Cynllunio cydlynus i ddatblygu medrau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol disgyblion - Estyn

Cynllunio cydlynus i ddatblygu medrau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol disgyblion

Arfer effeithiol

Ysgol Caer Elen


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Caer Elen yn ysgol bob-oed Gymraeg 3-16 a sefydlwyd yn nhref Hwlffordd yn Ne Sir Benfro yn 2018. Erbyn hyn mae 840 o ddisgyblion ar y gofrestr. Mae 93% o’r disgyblion yn dod o gartrefi lle nad yw’r Gymraeg yn cael ei siarad ar yr aelwyd. Canran y disgyblion sydd yn derbyn prydau ysgol am ddim yw 9.88% ar gyfartaledd dros y tair blynedd diwethaf ac mae 13% ar y gofrestr anghenion dysgu ychwanegol (ADY).  Mae’r uwch dîm arwain yn cynnwys pennaeth, dirprwy bennaeth, pennaeth cynorthwyol a thri uwch athro. 

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Mae’r ysgol yn hollol ymrwymedig i gyflwyno egwyddorion Cwricwlwm i Gymru yn llwyddiannus gan ganiatáu i bob disgybl gyrraedd ei wir botensial yn academaidd, yn gymdeithasol ac yn bersonol mewn cymuned gartrefol Gymreig. Bydd disgyblion yr ysgol yn meddu ar sgiliau digidol, rhifedd a llythrennedd uchel a fydd yn sicrhau


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn