cynllunio ymatebol a sicrhau bod plant yn gallu arwain chwarae - Estyn

cynllunio ymatebol a sicrhau bod plant yn gallu arwain chwarae

Arfer effeithiol


Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Y Cwricwlwm i Gymru, cynllunio ymatebol a sicrhau bod plant yn gallu arwain chwarae.  

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Mae ymarferwyr yn Caban Kingsland wedi gweithio fel tîm i sicrhau bod y cyfleoedd gorau posibl yn cael eu rhoi i’r plant o fewn disgwyliadau’r Cwricwlwm i Gymru. Mae’r darparwr bob amser wedi gweithio’n galed i sicrhau bod diddordebau’r plentyn yn ganolog i bopeth a wna. Felly, mae wedi manteisio ar y Cwricwlwm i Gymru, gan ddatblygu amgylcheddau dysgu priodol sy’n ymateb i unigoliaeth plant ac yn cefnogi eu diddordebau. Mae hyn yn galluogi iddo symud eu dysgu a’u datblygiad ymlaen.

Gan fod y plentyn yn ganolog i bopeth a wna, mae’r lleoliad wedi edrych ar ffyrdd o sicrhau bod tystiolaeth yn adlewyrchiad gwirioneddol o ddysgu a datblygiad wrth iddo ddigwydd. Mae cynllunio ymatebol yn darparu cyfleoedd yn effeithiol i ymarferwyr arsylwi a chofnodi dysgu wrth i’r plant chwarae. Pan fydd plant yn gyfranogwyr gweithgar yn eu dysgu eu hunain, mae’r hud yn datblygu. 
 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau plant?

Mae ymarferwyr yn Caban Kingsland wedi dangos bod plant yn mynd ati i weithio i gyflawni’r hyn y maent wedi bwriadu ei wneud. Mae plant yn datblygu dyfalbarhad wrth ddatrys problemau, gan feddwl a herio’u hunain. Maent yn datblygu gallu cynyddol i ganolbwyntio, yn magu hyder, ac mae gwydnwch yn dechrau dod yn rhan reolaidd o chwarae wrth i’r plant ddechrau ymfalchïo yn eu cyflawniadau. 

Mae ymarferwyr yn y lleoliad yn dod yn fedrus o ran ymateb ar adegau priodol. Mae hyn yn allweddol i gael cydbwysedd da rhwng pryd i chwarae a phryd i arsylwi. Wrth i’r plant ddechrau chwarae gyda’i gilydd, mae ymarferwyr wedi dangos hefyd fod gwybodaeth bresennol pob plentyn yn cefnogi cyfathrebu. Maent yn rhannu syniadau a diddordebau yn seiliedig ar eu dealltwriaeth eu hunain. Mae ymarferwyr yn ymuno yn y chwarae gyda’r plant i gynorthwyo ac arwain. Fodd bynnag, wrth i’r plant ddod yn fwy hyderus yn eu gallu eu hunain, mae ymarferwyr yn treulio amser yn myfyrio ar yr hyn sydd wedi digwydd yn ystod sesiynau, gan ymestyn dysgu a datblygiad trwy chwarae ac ystyried y camau nesaf i gynorthwyo pob plentyn. 

Mae ymarferwyr yn myfyrio ar chwarae a sut mae plant yn datblygu yn unol â phum llwybr y Cwricwlwm i Gymru. Wrth gysylltu’r dystiolaeth o fewn y llwybrau, daw’n glir pa feysydd sydd angen eu cefnogi. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae plant yn dangos sut mae eu gwahanol fedrau yn datblygu trwy eu chwarae a’u rhyngweithio, er enghraifft trwy eu datblygiad corfforol, eu medrau archwilio a chyfathrebu. Mae pethau bach fel gofyn i’r plant ddewis wrth brynu adnoddau ar gyfer y lleoliad yn cefnogi ymdeimlad o berthyn a hyder wrth wneud penderfyniadau drostynt eu hunain. Mae hyn wedi bod yn gadarnhaol iawn gan fod y plant wedi dangos mwy o ofal a pharch am ddewis adnoddau yn y lleoliad. Hefyd, mae plant wrth eu bodd yn myfyrio ar eu profiadau. Mae adnoddau fel llyfrau ffotograffau yn cefnogi trafodaethau gwych ac yn galluogi’r plant i ailymweld â dysgu ac ymfalchïo yn eu cyflawniadau.