Cynnydd a chyrchfannau dysgwyr mewn colegau arbenigol annibynnol
Adroddiad thematig
Argymhellion
Dylai colegau arbenigol annibynnol:
- A1 Wneud yn siŵr bod yr holl asesiadau cyn mynediad yn berthnasol i ystod lawn anghenion dysgwyr, gan gynnwys cyfathrebu ac ymddygiad
- A2 Gwneud yn siŵr bod pob CAA:
- yn cydnabod cyrchfan a ddymunir gan ddysgwyr
- yn nodi’n fras dargedau tymor byr, tymor canolig a thymor hir ac yn amlinellu cynlluniau i gyflawni’r targedau hyn
- yn cael ei adolygu’n rheolaidd
- A3 Datblygu prosesau clir i osod targedau, ac asesu, olrhain, monitro ac arfarnu cynnydd dysgwyr mewn medrau annibyniaeth
- A4 Datblygu prosesau i fesur gwerth a deilliannau profiad gwaith
- A5 Lleihau’r ddibyniaeth ar daflenni gwaith generig i addysgu medrau llythrennedd a rhifedd
Dylai awdurdodau lleol:
- A6 Gydlynu’r wybodaeth sy’n mynd gyda dysgwyr rhwng darparwyr ac ar gyfnodau pontio
- A7 Gwneud yn siŵr bod cynlluniau a phrosesau ar gyfer cyrchfannau dysgwyr y tu hwnt i’r CAA ar waith yn ddigon cynnar i gael canlyniad cadarnhaol a chyfnod pontio didrafferth
Dylai Llywodraeth Cymru:
- A8 Adolygu’r wybodaeth y gofynnwyd amdani gan CAAau i wneud yn siŵ ei bod yn glir a phenodol ac yn cynnwys ffocws ar gynnydd dysgwyr a chyrchfan a ddymunir gan y dysgwr, yn ogystal ag ennill cymwysterau