Cynllunio effeithiol ar draws ffederasiwn - Estyn

Cynllunio effeithiol ar draws ffederasiwn

Arfer effeithiol

Ysgol Llanbrynmair


 

Gwybodaeth am yr ysgol

Lleolir ysgolion Carno, Glantwymyn a Llanbrynmair yn nhalgylch Machynlleth.  Mae’r tair ysgol wedi bod yn rhan o ffederasiwn ffurfiol ers Medi 2014.  Un pennaeth ac un corff llywodraethol sydd yn gweithredu ar draws y ffederasiwn gyda phennaeth cynorthwyol ym mhob safle.  Cymraeg yw prif gyfrwng y dysgu ym mhob ysgol.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Sefydlwyd y Ffederasiwn o’r newydd ac felly roedd rhaid cyflwyno ac arbrofi ar ffyrdd tryloyw i rannu gwybodaeth, sefydlu systemau monitro a sicrhau bod disgyblion ar draws y ffederasiwn yn cael yr un cyfleoedd o ran yr addysgu.  Credai’r ysgol bod y pennaeth, penaethiaid cynorthwyol a’r llywodraethwyr law yn llaw yn hyrwyddo ethos o welliant parhaus ac mae hyn yn rhan annatod o wead y ffederasiwn.

Mae rhannu arweinyddiaeth a dosrannu cyfrifoldebau yn lleihau baich athrawon a phwysau arferol ar ysgolion bach gwledig mewn modd sydd yn ehangu profiadau proffesiynol a sicrhau safonau uchel.

Mae prosesau dosrannu arweinyddiaeth a chyfrifoldebau wedi ein galluogi i baratoi a chynllunio yn effeithiol ar gyfer y cwricwlwm newydd i Gymru.  Gan fod yr addysgu proffesiynol eisoes wedi ei sefydlu, mae staff yn barod i gynllunio gyda’r 4 diben yn sail i’r ddarpariaeth.  O ganlyniad, maent yn awyddus i arbrofi a chyflwyno cwricwlwm wreiddiol sydd yn cynnig her, creadigrwydd a chymorth i’r holl ddisgyblion.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae’r pennaeth yn gwneud defnydd effeithiol o’r holl ddata, yn ogystal â thystiolaeth monitro ar bob lefel, er mwyn bwrw ati’n syth i wneud gwelliannau.  Mae’r pennaeth, ynghyd â’r uwch dim rheoli a’r cydlynwyr yn cwblhau adroddiadau effaith ar bob un o flaenoriaethau’r cynllun datblygu ysgol yn dymhorol, ac yn sicrhau bod pob aelod o staff yn ymwybodol o’r hyn sydd angen ei wneud.

Mae gweithdrefnau’r ffederasiwn yn galluogi’r penaethiaid cynorthwyol i arwain ar feysydd strategol penodol ar draws y tair ysgol, yn ogystal â datblygu fel arweinyddion gweithredol allweddol o ddydd i ddydd yn eu hysgolion unigol.  Mae pob athro o fewn y ffederasiwn yn gydlynydd un maes, o leiaf, ac wedi’u paru yn ôl arbenigedd a diddordeb.  Mae cydlynwyr meysydd dysgu yn arwain yn effeithiol ac yn defnyddio eu harbenigedd i gynorthwyo staff eraill ar draws y tair ysgol.  Er enghraifft, maent yn dadansoddi data, arwain ar gynllunio, monitro cynnydd, craffu ar waith ac yn adrodd yn ôl mewn cyfarfodydd staff.  Maent hefyd wedi cefnogi staff dros dro er mwyn sicrhau bod y dysgu a’r addysgu yn parhau i fod o ansawdd cyson. 

Gwneir defnydd effeithiol o rwydweithiau llwyfan dysgu Hwb er mwyn i gydlynwyr rannu adnoddau, cynlluniau, adroddiadau monitro ac adroddiadau asesiadau effaith tymhorol.  Mae hyn yn sicrhau bod cyfathrebu tryloyw ar draws y tair ysgol.  Mae’r llywodraethwyr hefyd yn defnyddio Hwb er mwyn cael mynediad i’r polisïau, dogfennau hunanwerthuso ynghyd â’r cynlluniau datblygu ysgol. Mae adroddiadau monitro gan y llywodraethwyr, yn ogystal â chofnodion y corff a’r is-bwyllgorau i’w darllen ar Hwb.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae amserlen monitro manwl yn sail i waith y ffederasiwn.  Mae’r holl staff dysgu yn cael cyfleoedd i arsylwi arfer dda sydd o fewn y ffederasiwn ynghyd â chraffu ar waith ac yn cael cyfleodd cyson i gyfarfod â’i gilydd.  Mae hyn yn rhoi cyfleoedd mwy cyson o graffu a thrafod ansawdd na fyddai’n bodoli petai’r ysgolion ar wahân.  Mae’r cyfleoedd i drafod ac i rannu arferion da a chefnogi a herio ei gilydd yn fwy effeithiol o ganlyniad.  Mae’r cynllunio ar y cyd yn sicrhau bod cysondeb o ran y ddarpariaeth yn cynnwys ymwelwyr, ymweliadau a gweithdai a thrwy hyn yn annog brwdfrydedd disgyblion yn eu dysgu.  Mae’r athrawon yn rhannu adnoddau a thasgau ffocws.  Enghraifft o hyn ydy rhannu adnoddau ac offer gwyddonol a dyniaethau ynghyd â rhannu tasgau matiau mathemateg wreiddiol yn seiliedig ar themâu ac ystod o sgiliau ar gyfer ystod o allu.  

Dros amser mae adroddiadau craffu ar waith yn dangos datblygiad o ran safonau’r disgyblion.  Nodwedd amlwg o hyn ydy’r swmp o waith gwreiddiol ymestynnol sydd yn cael ei gyflawni gan ddisgyblion mewn cyfnod byr a’r cynnydd yn y nifer o ddisgyblion sydd yn cyrraedd deilliannau a lefelau uwch dros amser.  Mae’r tasgau ffocws yn defnyddio adnoddau pwrpasol wedi eu paratoi gan yr athrawon sydd hefyd yn cynnwys elfennau o weithgareddau sydd wedi eu dewis gan y disgyblion wrth ddilyn themâu tymhorol.  Mae’r heriau cyffrous sydd yn yr ardaloedd barhaus yn nosbarthiadau’r cyfnod sylfaen yn sicrhau bod disgyblion yn datblygu’n ddysgwyr annibynnol, hyderus.

Gyda nawdd gan Cyngor y Celfyddydau cynlluniwyd a chwblhawyd prosiect o’r enw ‘Elfennau’ ble bu cyfle i holl ddisgyblion cyfnoda allweddol 2 y ffederasiwn gyd weithio gydag artistiaid proffesiynol i ddatblygu medrau creadigol a llythrennedd.  Roedd hyn yn gyfle gwych i’r disgyblion ddatblygu sgiliau cymdeithasol a chydweithiol tu hwnt i’w hysgol unigol a chryfhau ethos y ffederasiwn.  Mae hefyd wedi arwain y ffordd mae’r athrawon nawr yn cynllunio ac yn defnyddio’r pedwar diben yn naturiol fel sail i’r dysgu.

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

  • Pennaeth wedi rhannu arfer dda mewn cynhadledd i ysgolion ffederal consortiwm ERW
  • Cyflwyniadau i brifathrawon yr awdurdod lleol
  • Ysgolion tu fewn a thu allan i’r awdurdod lleol yn ymweld â’r ysgolion unigol
  • Pennaeth yn cefnogi arweinyddiaeth mewn ysgol o fewn yr awdurdod lleol
  • Athrawon wedi rhannu arfer dda mewn cyfarfod clwstwr