Cynllunio’r cwricwlwm i sicrhau profiadau creadigol i ddisgyblion

Arfer effeithiol

Ysgol Y Dderi


 
 

Cyd-destun

Mae Ysgol y Dderi ym mhentref Llangybi ger Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion.  Mae’n gwasanaethu ardal wledig eang.

Mae 135 o ddisgyblion, gan gynnwys 21 o ddisgyblion sy’n mynychu’n rhan-amser.  Mae pum dosbarth, a thri ohonynt yn rhai oedrannau cymysg. 

Mae’r ysgol yn nodi bod gan leiafrif o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol, gan gynnwys ychydig iawn ohonynt sydd â datganiad o anghenion dysgu ychwanegol.  Mae rhai disgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim.  Saesneg yw’r brif iaith y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn ei siarad gartref.  Mae ychydig iawn o ddisgyblion o gefndiroedd ethnig lleiafrifol yn yr ysgol, ac nid oes unrhyw un ohonynt yn siarad Cymraeg gartref.

Cam 1:  Arfarnu’r cwricwlwm presennol o fewn trefniadau hunanarfarnu ehangach

Yn dilyn deuddydd o hyfforddiant i ystyried effeithiolrwydd y cwricwlwm, barnodd staff yn yr ysgol “nad oeddent yn cael eu hysbrydoli” gan y themâu tymhorol ac nad oedd “unrhyw sbardun na chyffro” pan oeddent yn cynllunio gweithgareddau.  Dangosodd dadansoddiad y tîm arweinyddiaeth o gyflawniad disgyblion mewn iaith a mathemateg fod deilliannau’n amrywio yn ôl pob carfan a barnodd nad oedd cynllunio’n ddigon cydlynus i ddatblgu medrau llythrennedd a rhifedd ar draws y cwricwlwm yn effeithiol.  Roeddent hefyd yn ei chael yn anodd amserlennu holl bynciau’r cwricwlwm a phenderfynon nhw addasu eu cynllunio i fodloni anghenion penodol yr ysgol.  Barnodd staff nad oedd gan y disgyblion yr offer angenrheidiol i allu manteisio’n llawn ar bob agwedd ar y cwricwlwm gan nad oedd eu medrau llythrennedd a rhifedd yn ddigon cryf.  O ganlyniad, fe wnaethant archwilio’r posibilrwydd i gael gweithgareddau cynllunio a oedd yn datblygu medrau llythrennedd a rhifedd ar draws y cwricwlwm yn hytrach nag addysgu pynciau’r cwricwlwm mewn gwersi unigol, annibynnol a digyswllt.

Mae gan staff berchnogaeth dros arfarniad yr ysgol o’r cwricwlwm.  Maent yn gyrru’r agenda ar gyfer newid ac yn sicrhau bod llywodraethwyr, disgyblion a rhieni’n cael eu cynnwys yn yr holl benderfyniadau ac yn cael gwybod am y newidiadau.  Mae’r pennaeth yn gweithio mewn partneriaeth â’r holl randdeiliaid allweddol i ddatblygu cwricwlwm llwyddiannus ac arloesol.  Mae prosesau’r ysgol yn galluogi staff i ganolbwyntio’n llawn ar yr hyn yr oedd angen ei newid dros y tymor canolig ac yn y tymor hir.  Roedd gan yr ysgol yr hyder hefyd i fod yn agored i newid yn y tymor byr.  Os bydd angen a chyfle i wella’r ddarpariaeth, hyd yn oed os nad oedd yr ysgol yn cynllunio ar gyfer y canlyniad hwn, mae staff mewn sefyllfa gref i ymateb yn gyflym iawn ac maent yn hyblyg iawn i’r syniad o newid.  Mae’r ysgol yn gwneud y gorau o’i chryfderau ac yn defnyddio ymrwymiad addysgu’r pennaeth yn bwrpasol i ddarparu arfarniad parhaus o’r ddarpariaeth fel bod negeseuon pwysig yn cael eu rhannu’n effeithiol â phob aelod o staff.

Wrth arfarnu eu cwricwlwm presennol, bu’r ysgol yn ystyried perthnasedd yr hyn a oedd yn cael ei gyflwyno i’r disgyblion o ran eu bywydau o ddydd i ddydd.  Mae canlyniadau monitro yn dangos nad oedd hyn yn digwydd bob dydd ac nad oedd disgyblion yn cael eu hysbrydoli gan themâu fel ‘ein cymdogaeth’ a ‘fi fy hun’, ac yn eu hystyried yn ddiflas. 

Cam 2: Cynllunio a pharatoi ar gyfer newid

Anogodd arweinwyr yr athrawon i newid eu cynlluniau yn unol â deilliannau, dyheadau a diddordebau disgyblion.  O ganlyniad, dangoswyd cynnydd da mewn safonau iaith a mathemateg ar draws yr ysgol gyfan.      

Mae’r symbyliad i gynllunio er mwyn diwygio’r cwricwlwm yn ddeublyg:

  • roedd yr athrawon wedi syrffedu ar yr un hen themâu
  • roedd safonau digonol ar draws y cwricwlwm

Wrth gynllunio gweithgareddau, rhoddwyd pwyslais cychwynnol ar ddarparu ‘profiadau’ creadigol ar gyfer disgyblion.  Mae hyn bellach yn datblygu ymhellach i gynnwys cyfleoedd gwerth chweil i ddatblygu pedwar diben a amlinellir yn Dyfodol Llwyddiannus, (Donaldson, 2015).  Cynllunnir pob ymweliad, gweithgaredd ac ymwelydd er mwyn datblygu o leiaf un o’r dibenion.  Os nad yw’r gweithgaredd yn cyfrannu at ddatblygu’r dibenion craidd hyn, yna nid yw’r gweithgaredd yn syml yn mynd yn ei flaen.  Mae hyn yn dilyn trafodaeth gyda’r staff a’r disgyblion ar ddechrau pob thema.  Mae’r uwch dîm rheoli yn gweithio’n agos iawn gydag aelodau unigol o’r corff llywodraethol er mwyn sicrhau eu bod yn deall egwyddorion y pedwar diben a’r angen i ddatblygu addysgeg effeithiol.  Mae’r uwch dîm rheoli yn credu bod eu hymglymiad yn eu paratoi’n dda i arfarnu a datblygu cwricwlwm eang o ran y meysydd dysgu a phrofiad, yn enwedig y celfyddydau mynegiannol. 

Rhoddwyd ffocws cychwynnol ar gyflymdra gwersi, gan sicrhau bod yr addysgu’n symud ymlaen gan ddefnyddio’r gwahanol themâu.  Fe wnaeth arweinwyr annog athrawon i beidio â chanolbwyntio ar un thema yn rhy hir trwy newid y thema bob hanner tymor o leiaf, a chynnwys is-themâu fel rhan o’r brif thema am hyd at wythnos ar y tro.

Roedd arweinwyr yn annog athrawon a disgyblion i fentro a rhoddodd y pennaeth ryddid i hyn ddigwydd yn yr ystafell ddosbarth er mwyn datblygu medrau meddwl athrawon a disgyblion. 

Mae pob un o’r rhanddeiliaid yn craffu ar lyfrau gyda’i gilydd cyn rhoi adborth ysgrifenedig adeiladol sy’n llywio cynllunio ar gyfer y dyfodol yn dda.  Caiff y rhieni wybodaeth gynhwysfawr am y gwaith a fydd yn cael ei wneud yn ystod pob hanner tymor.  Mae hyn yn eu galluogi i gymryd rôl weithredol mewn datblygu’r cwricwlwm.  Mae’r ysgol yn gwneud defnydd da iawn o arbenigedd rhieni.  Er enghraifft, mae capten llong, cyfarwyddwr IBM, meddygon a pheirianwyr, yn ogystal â dylunwyr dillad, wedi ysbrydoli llawer o ddisgyblion ar ôl eu hymweliadau â’r ysgol.

Rhoddir rhyddid i bob athro newydd arbrofi ag arddulliau dysgu newydd yn ystod y flwyddyn gyntaf.  Gwneir hyn trwy roi cyfleoedd rheolaidd iddynt arsylwi eu cydweithwyr yn addysgu er mwyn mabwysiadu ymagwedd gadarnhaol tuag at addysgu cyffrous yn seiliedig ar brofiadau.  Yn dilyn arsylwadau, bydd pob athro’n ysgrifennu adroddiad sy’n cynnwys cyfeiriadau at agweddau ar gryfderau a meysydd y mae angen eu datblygu.  Caiff y rhain eu hadolygu bob tymor pan ailadroddir y cylch arsylwadau.  Mae’r athrawon yn cynllunio gwersi ar y cyd, er mwyn datblygu gallu athrawon newydd i gynllunio yn unol â gweledigaeth yr ysgol.

Mae pob aelod o staff yn chwilio am gyfleoedd dysgu cyffrous yn annibynnol ac yn rhannu eu syniadau ag athrawon eraill.  Wrth gynllunio gweithgareddau, mae athrawon yn dysgu ochr yn ochr â’r disgyblion – maent yn rhannu eu rhwystredigaethau ar adegau, yn ogystal â’u cyffro a’u brwdfrydedd.  Maent yn ymfalchïo’n fawr mewn datblygu prosiectau unigryw, er enghraifft creu eli blodyn y gwenyn gan ddefnyddio ryseitiau Meddygon Myddfai, agor caffi gwib rhyngwladol ar gyfer rhieni, ail-greu erlyniad Ann Boleyn, a chynnal gŵyl gerddoriaeth o’r enw Glastondderi.

Cam 3:  Cyflawni newid

Mae trosolwg tymor hir o’r pynciau yn sicrhau eu bod yn bodloni gofynion y cwricwlwm.  Mae cynlluniau’r ysgol yn canolbwyntio ar agweddau mwy penodol ar y cwricwlwm ac yn darparu cyfleoedd dysgu manylach.  Mae pob disgybl yn cyfrannu at y cynllunio ar ddechrau pob hanner tymor.  Mae hyn yn golygu bod y disgyblion yn cymryd perchnogaeth o’u dysgu.  Er bod cynllun dosbarth cyfan ar waith ar ddechrau pob hanner tymor, mae’r disgyblion a’r staff yn hyblyg i newid, ac mae materion presennol yn newid cyfeiriad y dysgu.

Bob hanner tymor, mae pob dosbarth yn cynllunio ymweliad oddi ar y safle ac yn gwahodd unigolyn gwadd i ymweld â nhw hefyd.  Mae hyn yn cyfoethogi profiadau dysgu’r plant ac yn gwella’u gwaith ysgrifennu estynedig wrth ysgrifennu at ddiben ac o brofiad.  Mae’n dod â byd gwaith i’r ystafell ddosbarth ac yn agor drysau ar gyfer gyrfaoedd diddorol posibl.  Mae staff yn frwdfrydig ac yn agored i ddysgu parhaus, ac yn ymfalchïo pan fydd disgybl yn arwain y dysgu.  Trwy wahodd ymwelwyr lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i’r ysgol, daw’r plant yn ymwybodol iawn o’u hunaniaeth Gymreig.