eraill i fwrw ymlaen â datblygiadau’n ymwneud â dysgu proffesiynol.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Mae’r ysgol wedi cydnabod bod angen cymorth unigol wedi’i reoli’n ofalus ar grŵp cymharol fach o ddisgyblion i gynorthwyo â’u pontio i wahanol bwyntiau yn eu haddysg.  Mae staff yn buddsoddi amser ac arbenigedd mewn teilwra trefniadau pontio estynedig i sicrhau bod y disgyblion hyn yn parhau i wneud cynnydd da, er gwaethaf newidiadau anochel yn y ddarpariaeth o un ysgol neu gyfnod i un arall.  Mae rhieni’n chwarae rhan agos yn y broses, o’r cyfarfod cychwynnol lle y cytunir ar y cynllun, i’r cyfarfod adolygu a gynhelir ar ôl i’r pontio ddigwydd.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae cynlluniau pontio estynedig yn cael eu defnyddio i gefnogi disgyblion agored i niwed ar draws yr ysgol.  Mae hyn yn cynnwys pontio:

  • o leoliadau cyn-ysgol i Ysgol Gynradd George Street
  • o’r cyfnod sylfaen i gyfnod allweddol 2
  • o gyfnod allweddol 2 i gyfnod allweddol 3
  • o leoliad prif ffrwd i ganolfan adnoddau anghenion arbennig ac i’r gwrthwyneb
  • pontio yng nghanol cyfnod o Ysgol Gynradd George Street i ysgol brif ffrwd arall ac i’r gwrthwyneb
  • o un grŵp blwyddyn i’r nesaf o fewn yr ysgol
  • o un athro neu gynorthwyydd addysgu i un arall yn ystod y flwyddyn

Mae pob proses bontio’n dechrau gyda chyfarfod cychwynnol yn seiliedig ar y dull cynllunio sy’n canolbwyntio ar unigolion, yn cynnwys pawb sy’n gofalu am y disgybl ac yn gweithio gyda’r disgybl.  O fewn pwyntiau pontio yn yr ysgol, mae’r trafodaethau bob amser yn cynnwys rhieni, y cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol (ADY), a’r athrawon dosbarth a chynorthwywyr addysgu presennol a’r rhai sydd i ddod.  Lle y bo’n berthnasol, mae’r seicolegydd addysg, y swyddog anhwylderau’r sbectrwm awtistiaeth a’r tîm therapi iaith hefyd yn cymryd rhan, ynghyd â gweithwyr proffesiynol eraill sy’n gweithio gyda’r disgybl.  Yn achos pontio o Ysgol Gynradd George Street i leoliad arall, neu i’r gwrthwyneb, bydd y swyddog Dechrau’n Deg (pontio’r Blynyddoedd Cynnar), yr Arweinydd Pontio (ar gyfer pontio o gyfnod allwedd 2 i gyfnod allweddol 3), cydlynydd ADY y lleoliad newydd a’r athro dosbarth newydd yn bresennol hefyd.  Fel arfer, mae’r disgybl yn dod i’r cyfarfod hefyd, hyd yn oed os yw hynny am gyfnod byr yn unig er mwyn iddynt rannu’u barn neu’u pryderon eu hunain ynghylch y pontio.  Lle nad yw hyn yn briodol, neu lle mae’r disgybl yn dewis peidio â bod yn bresennol, mae staff yn gofyn am ei farn a’i gwestiynau ymlaen llaw er mwyn gallu cynnwys y rhain yn y cynllun sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Yn ystod y cyfarfod cychwynnol, yn dibynnu ar anghenion y disgybl, caiff y wybodaeth ganlynol ei rhannu a’i thrafod:

  • gwybodaeth bersonol berthnasol
  • unrhyw anghenion dysgu ychwanegol
  • rôl a chwmpas cysylltiad asiantaeth allanol
  • data asesu perthnasol
  • cynlluniau disgyblion unigol, fel cynlluniau chwarae, cynlluniau addysg unigol neu gynlluniau ymddygiad unigol estynedig
  • asesiadau risg perthnasol
  • cynlluniau trafod yn gorfforol yn gadarnhaol

Mae pawb sy’n bresennol yn cyfrannu at ysgrifennu ac adolygu’r cynllun sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, ac mae cyfle i oedolion ofyn cwestiynau a chadarnhau anghenion y disgyblion, ac amlygu cryfderau ac unrhyw ddiffygion yn y ddarpariaeth bresennol.  Yna, cytunir ar y cynllun pontio unigol, sydd fel arfer yn cynnwys y cyfan o’r camau gweithredu dilynol, neu rai ohonynt, yn dibynnu ar anghenion y disgybl:

  • ymchwil gan y disgybl a’i weithiwr allweddol i’r ysgol, dosbarth, athro neu gynorthwyydd addysgu newydd
  • ymweliadau gan y cydlynydd ADY, yr athro newydd neu’r cynorthwyydd addysgu newydd i gyfarfod â’r disgybl yn ei ystafell ddosbarth neu ei leoliad presennol
  • ymweliadau gan y disgybl â’r ystafell ddosbarth neu’r lleoliad newydd gyda rhieni ac aelod staff o’r lleoliad presennol; bydd yr aelod staff yn aros gyda’r disgybl am yr ychydig ymweliadau cyntaf – wrth i hyder y disgybl gynyddu, bydd yr aelod staff yn aros yn y lleoliad ond allan o olwg y disgybl, fel ei fod ar gael os bydd ei angen, ac yn magu annibyniaeth y disgybl
  • ymweliadau annibynnol gan y disgybl â’r lleoliad newydd
  • cynhyrchu llyfryn atgofion ffotograffig o leoliad newydd y disgybl; gall hwn gynnwys amrywiol rannau’r ystafell ddosbarth, yr ystafell gotiau, y toiledau, yr ardal awyr agored, y brif fynedfa, neuadd yr ysgol, aelodau staff allweddol a ffrindiau newydd posibl – mae’r disgybl yn cymryd cymaint o gyfrifoldeb â phosibl am greu’r llyfryn hwn, sy’n cael ei rannu â’r cartref a, lle y bo’n briodol, bydd llyfryn atgofion o’i ysgol bresennol yn cael ei gynhyrchu hefyd i’r disgybl ei gadw gartref

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Erbyn i’r disgybl adael ei ddosbarth neu leoliad presennol, bydd eisoes wedi meithrin perthynas gadarnhaol gyda’i athro a’i gynorthwyydd addysgu newydd.  Bydd yn gwybod yn union pa drefniadau sydd ar waith ar ei gyfer a bydd yn teimlo’n fwy hyderus am y symud.  O ganlyniad, bydd disgyblion yn ymgartrefu’n gyflym yn eu lleoliad newydd heb y tarfu sy’n digwydd yn aml yn sgil dod i arfer â newid. 

Mae staff newydd yn cael cipolwg clir ar ymddygiadau ac anghenion y disgybl unigol.  Mae hyn yn eu cynorthwyo i wybod beth sy’n gweithio’n dda a beth i’w osgoi, ac mae’n sicrhau bod y rhan fwyaf o ddisgyblion yn parhau i wneud cynnydd da yn erbyn targedau unigol.

Mae’r pontio estynedig hefyd yn brofiad buddiol i rieni, sy’n aml yn pryderu am effaith newidiadau ar eu plentyn.  Mae cynnwys rhieni’n llawn yn y broses o’r cychwyn cyntaf yn lleddfu’u pryder ac yn eu cynorthwyo i feithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda staff sy’n anghyfarwydd iddynt.  Mae’n eu galluogi i rannu gwybodaeth a phryderon yn uniongyrchol a chael sicrwydd bod dilyniant pwysig mewn darpariaeth yn cael ei gynnal.  Mae’r agwedd gadarnhaol hon yna’n treiddio i’r disgybl.

Sut ydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Mae’r cydlynydd ADY yn aelod o grŵp Cydlynwyr ADY arweiniol y consortiwm, a sefydlwyd ym mis Gorffennaf 2017 o ganlyniad i Brosiect y Grant Arloesi.  Ffocws y grŵp yw cynorthwyo ysgolion i baratoi ar gyfer diwygio statudol a gweithredu hynny.  Mae’r cydlynydd ADY yn arwain y gwaith ar bontio estynedig, yn sgil arwain gweithdy ar bontio yng nghynhadledd trawsnewid anghenion dysgu ychwanegol y consortiwm yn 2018 ac mae bellach yn gweithio ar becynnau hyfforddi sy’n canolbwyntio ar bontio’r Blynyddoedd Cynnar ar draws y rhanbarth.