Cynllunio i ddatblygu medrau amlieithog disgyblion
Quick links:
Gwybodaeth am yr ysgol
Lleolir Ysgol Pencae ym maestref Llandaf yn ninas Caerdydd gyda’r dalgylch yn gwasanaethu disgyblion o ardal orllewinol y brif ddinas.
Mae niferoedd yr ysgol yn gyson gyda 210 o ddisgyblion o’r Dosbarth Derbyn hyd at Flwyddyn 6 yn yr ysgol. Mae nifer o feithrinfeydd cyfrwng Cymraeg a di-Gymraeg yn trosglwyddo plant i’r ysgol ar gyfer y Dosbarth Derbyn gan nad oes darpariaeth meithrin gan yr ysgol.
Dros y dair blynedd ddiwethaf, mae oddeutu 2.5% o ddisgyblion yn gymwys i dderbyn cinio ysgol am ddim yn yr ysgol, sy’n sylweddol is na’r cyfartaledd ar gyfer Cymru. Daw 16% o ddisgyblion o gartrefi lle siaredir y Gymraeg gyda gweddill y disgyblion yn dod o gartrefi ble mae un o’r rhieni’n siarad Cymraeg neu’r ddau riant yn ddi-Gymraeg.
Mae tua 11.5% o ddisgyblion ar y gofrestr anghenion dysgu ychwanegol a thua 2% o gefndir ethnig lleiafrifol.
Cyd-destun a chefndir sy’n arwain y sector
Mae medrau dwyieithrwydd ac aml-ieithog y disgyblion yn cael eu datblygu’n effeithiol wrth iddynt gael eu trochi yn y Gymraeg yn y Dosbarth Derbyn. Rhydd hyn sylfaen gadarn iddynt i allu cyfathrebu a chymhwyso eu medrau ieithyddol mewn mwy nag un iaith yn ddiweddarach tra yn yr ysgol, er enghraifft Ffrangeg a Mandarin.
Disgrifiad a natur y strategaeth neu’r gweithgaredd
Manteisir ar bob cyfle i hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth y disgyblion o’r pwysigrwydd i werthfawrogi a pharchu ieithoedd, diwylliannau a thraddodiadau gwledydd eraill trwy gynnal gweithgareddau penodol yn ystod y flwyddyn academaidd, er enghraifft, o fewn diwrnodau ac wythnosau rhyngwladol. Addysgir ieithoedd trwy gyfrwng gweithgareddau syml sy’n hyrwyddo’r denfydd o iaith achlysurol yn gyson. Enghraifft effeithiol o hyn yw pan y daw dau fyfyriwr o Brifysgol Gwlad y Basg i’r ysgol yn flynyddol am gyfnod o hanner tymor er mwyn ymchwilio i weithdrefnau addysgu a dysgu iaith mewn ysgol ble mae ei chyfrwng yn un o ieithoedd lleiafrifol Ewrop. Achubir ar y cyfle hwn i hyrwyddo’r iaith Fasgeg wrth iddynt addysgu’r disgyblion am gyfnodau byrion yn wythnosol o fewn yr hanner tymor hwn. Mae’r disgyblion yn elwa’n fawr o’r profiad hwn, nid yn unig trwy gyfathrebu mewn mwy nag un iaith, ond hefyd trwy ddatblygu eu medrau trawsieithu mewn iaith sy’n ynwanegol at y Gymraeg a’r Saesneg.
Datblygir hyn ymhellach trwy addysgu Ffrangeg i ddisgyblion rhwng blwyddyn 3 a blwyddyn 5 gan athrawes o fewn yr ysgol am gyfnodau penodol yn bythefnosol. Daw rhieni ynghyd ag aelodau ehangach o’r gymuned i’r ysgol er mwyn cynnal clwb Ffrangeg yn wythnosol ynghyd â rhannu profiadau uniongyrchol gyda’r disgyblion am gael eu geni a’u magu yn Ffrainc. Clustnodir gwahanol agweddau, er enghraifft, ffrwythau a llysiau, yr ysgol a diddordebau, er mwyn cyfoethogi profiad y disgyblion ymhellach.
Fel rhan o weithgarwch pontio gyda’r ysgol uwchradd, mae pob ysgol gynradd yn buddsoddi mewn darpariaeth benodol trwy gyflogi athrawes iaith arbenigol i addysgu Ffrangeg am gyfnod o awr yr wythnsol ym mhob ysgol gynradd sy’n bwydo’r ysgol uwchradd. Canlyniad hyn yw bod cysondeb yn safonau Ffrangeg y disgyblion sy’n mynychu’r ysgol uwchradd ym mlwyddyn 7 ynghyd â chyfrwng i hyrwyddo ieithoedd tramor modern ar gyfer y dyfodol.
Mae’r ysgol wedi datblygu partneriaeth gadarn dros gyfnod gyda’r Adran Confucius Prifysgol Caerdydd. Canlyniad hyn yw bod athro Mandarin, sy’n gynhenid o Tseina, yn addysgu disgyblion blwyddyn 5 am gyfnod o awr yr wythnos ynghyd â chynnal Clwb Mandarin i ddisgyblion mwy abl a dawnus blwyddyn 5 a 6 am gyfnod o hanner awr yn wythnosol. Datblygir medrau llafar y disgyblion i ddechrau trwy amrywiaeth o weithgareddau hwyliog, er enghraifft, canu caneuon a chymryd rhan mewn gêmau iaith er mwyn trochi’r disgyblion yn yr iaith. Yn dilyn hyn cynhelir gweithgareddau gwrando er mwyn datblygu medrau darllen ac ysgrifennu’r disgyblion. Mae’r disgyblion yn dadgodio symbolau Mandarin yn hyderus er mwyn gallu darllen llythrennau a geriau syml yn y lle cyntaf cyn darllen cymalau a brawddegau syml o fewn cyd-destunau sydd o ddiddordeb i’r disgyblion, er enghraifft, yr ysgol ac anifeiliaid y fferm. Nod hyn oll yw datblygu chwilfrydedd y disgyblion tuag at ieithoedd tramor gan feithrin y sgil o allu cyfathrebu yn fwyfwy hyderus mewn iaith arall sy’n ychwanegol i’r Gymraeg a’r Saesneg.
Mae’r disgyblion wedi sefyll arholiad ‘Young Children’s Test’ yn ddiweddar er mwyn mesur cynnydd y disgyblion ym Mandarin.
Beth fu effaith y gwaith hwn ar y ddarpariaeth a safonau’r dysgwyr?
Mae’r disgyblion i gyd yn huawdl iawn yn y Gymraeg a’r Saesneg ac yn cyrraedd safonau cyson uchel, gyda disgyblion hŷn yr ysgol yn cyfathrebu’n hyderus mewn Ffrangeg a Mandarin. Mae’r ysgol yn ystyried bod ei disgyblion mwy abl a dawnus yn gwneud cynnydd rhagorol o fewn yr amrywiaeth o brofiadau ieithyddol maen nhw’n eu derbyn o fewn yr ysgol a thu hwnt ac o ganlyniad yn trosglwyddo i’r ysgol uwchradd yn gadarn eu medrau ieithyddol.
Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer da?
Mae’r ysgol yn manteisio ar bob cyfle i hyrwyddo medrau aml-ieithog y disgyblion yn y gymuned leol a thu hwnt ac o ganlyniad yn rhannu arfer da yn anochel. Mae’r ysgol wedi rhannu arfer dda ynghyd â strategaethau a gweithgareddau addysgu iaith gydag ysgolion eraill y clwstwr a’r consortiwm. Yn ogystal â hyn, mae’n datblygu partneriaethau pellach gyda’r Brifysgol yng Ngaerdydd a thu hwnt gan