Cynnwys rhieni mewn addysg - Estyn

Cynnwys rhieni mewn addysg

Arfer effeithiol

Pencoed Primary School


 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Pen-coed ym mhentref Pen-coed, yn awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr.  Mae tua 600 o ddisgyblion ar y gofrestr, rhwng 3 ac 11 oed.  O’r rhain, mae 29 o ddisgyblion yn mynychu un o’r pedair uned adnoddau dysgu ar gyfer disgyblion ag ystod o anawsterau dysgu.  Mae 25 dosbarth yn yr ysgol.

Cyfartaledd treigl tair blynedd disgyblion sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim yw tua 16%, sydd islaw’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 18%.  Mae’r ysgol yn nodi bod gan ryw 29% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol, sydd uwchlaw’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 21%.  Daw ychydig iawn o ddisgyblion o gefndir ethnig lleiafrifol, ac ychydig iawn ohonynt sy’n siarad Cymraeg gartref.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae gan yr ysgol swyddog sefydledig ymgysylltu â theuluoedd sydd wedi datblygu strategaeth gynhwysfawr ar gyfer ymgysylltu â theuluoedd a’r gymuned dros y naw mlynedd ddiwethaf.  Mae’n cynnal ystod eang o ddigwyddiadau a rhaglenni, sy’n galluogi rhieni ac aelodau o deuluoedd i gael eu cynnwys yn llawn yn addysg eu plentyn.  Mae llawer o’r rhaglenni dysgu teuluoedd a gynigir wedi’u targedu’n benodol i sicrhau bod rhieni’n gallu ymgysylltu â dysgu eu plant, gan felly ganolbwyntio ar ddeall a datblygu medrau penodol.  Er enghraifft, bwriad ‘Y Tu Hwnt i’r Bag Llyfrau’ (‘Beyond the Book Bag’) yw cynorthwyo rhieni â’u dealltwriaeth o fedrau darllen cynnar, tra bod ‘Ffoneg Ffynci’ (‘Funky Phonics’) ac ‘Effaith mewn Ysgrifennu’ (‘Impact in Writing’) yn canolbwyntio ar ddatblygu medrau ysgrifennu disgyblion.  Cynhelir rhaglen ‘Ysgol y Goedwig i Deuluoedd’ ar fore dydd Sadwrn ac mae’n rhoi cyfleoedd i rieni gwblhau gweithgareddau dysgu yn yr awyr agored, gan ddatblygu medrau cydweithio, gwydnwch a chyfathrebu gyda’u plant.  Yn ogystal â phenwythnosau, mae rhai rhaglenni dysgu teuluol ar gael yn ystod gwyliau’r haf i barhau i gynorthwyo teuluoedd.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Yn fwy diweddar, mae gwaith y swyddog ymgysylltu â theuluoedd wedi canolbwyntio ar ddatblygu’r cysylltiadau rhwng yr ysgol, y disgyblion a’r teuluoedd a’r gymuned ehangach ymhellach trwy’r rhaglen ‘Gemau’r Cenedlaethau’ (‘The Generation Games’).  Mae’r rhaglen hon yn hyrwyddo dysgu rhwng y cenedlaethau ac wedi’i lleoli yn y cartref gofal preswyl lleol, sef Glanffrwd.   Mae disgyblion o’r cyfnod sylfaen yn teithio i’r cartref gofal unwaith yr wythnos, ynghyd â’u rhieni neu aelodau o’u teulu.  Wedyn, cânt eu “paru” ag un o’r preswylwyr yn y cartref gofal ac maent yn cwblhau gwahanol weithgareddau bob wythnos, sy’n gweddu’n agos i anghenion y disgyblion a’r preswylwyr fel ei gilydd.  Mae swyddog ymgysylltu â theuluoedd yr ysgol yn gweithio’n agos â’r rheolwr digwyddiadau yn y cartref gofal i ddyfeisio’r rhaglen chwe wythnos a sicrhau bod gweithgareddau ysgogol a boddhaus yn cael eu cynllunio.  Mae’r gweithgareddau’n cronni dros gyfnod y rhaglen, ac yn caniatáu cyfleoedd i’r disgyblion a’r preswylwyr gyfathrebu a rhannu gwybodaeth am eu bywydau a’u hatgofion, ynghyd â datblygu medrau eraill, gan gynnwys medrau corfforol, creadigol, personol a chymdeithasol.  Caiff  Teisen, ein ci Pets as Therapy, hefyd ei gynnwys yn y rhaglen, ac mae’n gwella lles disgyblion a phreswylwyr fel ei gilydd.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae’r rhaglen wedi meithrin perthnasoedd dysgu cyfatebol rhwng gwahanol genedlaethau ac mae wedi helpu datblygu cydlyniad cymdeithasol o fewn ein cymuned.

Mae’r disgyblion dan sylw i gyd wedi adrodd am ddealltwriaeth well o lawer o anghenion disgyblion eraill, ac maent wedi datblygu mwy o hyder wrth gyfathrebu gyda gwahanol grwpiau cenedlaethau.  Bu’r adborth gan y rhieni ac aelodau o’r teuluoedd a gymerodd ran yn gadarnhaol, a mynegodd rhai ohonynt ddiddordeb mewn parhau â’u cymorth i’r henoed ar ôl cwblhau’r rhaglen.  Mae’r preswylwyr dan sylw wedi elwa’n fawr, gan ddangos lefelau uwch o les ac ysgogiad.

Mae creu cysylltiadau ychwanegol, fel Pets as Therapy, wedi galluogi’r rheolwr digwyddiadau yn y cartref i ehangu’r rhaglen gweithgarwch parhaus sydd ar gael i’r preswylwyr, ac archwilio mwy o gyfleoedd ar gyfer cydweithio â sylfaen ehangach o bartneriaethau cymunedol.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol wedi cymryd rhan mewn ystod eang o rwydweithiau arfer ar y cyd lle rydym wedi rhannu agweddau ar ein Hymgysylltu â Theuluoedd a’r Gymuned, fel cynghrair ddysgu broffesiynol ar gyfer Consortiwm Canolbarth y De.  Mae’r ysgol yn cymryd rhan mewn dysgu proffesiynol rhyngwladol ar hyn o bryd gydag ysgolion yn Efrog Newydd, a sefydlwyd trwy’r Cyngor Prydeinig.  Mae’r swyddog ymgysylltu â theuluoedd yn gysylltiedig â rhwydweithiau o fewn yr awdurdod lleol, a thu hwnt.