Cynnwys rhieni - Cyfathrebu rhwng ysgolion a rhieni plant oedran ysgol - Estyn

Cynnwys rhieni – Cyfathrebu rhwng ysgolion a rhieni plant oedran ysgol

Adroddiad thematig


Mae’r adroddiad yn astudiaeth fer lle rydym yn adolygu pa mor effeithiol y mae ysgolion yn cyfathrebu ac ymgysylltu â rhieni plant oedran ysgol ac yn archwilio safbwyntiau rhieni ar y dulliau a ddefnyddir gan ysgolion. Mae’r canfyddiadau’n seiliedig ar gyfuniad o gyfweliadau ag arweinwyr ysgol dros y ffôn ac yn ystod arolygiadau, holiadur ar-lein a chyfweliadau grwpiau ffocws gyda rhieni, a gwybodaeth o arolygiadau yn ystod y cylch diwethaf (2010 i 2017). Yn yr adroddiad hwn, defnyddir y term ‘rhiant’ i gynnwys rhieni, gofalwyr a gwarcheidwaid.


Ysgrifennir yr adroddiad hwn i ymateb i gais am gyngor gan Lywodraeth Cymru yn llythyr cylch gwaith blynyddol Ysgrifennydd y Cabinet i Estyn ar gyfer 2017-2018.
 
Mae’r adroddiad wedi’i fwriadu ar gyfer Llywodraeth Cymru, penaethiaid a staff mewn ysgolion, awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol. Gallai fod o ddiddordeb i ysgolion sy’n ceisio adolygu’r ffordd y maent yn cyfathrebu ac ymgysylltu â rhieni i gael gwared ar rwystrau rhag addysg.

Argymhellion

 
Dylai ysgolion:

A1 Ymgynghori â rhieni ynglŷn â’u hanghenion cyfathrebu ac ymgysylltu, ac adolygu eu dulliau yn unol â hynny i wella cyfathrebu dwy ffordd

 
A2 Gwella eu sianeli cyfathrebu er mwyn ymgysylltu â’r holl rieni a gwarcheidwaid, yn arbennig tadau
 
A3 Sicrhau bod adroddiadau a nosweithiau rhieni yn canolbwyntio ar gryfderau penodol plentyn a’i feysydd i’w datblygu
 
A4 Ei gwneud yn glir sut gellir cysylltu â staff a rhiant-lywodraethwyr, a rhoi prosesau buddiol a chlir ar waith ar gyfer delio â chyfathrebu â rhieni
 
A5 Ymgynghori ar brotocolau a’u rhoi ar waith ar gyfer rhieni, disgyblion a staff ar ddefnyddio sianeli cyfathrebu digidol, gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol
 
A6 Chwilio am ffyrdd o sicrhau eu bod yn rhoi ystyriaeth dda i safbwyntiau ystod lawn y rhieni sy’n ffurfio cymysgedd economaidd gymdeithasol yr ysgol mewn hunanarfarnu ac ymarferion ymgynghori eraill
 
A7 Arfarnu dulliau cyfathrebu ac ymgysylltu â rhieni ar gyfer cynllunio gwelliant, i sicrhau eu bod yn cael effaith ar safonau disgyblion
 
Dylai awdurdodau lleol:
A8 Ddarparu cymorth ar gyfer ysgolion i ddatblygu eu strategaethau ymgysylltu â rhieni, gan gynnwys defnyddio sianeli cyfathrebu electronig yn ddiogel ac effeithiol, yn enwedig cyfryngau cymdeithasol
 
Dylai Llywodraeth Cymru:

A9 Roi rhagor o arweiniad i ysgolion ar sut i sicrhau bod llywodraethwyr yn cynrychioli ac ymgysylltu â rhieni yn effeithiol


Darparwyr dan sylw

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn