Cynnwys rhieni, disgyblion ac athrawon i greu cwricwlwm cyfoethog ac arloesol

Arfer effeithiol

Penllergaer Primary School


Cyd-destun

Mae Ysgol Gynradd Penllergaer ym mhentref Penllergaer, yn Abertawe.  Mae 386 o ddisgyblion ar y gofrestr ar hyn o bryd.  Mae dau ddosbarth un oedran, a naw dosbarth oedran cymysg, yn ogystal â dau ddosbarth meithrin rhan-amser, a dau gyfleuster addysgu arbenigol ar gyfer disgyblion ag anawsterau dysgu dwys a lluosog o bob cwr o’r awdurdod lleol.

Mae rhai disgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim, ac mae gan leiafrif ohonynt anghenion dysgu ychwanegol.  Mae gan ychydig iawn o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol, maent o gefndir ethnig lleiafrifol neu’n derbyn cymorth mewn Saesneg fel iaith ychwanegol.  Ychydig iawn o ddisgyblion sy’n siarad Cymareg fel eu mamiaith.

Cam 1:  Arfarnu’r cwricwlwm presennol o fewn trefniadau hunanarfarnu ehangach

Ym mis Medi 2015, ymatebodd yr ysgol i argymhellion Dyfodol Llwyddiannus, (Donaldson, 2015) trwy ofyn cwestiwn i rieni, sef “Beth ydych chi am i’n hysgol ei wneud i’ch plant?”  Hwylusodd y pennaeth gyfres o weithdai gyda rhieni i gael eu syniadau a’u safbwyntiau ar wahanol adegau o’r dydd a gyda’r nos.  Buan y sefydlwyd thema’r cyfarfodydd, sef “Mae’r Cwricwlwm yn newid” ac anogwyd rhieni i siarad yn agored am ba fath o ysgol yr oeddent ei heisiau ar gyfer eu plant.  Trwy wneud hynny, fe wnaethant ystyried beth oedd yn dda ynglŷn â’r ysgol, yn eu barn nhw.  Rhannwyd rhieni yn grwpiau a rhoddwyd dalen fawr o bapur iddynt ei defnyddio er mwyn rhannu syniadau, safbwyntiau a barn.  Bu pob grŵp yn ystyried y cwestiynau canlynol:

  • Pa fath o ysgol hoffech chi i Ysgol Gynradd Penllergaer fod?
  • Pa fath o athrawon hoffech chi ar gyfer eich plentyn?
  • Pa fath o ddisgyblion hoffech chi i’ch plentyn gymysgu â nhw?

Canolbwyntiodd canlyniadau’r cyfarfodydd hyn yn gadarn ar ddatblygu cwricwlwm a fyddai:

  • yn galluogi eu plant i fod yn greadigol a pheidio â bod ofn gwneud camgymeriadau
  • yn galluogi eu plant i wneud dewisiadau gwybodus am eu hiechyd
  • yn rhoi cyfleoedd da iddynt ddatblygu eu medrau bywyd

Yn syth ar ôl y gweithdai rhieni, bu’r pennaeth yn ymgysylltu â disgyblion.  Cyflwynodd y meysydd dysgu a phrofiad arfaethedig yn ogystal â’r pedwar diben a’r tri medr trawsgwricwlaidd cyn gofyn iddynt, “Sut mae hyn yn wahanol i’r hyn rydym ni’n ei wneud yn barod?”  Cytunodd bron pob un ohonynt eu bod eisiau bod mewn ysgol a oedd yn hyrwyddo:

  • hawliau plant
  • iechyd a ffitrwydd
  • dinasyddiaeth dda
  • unigolion cyfrifol sy’n gofalu am yr amgylchedd a’r blaned
  • balchder yn yr iaith Gymraeg a’i diwylliant
  • parch, goddefgarwch a dealltwriaeth o ddiwylliannau a chrefyddau eraill
  • medrau a gwybodaeth 
  • paratoi ar gyfer swydd yn y dyfodol

Yn dilyn y cyfarfodydd hyn, cyfarfu’r pennaeth a’r uwch arweinwyr â’r corff llywodraethol i gyflwyno’r prif negeseuon a amlinellwyd gan y disgyblion a’r rhieni fel ei gilydd.  Roedd llywodraethwyr yn cytuno â’r egwyddorion hyn ac roeddent o’r farn ‘nad oes angen cynhyrfu’.  Fodd bynnag, fe wnaethant gytuno i werthusiad cwricwlwm ysgol gyfan, o’r cyfnod sylfaen i gyfnod allweddol 2.  Teimlai arweinwyr fod hyn yn angenrheidiol cyn rhoi unrhyw newidiadau posibl ar waith i gynllunio’r cwricwlwm ac addysgeg.  Roeddent yn credu’n gadarn bod angen iddynt ystyried canlyniadau arfarnu cyn datblygu unrhyw gynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Dilynwyd hyn ag arfarniad 360 gradd trylwyr a oedd yn cynnwys pob aelod o staff a disgyblion.  Defnyddiodd arweinwyr ystod o dystiolaeth i lywio’u harfarniad o arfer bresennol, a ganolbwyntiodd yn gadarn ar effaith yr addysgu ar allu disgyblion i ddysgu a datblygu eu medrau.  Roedd y ffocws bob amser ar ba mor dda yr oedd athrawon yn darparu cyfleoedd i ddisgyblion sicrhau bod yr holl weithgareddau yn berthnasol a hwyliog, a’u bod yn galluogi disgyblion i ddysgu medrau newydd ac adeiladu ar rai a gyflwynwyd eisoes.  Roedd arfarnu addysgeg a datblygu dealltwriaeth gytûn o ddulliau addysgu yn allweddol i ddatblygu cwricwlwm cryf.

Roedd rhanddeiliaid yr ysgol yn dymuno datblygu ymagwedd eang, gytbwys, berthnasol ac aml-synhwyraidd at addysgu a dysgu.  Yn ystod y cyfnod arfarnu, anogwyd staff i fentro a bod yn greadigol â thestunau.  Cawsant eu sicrhau na fyddent yn cael eu barnu am fentro, ac os nad oedd rhywbeth yn llwyddo, byddent yn darganfod pam ac yn cynllunio i wella’r cyflwyno y tro nesaf.  Roedd Astudiaethau Gwersi a gweithio fesul triadau yn cefnogi meithrin gallu a sefydlu addysgeg effeithiol.
Rhoddodd staff bwyslais ar symud oddi wrth y dysgu sy’n seiliedig ar bwnc a phenderfynon nhw beidio â dilyn y pecyn cynllunio masnachol yr oeddent wedi bod yn ei ddefnyddio’n llwyddiannus ers sawl blwyddyn.  Fe wnaethant ddisodli’r cynlluniau gwersi sefydledig a manwl hyn, a oedd yn canolbwyntio mwy ar ymdrin â’r cwricwlwm, â thasgau cyfoethog a oedd yn darparu cyfleoedd gwerth chweil i ddisgyblion ddatblygu eu medrau. 

Mae’r ysgol yn diffinio ‘tasg gyfoethog’ fel gweithgaredd sy’n cysylltu gwahanol bynciau ac yn cynnwys amrywiaeth o ddulliau addysgu a dysgu.  Mae’n ennyn diddordeb, yn cysylltu â materion a phrofiadau gwirioneddol ac yn helpu disgyblion i ddatblygu medrau gydol oes.  Mae’r tasgau hyn yn hyrwyddo dysgu gweithredol ac yn annog disgyblion i ymgysylltu â’u gwaith.  Yn ystod gweithgareddau cynlluniedig a gwahaniaethol, sy’n gyfoethog o ran tasgau, mae disgyblion yn defnyddio eu mentrau eu hunain ac yn archwilio’r testun yn fanwl.

Yn ystod y cyfnod arfarnu, bu staff yn gweithio mewn grwpiau sy’n cael eu hadnabod fel ‘Triawdau Ymddiriedaeth’ (‘Trust Trios’).  Roedd hyn yn cynnwys tri o athrawon yn cynllunio gyda’i gilydd cyn arsylwi ei gilydd yn addysgu.  Roedd arweinwyr eisiau meithrin y ddawn greadigol a oedd eisoes yn bodoli er mwyn i staff newydd ac amhrofiadol allu datblygu eu dychymyg o ran eu haddysgu. 

Cam 2:  Cynllunio a pharatoi ar gyfer newid

Yn dilyn canfyddiadau cychwynnol, arfarnodd yr uwch dîm rheoli fod cynllunio yn rhy fanwl o lawer.  Codwyd pryderon am gydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, ac roedd llawer o athrawon yn gweithio oriau hir yn creu cynlluniau tymor canolig manwl, ac yn aml yn ysgrifennu cynlluniau gwersi unigol.  O ganlyniad, penderfynodd yr ysgol ganolbwyntio ar gynllunio tasgau cyfoethog a oedd yn amlinellu’n glir y gweithgarwch, yr adnoddau a’r profiadau a ddarperir i ddatblygu medrau disgyblion.
Cyflwynwyd tasgau manylach yng nghyfnod allweddol 2, a oedd yn canolbwyntio ar ddarparu her effeithiol, yn enwedig ar gyfer bechgyn a’r rheiny y mae eu cyflawniad yn ganolig.  Heriau penagored yw’r tasgau hyn, ac maent yn galluogi disgyblion i arwain eu dysgu eu hunain trwy ddefnyddio a chymhwyso medrau y maent wedi’u dysgu.  Maent yn annog disgyblion i ddefnyddio eu medrau meddwl a bod yn greadigol.  Maent yn dasgau estynedig y mae disgyblion yn dychwelyd atynt ar adegau gwahanol.  Cafodd yr agwedd hon ar addysgu ei chynnwys fel amcan ysgol gyfan ac roedd yn darged ar gyfer rheoli perfformiad pob athro.

Daeth arweinwyr i’r casgliad fod y rhan fwyaf o wersi’n symud yn rhy gyflym.  Nid oedd disgyblion yn cael cyfleoedd i feddwl a sefydlu’r hyn y maent eisoes yn ei wybod.  O ganlyniad, nid oeddent yn cynllunio’n ddigon da ar gyfer yr hyn yr oedd angen iddynt ei ddysgu.  Roedd arweinwyr yn awyddus i gael gwared ar y sesiwn dal i fyny wythnosol sy’n cael ei hadnabod yn yr ysgol fel ‘Anhrefn dydd Gwener’ (‘Friday chaos’) a oedd yn deillio o gynllunio rhy uchelgeisiol.

Yn dilyn yr arfarniad, roedd arweinwyr yn holi effeithiolrwydd darparu ‘dwy seren a dymuniad’ a ph’un a oedd hyn yn cyfrannu at godi safonau a gwella gwaith disgyblion ai peidio.  Er bod bron pob un o’r disgyblion yn gwneud cynnydd da o’u gwaelodlinau, roedd yr arweinwyr yn credu nad oedd hyn wedi digwydd o ganlyniad i  farcio athrawon.  Pan oedd angen, roeddent yn cyfyngu adborth ysgrifenedig i ychydig iawn o eiriau allweddol, a oedd yn cael eu cofnodi yn ystod adborth ar lafar ym mhresenoldeb y disgybl.  Ni chaiff targedau eu cofnodi’n ysgrifenedig, ond mae’r disgybl yn eu gwybod ac yn eu deall gyda llawer mwy o drylwyredd nag o’r blaen.

Yn dilyn yr arfarniad, penderfynodd yr ysgol mai’r prif ffocws ar gyfer newid oedd addysgeg.  Roedd pob un o’r staff wedi ymrwymo i’r syniad fod ‘addysgu da yn arwain at ddysgu da’.  Yn dilyn eu hymglymiad fel Triawdau Ymddiriedaeth (‘Trust Trios’), roeddent yn deall pwysigrwydd cynllunio yn erbyn y pedwar diben. 

Mae’r ysgol yn adolygu ymdriniaeth â’r cwricwlwm ac ansawdd yn rheolaidd yn dda ac mae arweinwyr yn monitro ac arfarnu cynnydd yn rheolaidd.  Newidiodd y llywodraethwyr y strwythur staffio trwy drefnu staff yn dimau meysydd dysgu a phrofiad.  Rhoddir amser i’r timau hyn yn y calendr cyfarfodydd staff i adolygu arfer bresennol a gwneud gwelliannau.  Nid oes brys mawr i newid teitlau themâu neu newidiadau sydyn yng nghynnwys y cwricwlwm.  Mae’r ffocws ar newid y ffordd y mae athrawon yn addysgu trwy arfarnu addysgeg mewn ffordd fesuradwy yn erbyn ymgysylltu â disgyblion, a’u deilliannau.  Mae adborth pwrpasol trwy’r uwch grŵp arweinyddiaeth yn sicrhau bod pob arweinydd meysydd dysgu a phrofiad yn gwybod beth sy’n digwydd ac yn nodi cyfleoedd ar gyfer cydweithio. 

Ychydig iawn o rwystrau sydd gan yr ysgol rhag newid, ac mae wedi datblygu agwedd iach iawn tuag at ddiwygio trwy weithio’n agos â’i gilydd a gydag ysgolion eraill mewn clystyrau lleol a chenedlaethol.  Eir i’r afael ag unrhyw ansicrwydd mewn diwylliant o ddidwylledd ac uniondeb.