Cynnal ffocws clir i wella cysondeb yr addysgu - Estyn

Cynnal ffocws clir i wella cysondeb yr addysgu

Arfer effeithiol

Neyland Community School


Cyd-destun

Mae Ysgol Gymunedol Neyland yn Sir Benfro.  Ar hyn o bryd, mae 333 o ddisgyblion yn mynychu’r ysgol, a 52 ohonynt yn mynychu’r dosbarth meithrin.  Mae’r ysgol wedi’i threfnu’n bum dosbarth oedran cymysg a chwe dosbarth un oedran.  Mae bron pob un o’r disgyblion o ethnigrwydd gwyn Prydeinig.

Mae tua 18% o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim.  Mae’r ysgol yn nodi bod gan dros 40% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol.  Nid oes unrhyw ddisgyblion yn siarad Cymraeg gartref.

Mae’r pennaeth wedi bod yn ei swydd er mis Medi 2006.  Mae dau o’r tri aelod arall o’r tîm arweinyddiaeth a’r rhan fwyaf o’r staff addysgu a oedd yn eu swydd adeg yr arolygiad yn parhau i weithio yn yr ysgol. 

Strategaeth a chamau gweithredu

Mae’r uwch dîm arweinyddiaeth yn cytuno bod canfyddiadau’r tîm arolygu wedi creu syndod i ddechrau, ond roeddent yn benderfynol o wneud y gwelliannau angenrheidiol.  Mae pob un ohonynt yn cytuno bod yr argymhellion wedi helpu’r ysgol i ganolbwyntio ar y meysydd pwysicaf ac wedi eu galluogi i wrthod ymgymryd â mentrau nad oeddent yn addas ar gyfer cyfnod datblygu’r ysgol, er eu bod yn ddiddorol.  Mae arweinwyr yn meddwl eu bod wedi ceisio gwneud gormod o bethau ar unwaith yn y gorffennol a bod hyn wedi arwain at ddiffyg cysondeb ac ymgorffori arferion cytûn.

Mae arweinwyr yn cydnabod bod diffyg cysondeb ar draws grwpiau blwyddyn a rhyngddynt yn peri problem adeg yr arolygiad.  Ar ôl yr arolygiad, lluniodd y tîm arweinyddiaeth restr o nodweddion gorfodol ar gyfer arferion ystafell ddosbarth cyffredinol ac ar gyfer y chwe argymhelliad.  Roeddent yn disgwyl gweld y nodweddion gorfodol hyn ym mhob dosbarth.  Mewn cyfarfodydd staff, trafododd athrawon y nodweddion gorfodol a chawsant gyfleoedd da i gyfrannu at y broses.  Mae’r nodweddion gorfodol wedi datblygu wrth i athrawon arbrofi ag arferion newydd.  Er enghraifft, canfu’r ysgol fod un o’r nodweddion gorfodol gwreiddiol ynghylch adborth a marcio yn rhy gymhleth a beichus i athrawon a disgyblion.  Mewn rhai achosion, roedd athrawon yn treulio mwy o amser yn ysgrifennu sylwadau nag yr oedd disgyblion wedi’i gymryd i gwblhau’r gwaith.  Arweiniodd hyn at drafodaethau ymhlith athrawon am ddiben marcio ac adborth a chytunodd pob un o’r athrawon i gael sgyrsiau ystyrlon â disgyblion ynglŷn â sut gallant wella eu gwaith.  Cytunodd athrawon ar god marcio hefyd ac mae pob dosbarth yn defnyddio’r cod yn gyson, ac yn bwysig, mae disgyblion yn ei ddeall.  Trwy drafodaeth ymhlith pob aelod o staff, cytunodd athrawon y dylai marcio bob amser fod yn ystyrlon a bod ansawdd yr adborth i ddisgyblion yn bwysicach na’i faint.  Mae arweinwyr yr ysgol yn olrhain yn dda sut mae marcio’n helpu gwella dealltwriaeth disgyblion trwy graffu ar waith gyda disgyblion a gofyn iddynt sut mae sylwadau eu hathro a’u cyfoedion yn eu helpu i gynhyrchu gwaith gwell. 

Mae’r nodweddion gorfodol wedi datblygu i fod yn siarter ddysgu y mae’r ysgol yn ailedrych arni bob hanner tymor.  Cyn cyfarfodydd y siarter, mae arweinwyr yn ymgymryd ag ystod o weithgareddau hunanarfarnu sy’n gysylltiedig â’r blaenoriaethau a’r cytundebau yn y siarter.  Mae’r gweithgareddau hyn yn cynnwys craffu ar waith gyda disgyblion, gwrando ar ddysgwyr, adborth llywodraethwyr ac arsylwadau gwersi.  Mae cofnodion o gyfarfodydd staff yn dangos yn glir sut mae arweinwyr yn olrhain yr holl weithgareddau monitro ac yn rhoi adborth gonest i staff a chamau nesaf clir.  Mae arweinwyr yn cymryd amser i ddathlu popeth sy’n mynd yn dda ac yn pwysleisio’r cynnydd y mae pawb wedi’i wneud.

Mae arweinwyr yn arsylwi pob athro bob tymor yn erbyn blaenoriaeth gytûn yn y siarter.  Mae’r ysgol yn defnyddio’r ffurflen o’r consortiwm rhanbarthol ar gyfer asesu ansawdd yr addysgu a’r dysgu.  Pan gyflwynodd arweinwyr arsylwadau gwersi ffurfiol rheolaidd i ddechrau, gwelodd athrawon fod yr arsylwi yn fwy fel perfformiad ac roeddent yn teimlo eu bod o dan y sbotolau.  Dywed arweinwyr fod defnyddio ffurflen y consortiwm wedi helpu athrawon a nhw eu hunain i ailfeddwl am ddiben arsylwadau gwersi.  Erbyn hyn, maent yn canolbwyntio’n gliriach ar effaith yr addysgu ar ddeilliannau disgyblion yn hytrach nag ar yr athro fel unigolyn.  Ar ôl pob arsylwad, caiff yr athro adborth byr ar lafar.  Mae’r uwch arweinydd yn ysgrifennu nodiadau’r arsylwad ac yn cyfarfod â’r athro i gael deialog broffesiynol fanwl am safonau disgyblion, cyfraniad yr athro at flaenoriaethau’r siarter, cryfderau mewn addysgu ac unrhyw ddatblygiad neu gymorth pellach sydd ei angen.  Mae uwch arweinwyr yn cyfarfod ar ôl rownd yr arsylwadau gwersi i ddwyn ynghyd gryfderau’r ysgol gyfan a’r meysydd i’w datblygu, yn ogystal â chynnydd tuag at flaenoriaethau’r siarter.  Maent yn adrodd am eu canfyddiadau yn onest ac yn agored i staff.  Er enghraifft, nododd trafodaethau am arsylwadau gwersi fod cyflymdra yn faes i’w ddatblygu gan fod disgyblion wedi datgan bod rhaid iddynt wrando gormod cyn gwneud unrhyw beth.  Cyflwynodd athrawon y ‘rheol deg eiliad’ i geisio sicrhau eu bod yn mynd ati i ennyn diddordeb disgyblion trwy gydol y wers ac nad ydynt yn  drysu pethau trwy roi esboniadau hirfaith.  Roedd arsylwadau gwersi hefyd yn dechrau trafodaeth am wahaniaethu, gan fod arweinwyr yn teimlo, er bod y rhan fwyaf o athrawon yn gwahaniaethu gweithgareddau, nid oeddent bob amser yn rhoi ystyriaeth ddigon da i fannau cychwyn y disgyblion yn y dosbarth.  Yn sgil y trafodaethau hyn, cytunodd athrawon ynglŷn â sut i wahaniaethu gweithgareddau a phwysigrwydd holi disgyblion yn rheolaidd i ddeall pa mor dda y maent yn ymdopi â gofynion y wers.  Uwch arweinwyr sy’n cynnal y rhan fwyaf o arsylwadau gwersi.

Adeg yr arolygiad, roedd yr uwch dîm arweinyddiaeth yn cynnwys pennaeth, dirprwy bennaeth a dau uwch athro.  Ar ôl secondio un o’r uwch athrawon, estynnodd y pennaeth wahoddiad i bedwar aelod o’r staff addysgu fynychu cyfarfodydd uwch arweinwyr a chymryd rhan ynddynt.  Bellach, mae’r arweinwyr canol hyn yn cymryd cyfrifoldeb am brosiectau fel astudio mewn gwersi, meistroli mathemateg, darpariaeth barhaus ac wedi ei chyfoethogi yn y cyfnod sylfaen a chymedroli.  Mae hyn wedi dosbarthu arweinyddiaeth a chyfrifoldeb yn dda ar draws yr ysgol ac mae wedi gwella’r cyfleoedd dysgu proffesiynol ar gyfer y darpar arweinwyr hyn.

Mae arweinwyr yn adnabod eu staff yn dda.  Maent wedi symud ar gyflymdra y mae staff yn gyfforddus ag ef ac wedi cynnwys staff mewn llawer o benderfyniadau pwysig ynglŷn â’r hyn y dylai’r ysgol ei wneud i gyflawni cysondeb a thyfu ei harfer broffesiynol.  Bu tri o athrawon yn archwilio ac yn arbrofi â’r ymagwedd astudio mewn gwersi y llynedd.  Maent yn meithrin eu profiad o’r ymagwedd yn ystod tymor yr hydref a thymor y gwanwyn 2017/2018 a bwriedir hyfforddi athrawon Blwyddyn 5 a Blwyddyn 6 yn y fethodoleg yn ystod tymor yr haf.  Mae arweinwyr yn gwirio’n barhaus fod yr hyn y maent yn ei wneud yn iawn i’w hysgol ac nad ydynt yn ofni rhoi’r gorau i wneud rhywbeth os nad yw’n gweithio i’w hathrawon neu’u disgyblion.  Mae’r ysgol newydd ddechrau cyflwyno arsylwadau cymheiriaid, gan nad oedd pob un o’r athrawon yn gyfforddus â’r gweithgaredd hwn yn y gorffennol.  Roedd adborth o’r rownd gyntaf o arsylwadau cymheiriaid yn gadarnhaol ac athrawon yn croesawu’r cyfle i rannu eu harfer ar y cyfan.  Mae uwch arweinwyr a rhai athrawon wedi cael cyfle i arsylwi arfer mewn ysgolion eraill.

Yn ddiweddar, cynhaliodd y pennaeth archwiliad o ganfyddiadau ynglŷn â datblygiad proffesiynol yn yr ysgol.  Rhoddodd sgôr i’r ysgol yn ôl p’un a oedd yn ddatblygol, efydd, arian neu aur yn unol ag ystod o ddatganiadau a chwestiynau am ddull presennol yr ysgol o ddatblygu staff.  Canolbwyntiodd y cwestiynau ar destunau, fel p’un a oes gweledigaeth glir ar gyfer datblygiad proffesiynol effeithiol, rôl arweinwyr mewn arddangos datblygiad proffesiynol da, pa mor gyfforddus yw staff yn rhannu eu harfer, a pha mor dda y mae’r ysgol yn cynorthwyo staff i dyfu a datblygu eu harfer broffesiynol.  Mae arweinwyr wedi defnyddio’r deilliannau o’r archwiliad i lywio blaenoriaeth yng nghynllun datblygu’r ysgol.  Mae targedau yn erbyn y flaenoriaeth hon yn cynnwys ennyn diddordeb athrawon mewn gweithgareddau dysgu proffesiynol tymor hwy, yn hytrach na mynychu cyrsiau neu ddigwyddiadau unigol ac i staff gymryd rhan mewn gweithgareddau datblygu ysgol gyfan neu sector.  Mae’r ysgol eisoes wedi dechrau ar y cyfnod hwn ar ei thaith trwy gyflogi darparwr allanol i arwain diwrnod datblygu staff ar beth sy’n gwneud addysgu rhagorol.  Fe wnaeth y diwrnod hwn annog staff i feddwl am eu harfer a rhannu syniadau a methodolegau.  Ar ôl y diwrnod hwn, a’r trafodaethau proffesiynol dilynol, diwygiodd staff y siarter ddysgu i adlewyrchu’r ffaith y byddai eu gwersi’n cynnwys cyfres o sesiynau llawn, byr i wirio dealltwriaeth disgyblion a chynnig cyfleoedd mwy rheolaidd i ddisgyblion ddylanwadu ar beth maent yn ei ddysgu, a sut.  Mae athrawon ym Mlwyddyn 3 a Blwyddyn 4 i gyd wedi mynychu’r un cwrs datblygiad proffesiynol pedwar diwrnod ar sut i ennyn diddordeb disgyblion mewn dysgu cydweithredol.  Mae’r cwrs, sesiynau cynllunio ar y cyd bob pythefnos ar ôl yr ysgol a dysgu cydweithredol fel ffocws yr arbrawf astudio mewn gwersi wedi arwain at ddull cyson ar draws y dosbarthiadau hyn a ffocws gwell ar fedrau cymdeithasol a chyfathrebu disgyblion a’u lles emosiynol.  Mae athrawon wedi gweithio gyda’i gilydd i feddwl, er enghraifft, am y modd y mae trefniadaeth eu hystafelloedd dosbarth a’u holi yn arwain at lefelau gwell o gydweithrediad a llai o bryder i ddisgyblion.

Deilliannau

Bellach, mae’r ysgol yn sicrhau:

  • Bod gweithgareddau monitro yn arwain at gamau gweithredu clir
  • Bod arweinwyr yn meddu ar ddealltwriaeth well o lawer o’r cryfderau a’r meysydd i’w gwella yn eu hysgol
  • Bod pob un o’r staff bellach yn cymryd cyfrifoldeb am yr arfer yn eu dosbarthiadau
  • Bod lefelau gwell o gysondeb, yn enwedig mewn marcio ac adborth
  • Bod yr ysgol gyfan yn ystyried effaith addysgu ar ddysgu
  • Bod staff yn fwy hyderus i gymryd rhan mewn arsylwadau cymheiriaid
  • Bod yr ysgol yn dosbarthu arweinyddiaeth yn fwy effeithiol
  • Bod staff yn cael mwy o gyfleoedd i ddatblygu’n broffesiynol a dysgu gyda’i gilydd

Y camau nesaf fel y nodwyd gan yr ysgol:

  • Darparu mwy o gyfleoedd ar gyfer arsylwi cymheiriaid, a’u hymgorffori
  • Ystyried goblygiadau ariannol cyflwyno’r dull astudio mewn gwersi ar draws yr ysgol os yw’n profi’n llwyddiannus
  • Gwneud mwy o ddefnydd o ymchwil i lywio arfer, gan gynnwys staff yn cymryd rhan mewn prosiectau ymchwil weithredu
  • Bod yn fwy allblyg a threfnu bod mwy o staff yn ymweld â darparwyr eraill i rannu a gweld math arall o arfer dda
  • Datblygu gallu staff i fyfyrio ar eu harfer ac yn unol â’r safonau proffesiynol newydd