Cynllunio ysgol gyfan ar gyfer datblygu medrau disgyblion ar draws y cwricwlwm 

Arfer effeithiol

Ysgol Cwm Banwy

Mae tri phlentyn yn eistedd wrth fwrdd mewn ystafell ddosbarth, gan ganolbwyntio ar ysgrifennu ar daflenni o bapur. Mae creonau lliwgar wedi'u gwasgaru ar y bwrdd.

Gwybodaeth am yr ysgol 

Lleolir Ysgol Cwm Banwy, yng nghanol pentref Llangadfan, Canolbarth Cymru, ac fe’i chynhelir gan Awdurdod Lleol Powys. Mae hi hefyd o dan Reolaeth Wirfoddol yr Eglwys yng Nghymru. Agorodd Ysgol Cwm Banwy ei drysau am y tro cyntaf yng nghanol y clo mawr yn mis Medi 2020, yn dilyn strategaeth trawsnewid Cyngor Sir Powys.  

Mae hi’n ysgol fechan, wledig, ble mae cymuned cefn gwlad yn greiddiol i’w hethos.  

Ysgol gyfrwng Gymraeg yw Ysgol Cwm Banwy gyda 50 o ddisgyblion ar y gofrestr. Daw tua hanner y disgyblion o gartrefi Cymraeg. Mae tua 11% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Canran y disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yw tua 26% o boblogaeth yr ysgol yn gyffredinol.  

Mae’r weledigaeth ‘Y Mwynder Mewn Llawer Lliw:  Gyda’n Gilydd yn Lliwio’r Byd’  yn greiddiol i holl waith yr ysgol. 

Mae’r cwricwlwm yn modd cydlynus o gynllunio profiadau er mwyn gwireddu’r weledigaeth, law yn llaw ag arwain gwerthoedd Cristnogol yr ysgol, sef saith o werthoedd sy’n ymgorffori eu hunain i logo’r ysgol.   

Mae’r ddarpariaeth yn gyfoethog ac yn bersonol i’r disgyblion a’r gymuned.  Antur yw hon ar hyd llwybr lliwgar, cyffrous a byrlymus. Mae’r symbyliad tu ôl i logo’r ysgol, a gweledigaeth y cwricwlwm yn cyfleu hyn yn llwyddiannus. 

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Yn dilyn yr angen i ail-strwythuro staffio o ganlyniad i gyfnodau mamolaeth dros gyfnod o ddwy flynedd, a’r her o gyflogi athrawon cyfrwng Gymraeg, rheolwyd y newid yn effeithiol trwy gyd-gynllunio thematig ar draws yr ysgol.  Roedd yr angen yma i sicrhau ansawdd a chysondeb trwy gynllunio’r cwricwlwm yn fwriadus gan gynnig profiadau gwerthfawr a chydlynus ar draws yr ysgol a oedd yn ymateb i egwyddorion a gofynion Cwricwlwm i Gymru. 

Mae gweledigaeth glir holl randdeiliaid yr ysgol yn arwain yn greiddiol at gynllunio cwricwlwm eang a chytbwys sy’n llwyddo i ddatblygu uchelgais gytûn.   

Drwy gynllunio ar lefel ysgol gyfan, daeth i’r amlwg bod y ddarpariaeth gyfoethog o brofiadau trawsgwricwlaidd yn sicrhau bod y disgyblion yn elwa o fodel dilyniant o ran profiadau, medrau a gwybodaeth wrth iddynt symud ymlaen ar hyd y continwwm dysgu. Roedd y profiadau yn plethu’n naturiol i ofynion y Pedwar diben, y chwe maes dysgu a phrofiad ac roedd yma ymgysylltiad clir i’r Datgyniadau o’r hyn sy’n Bwysig. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd 

Prif nod yr athrawon oedd cynnwys holl randdeiliaid yr ysgol yn y daith gwricwlaidd o wireddu gweledigaeth eu cwricwlwm sef ‘Antur ar y llwybr lliw.’ Yma, roedd angen sicrhau ethos ac ymagwedd staff i dderbyn newid. 

Cydnabyddwyd bod cydweithio a chyd-gynllunio cadarn yn wraidd i lwyddiant wrth i’r athrawon, gyda mewnbwn staff y Cylch Meithrin,  rhieni a llywodraethwyr yr ysgol, ddefnyddio eu harbenigeddau i ddylunio’r cwricwlwm mewn modd dychmygus. Gwnaed hyn trwy gynnig profiadau pwrpasol a gwerthfawr oedd yn hyrwyddo medrau trawsgwricwlaidd y disgyblion, oedd yn datblygu’n naturiol i weithgareddau ymholi cyfoethog mewn dull thematig.  

Mae’r staff yn gosod yn glir y pwrpas i’r dysgu, gyda’r Datganiadau o’r hyn sy’n Bwysig yn llywio’r trywyddau dysgu yn naturiol.  

Enghreifftiau o themâu ysgol gyfan: 

  • Ewch amdani! (stori a chynhyrchiad Deryn)
  • Antur ar y llwybr lliw (dechreuad gweledigaeth ein cwricwlwm) 
  • Yma wyf innau i fod (Cynefin) 
  • Hapus fy myd (Gwahaniaethau ac ethnigrwydd) 
  • Troi’r Cloc yn ôl (Hanes Cymru) 

Enghreifftiau o fatiau thematig, gwahaniaethol ysgol gyfan (tasgau cyfoethog): 

  • Cynlluniad a datblygiad yr Ardd Goffa (rhifedd, lles, Gwyddoniaeth a Technoleg)
  • Ffenestri Lliw (rhifedd, llythrennedd, digidol, dyniaethau, celfyddydau mynegiannol, lles) 
  • Cynllunio Eisteddfod y Foel (rhifedd, llythrennedd)
  • Dewch i Faldwyn (rhifedd, digidol, dyniaethau, celfyddydau mynegiannol)

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

 Mae’r symbyliadau cyffrous ar lefel ysgol gyfan yn datblygu chwilfrydedd naturiol yr holl ddisgyblion, ble mae yna ymdeimlad dwfn o berthyn. Mae athrawon yn cynllunio’n bwrpasol sydd bellach wedi cynnig cyfleoedd cadarn a dysgu newydd i’r disgyblion, wrth iddynt hefyd gaffael ar fedrau allweddol o fod yn greadigol ac yn fentrus. O ganlyniad, mae’r disgyblion yn ymgysylltu’n dda gyda’u dysgu wrth i’r sbardunau a’r profiadau ddod â chwilfrydedd i’w bywydau o ddechrau eu cyfnod yn yr ysgol ar hyd y continwwm dysgu. Mae’r disgyblion yn ymateb yn ffafriol at y dull ysgol gyfan o ddysgu’n thematig, sydd wedi eu hannog i wneud penderfyniadau eu hunain trwy ddatrys problemau, ac i archwilio mewn dulliau ymholgar. Trwy’r dull yma o gynllunio ac arwain y dysgu, mae athrawon yn asesu cynnydd ar draws yr ysgol yn naturiol ac yn bwrpasol. 

Mae’r profiadau cyfoethog ar lefel ysgol gyfan, yn galluogi i’r disgyblion gymhwyso eu medrau llythrennedd, rhifedd a digidol yn gyson sydd yn arwain at gynnydd a dysgu dyfnach o’u cymharu â’u mannau cychwyn.  

Mae strategaethau marcio amserol yr ysgol hefyd yn cynorthwyo’r disgyblion o Flwyddyn 1 i fyny, i fod yn ymwybodol o’u camau nesaf ac i uwch-lefelu eu gwaith fel rhan naturiol o’u gwaith yn y dosbarth. Mae hyn yn arwain y disgyblion i fod yn ddysgwyr annibynnol sy’n cydweithio’n llwyddiannus i fanteisio ar arbenigeddau ei gilydd wrth iddynt gyrraedd brig yr ysgol. Maent yn fwy parod o ddysgu o gamgymeriadau ac i fyfyrio ar eu dulliau o feddwl. O ganlyniad, mae datblygiad cadarn yng ngwydnwch, gwybodaeth a llwyddiannau’r disgyblion i’w weld yn amlwg. 

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol yn rhoi gwybodaeth i rieni am yr hyn y mae’r disgyblion yn ei ddysgu, unai arf ffurf teitl i thema neu drwy amcanion matiau thematig. Mae mewnbwn holl randdeiliad yr ysgol gan gynnwys y llywodraethwyr a’r gymuned ehangach yn hollbwysig i lwyddiant eu gwaith. Mae unrhyw sbardun o ran thema newydd neu dasg gyfoethog yn cael eu rhannu gyda’r gymuned ehangach trwy dudalen fisol yn y papur bro, clipiau fideo neu drwy dudalen ar ffurf gwefan ar y cyfryngau cymdeithasol yn gyson. Mae’r ysgol hefyd wedi rhannu nifer o fatiau thematig, gwahaniaethol ar lefel ysgol gyfan gydag ysgolion y clwstwr, o fewn Cyngor Sir Powys a thu hwnt. Mae’r elfen greadigol, symbylus  a dychmygol y tasgau yn cael ei gydnabod fel arfer dda.