Cynorthwyo disgyblion a theuluoedd i ddatblygu medrau llythrennedd ariannol cadarnhaol kills - Estyn

Cynorthwyo disgyblion a theuluoedd i ddatblygu medrau llythrennedd ariannol cadarnhaol kills

Arfer effeithiol

Corneli Primary School


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Corneli wedi’i lleoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae’n rhannu ei safle gydag ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg a Chanolfan Blant Corneli. Mae Ysgol Gynradd Corneli yn darparu ar gyfer 242 o ddisgyblion, mae ganddi 10 dosbarth prif ffrwd a dosbarth Canolfan Adnoddau Dysgu’r Awdurdod Lleol i ddisgyblion 7 i 11 oed ag anawsterau dysgu cymedrol. Mae wedi gweithio gydag Undeb Credyd Bridgend Lifesavers i ddatblygu a gweithredu cyd-destun dilys ar gyfer datblygu medrau llythrennedd ariannol.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae Ysgol Gynradd Corneli wedi’i lleoli gerllaw tref lan môr Porthcawl, Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’n gwasanaethu ardal â lefel uchel o amddifadedd a diweithdra. Mae 42% o’r disgyblion yn cael prydau ysgol am ddim. Mae hyn uwchlaw’r cyfartaledd ar gyfer ysgolion cynradd yng Nghymru. Mae’r ysgol yn cefnogi lles ariannol disgyblion a theuluoedd yn rhagweithiol ac mae’n ymwybodol iawn o’r problemau y gall rhai teuluoedd eu hwynebu.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mewn partneriaeth ag Undeb Credyd Bridgend Lifesavers, agorwyd cynllun cynilo’r ysgol yn 2015, gyda 63 aelod erbyn diwedd y flwyddyn gyntaf, ond roedd llai na 10 yn cynilo’n wythnosol ar gyfartaledd, a 18 ar ei anterth yn 2016. Roedd yr ysgol a’r undeb credyd yn benderfynol o wneud i’r clwb cynilo ffynnu ac, yn dilyn cyfarfod â llywodraethwyr a’r pennaeth, cafodd ei ail-lansio ar draws yr ysgol gyfan, gyda disgyblion, staff addysgu, Cadeirydd y Llywodraethwyr a Swyddogion Cymorth Dysgu yn chwarae rhannau arweiniol. Yn lle casglu cyn y diwrnod ysgol, cafodd ei symud fel ei fod yn rhan o’r diwrnod ysgol. Cynhwyswyd disgyblion o Flynyddoedd 4-6.
Dyluniwyd posteri a rhoddodd plant gyflwyniadau i’w dosbarthiadau ar fuddion cynilo. Sefydlwyd cymhellion, gan gynnwys raffl wythnosol, i blant sy’n cynilo bob wythnos. Mae pob plentyn yn cael gwobr fechan am gasglu ac mae gwasanaeth cyflwyno tystysgrifau yn dathlu’r cynilwyr mwyaf rheolaidd. Mae staff yr Undeb Credyd wedi dod yn wynebau cyfarwydd yn yr ysgol, gydag aelodau’n adrodd storïau i’r plant a’u teuluoedd mewn ‘Caffis Stori’ rheolaidd. 
Ers hynny, mae Ysgol Gynradd Corneli wedi ennill gwobr Undebau Credyd Cymru ar gyfer cynnig fideo. Mae 18 o staff bellach wedi ymuno â chynllun cynilo’r ysgol, felly mae dros 140 o aelodau. Bellach, mae dros 50 o blant ar gyfartaledd yn dod i’r casgliad. At hynny, enwebwyd yr ysgol am Wobr Partneriaeth Ysgol Undebau Credyd Cymru a chafodd ‘ganmoliaeth uchel’ yn gydnabyddiaeth am annog cynilo rheolaidd.  

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

  • Mae bron bob un o’r disgyblion a’r teuluoedd yn deall buddion cynilo’n rheolaidd a rheolaeth ariannol. 
  • Mae menter gynhwysol i’r holl ddisgyblion a theuluoedd wedi ymsefydlu. 
  • Trwy lais y disgybl, mae disgyblion hŷn wedi cymryd perchnogaeth gan weithio ochr yn ochr â staff a llywodraethwyr i reoli’r ddarpariaeth gynilo wythnosol yn llwyddiannus.  
  • Mae mwyafrif y staff ynghyd ag aelodau o’n cymuned yn cynilo’n wythnosol, gan fod yn esiampl i ddisgyblion.
  • Mae’r ysgol wedi creu cyd-destun bywyd go iawn lle y gall ddisgyblion gynilo at ddiben. 
  • Mae’r ysgol wedi ehangu’i hwythnos Fenter ac wedi chwarae rhan annatod mewn datblygu Pedwar Diben y Cwricwlwm i Gymru. 
  • Mae safonau llythrennedd ariannol wedi cynyddu ar draws yr ysgol, gan effeithio ar fedrau datrys problemau a meddwl. 
  • Mae effaith fwy cadarnhaol wedi datblygu o ran agweddau at reolaeth ariannol o fewn y gymuned, ynghyd â gwell medrau bywyd a medrau cymdeithasol y mae eu hangen i ffynnu mewn cymdeithas, a gwell cyfleoedd bywyd ac ansawdd bywyd i alluogi dyheadau am gyflogaeth a lles economaidd yn y dyfodol.  

Sut rydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Arweiniodd hyrwyddo’r cynllun cynilo yn uniongyrchol at ymholiad gan ysgol gyfagos ac, ers hynny, yr ysgol yw partneriaeth gyntaf Bridgend Lifesavers ag ysgol cyfrwng Cymraeg.  

Mae Ysgol Gynradd Corneli wedi bod yn rhan o Astudiaethau Achos Undebau Credyd Cymru a hi yw wyneb Gwefan Bridgend School Savings a’i Blatfformau Cyfryngau Cymdeithasol.