Cynnwys pob un o’r staff yn y broses hunanwerthuso

Arfer effeithiol

St Mary’s R.C. Primary School


 
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair yn awdurdod lleol Wrecsam.  Mae 395 o ddisgyblion ar y gofrestr, rhwng 3 ac 11 oed, gan gynnwys 42 o ddisgyblion sy’n mynychu’r dosbarth meithrin yn rhan-amser.  Mae’r ysgol yn trefnu disgyblion yn 14 dosbarth un oedran, a dau ddosbarth meithrin.  Mae tua 5% o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim, sydd gryn dipyn islaw’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 18%.  Mae’r ysgol yn nodi bod gan ryw 8% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol, sydd islaw’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 21%.  Daw mwyafrif y disgyblion o gefndir ethnig lleiafrifol ac mae tua hanner y disgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol.  Mae hyn gryn dipyn uwchlaw’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 6%.  Mae ychydig iawn o ddisgyblion yn siarad Cymraeg gartref.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae staff yr ysgol wedi eu trefnu’n dimau i arwain a datblygu blaenoriaethau.  Mae hyn wedi bod yn llwyddiannus, er enghraifft wrth roi mentrau newydd ar waith yn yr ysgol wedi iddynt gymryd rhan mewn nifer o brosiectau ar y cyd, yn seiliedig ar glwstwr. 

Yn y gorffennol, roedd y pennaeth a’r uwch reolwyr yn gyfrifol am arwain proses hunanwerthuso’r ysgol.  Er i staff a llywodraethwyr fod yn gysylltiedig â’r CDY (cynllun datblygu ysgol) a’u bod yn ymwybodol ohono trwy gyfarfodydd staff a llywodraethwyr a chyfleoedd hyfforddi, cyfyngedig oedd eu rhan yn ei greu a’i werthuso’n barhaus.

Yn ychwanegol, roedd rôl draddodiadol y cydlynydd cwricwlwm wedi mynd yn ddiangen yn yr ysgol.  Roedd staff yn cydweithio mwy i gynllunio profiadau dysgu ysgogol gyda’r disgyblion, ac roedd pob un o’r staff yn cymryd rhan mewn ymarferion monitro ar sail rota. 

Yn sgil dyfodiad agos y Safonau Addysgu Proffesiynol newydd, cydnabu’r tîm arweinyddiaeth eu cyfrifoldeb proffesiynol i gefnogi a hwyluso datblygiad pob aelod o staff fel arweinwyr.  O ran y dyfodol, roedd yn hanfodol fod y broses hunanwerthuso a datblygu ysgol yn dod yn fater ysgol gyfan a bod pob aelod o staff yn hawlio mwy o berchnogaeth o’u datblygiad proffesiynol.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Mae hunanwerthuso’r ysgol, ei chynllunio datblygiad a datblygiad staff yn gyfrifoldeb ar y cyd y staff sy’n cydweithio fel sefydliad dysgu proffesiynol.

  • I ddechrau, nodir blaenoriaethau gwella ysgol drafft yn dilyn proses hunanwerthuso drylwyr, yn cynnwys pob un o’r staff a’r llywodraethwyr.
  • Caiff personél allweddol sydd â chyfrifoldebau penodol eu henwebu gan y tîm arweinyddiaeth i arwain datblygiad pob blaenoriaeth a nodwyd o fewn tîm datblygu CDY, e.e. cydlynwyr llythrennedd, Arweinydd Clwstwr Dyfodol Llwyddiannus.
  • Gwhaoddir staff i fynegi diddordeb mewn ymuno â thîm CDY penodol.
  • Ar sail y wybodaeth hon, mae’r tîm arweinyddiaeth wedyn yn trefnu athrawon yn dimau ar draws sectorau gyda chydbwysedd priodol rhwng arbenigedd a phrofiad i sicrhau bod pob blaenoriaeth yn cael ei datblygu’n effeithiol yn yr ysgol gyfan.
  • Mae pob tîm CDY yn cydweithio i werthuso a rhoi manylion am eu maes blaenoriaeth penodol i’w ddatblygu yn nogfen ar y cyd y CDY.
  • Maent yn myfyrio ar y sefyllfa bresennol o ran y maes blaenoriaeth, yn nodi meini prawf i’w rhoi ar waith yn llwyddiannus ac yn cofnodi camau penodol y dylid eu cymryd.  Rhoddir manylion am unrhyw oblygiadau staffio ac adnoddau, gan gynnwys costau a’u ffynhonnell.  Caiff terfynau amser ar gyfer cyflawni eu cynnwys hefyd.
  • Ar ôl ei chwblhau, bydd y timau CDY yn cyflwyno eu rhan nhw o’r cynllun datblygu i bob aelod o staff, ac ychwanegir unrhyw gamau pellach yn dilyn trafodaeth.  Gwneir cysylltiadau rhwng gwahanol flaenoriaethau i sicrhau dull cyson a chydlynol.
  • Mae’r tîm arweinyddiaeth yn dadansoddi’r CDY cyffredinol, ac yn blaenoriaethu datblygiad ysgol gyfan, anghenion ymchwil a hyfforddi.  Mae hyn yn llywio rhaglen gynlluniedig o weithgareddau ymchwil mewnol yn seiliedig ar weithredu, gweithdai cyfarfodydd staff, hyfforddiant ac unrhyw sesiynau datblygiad staff a fydd yn cael eu darparu gan weithwyr proffesiynol allweddol eraill.  
  • Wedyn, rhoddir targedau tymor byr ar ddatblygu yn gysylltiedig â’u blaenoriaeth i dimau’r CDY, gyda disgwyliad i rannu ymchwil ac arfer dda gyda phob un o’r staff yn ystod cyfarfod staff a sesiwn hyfforddi ddynodedig.
  • Mae pob un o’r cyfarfodydd staff a’r sesiynau datblygu yn darparu fforwm agored i staff gyfrannu, gofyn cwestiynau, a herio syniadau a strategaethau yn broffesiynol.  Mae hyn yn sicrhau bod systemau yn cael eu mireinio a’u haddasu’n briodol i weddu orau i’r disgyblion a’u lleoliad.
  • Bob hanner tymor, mae timau CDY yn cynnal adolygiad llawn o gynnydd tuag at y camau gweithredu a nodwyd, ac fe gaiff y CDY ei ddiweddaru yn unol â hynny ar y ddogfen ar-lein a rennir.  Mae cod lliw ar gyfer pob cam gweithredu yn CAG (Coch, Ambr, Gwyrdd) a dangosir tystiolaeth o gynnydd.  Pan fydd angen, gellir addasu camau gweithredu yn sgil unrhyw hyfforddiant neu ymchwil ychwanegol a gynhaliwyd.
  • Gall pob un o’r staff a’r llywodraethwyr fynd at y CDY ‘byw’ ac fe gaiff ei rannu’n ffurfiol â llywodraethwyr ym mhob un o gyfarfodydd y cwricwlwm a llywodraethwyr hefyd.  Caiff cynnydd ei drafod a’i herio pan fo’n briodol i sicrhau gwelliant cynaledig.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

  • Hinsawdd o gymorth ar y ddwy ochr lle mae pob un o’r staff yn cydweithio’n effeithiol ar holl feysydd gwella’r ysgol
  • Perchnogaeth a dealltwriaeth ar y cyd o weledigaeth yr ysgol ar gyfer datblygiad strategol
  • Cyfrifoldebau arwain wedi eu dosbarthu’n llwyddiannus i bob un o’r staff, yn unol â’u cryfderau a’u meysydd diddordeb ac arbenigedd
  • Staff yn gweithio mewn timau ar draws sectorau, gan sicrhau bod gan bawb drosolwg o daith wella’r ysgol
  • Rolau a chyfrifoldebau wedi eu diffinio’n dda sy’n cael eu deall yn glir gan bob aelod o staff
  • Staff ar bob lefel wedi eu grymuso i gyfrannu’n helaeth at ddatblygu eu medrau arwain eu hunain
  • Addysgu a chymorth cydweithredol ar gyfer cydweithwyr, sy’n darparu arweiniad pendant ar gyfer staff sy’n llai hyderus neu’n llai profiadol
  • Cyfleoedd ar gyfer dysgu proffesiynol yn yr ysgol a thu hwnt
  • Platfform i staff rannu arfer dda a darparu hyfforddiant ar lefel ysgol gyfan, sydd hefyd yn gwella eu medrau cyflwyno eu hunain yn llwyddiannus
  • Arloesedd a thwf proffesiynol ar bob lefel, wedi’u hwyluso gan ymchwil weithredu a gynhelir gan dimau CDY
  • Disgwyliadau uwch i staff ymchwilio a bod yn gyfrifol am eu dysgu proffesiynol eu hunain
  • Annog a grymuso staff i fyfyrio ar eu harfer eu hunain a bod yn agored i dreialu addysgeg newydd, arloesol a blaengar heb ofni gwneud camgymeriadau

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda? 

Mae’r ysgol wedi rhannu datblygiad y model arweinyddiaeth hwn gyda’r consortiwm rhanbarthol, yr Esgobaeth a rhanddeiliaid allweddol.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn