Cynllunio cwricwlwm wedi’i arwain gan ddisgyblion - Estyn

Cynllunio cwricwlwm wedi’i arwain gan ddisgyblion

Arfer effeithiol

Tai Educational Centre


 

Gwybodaeth am yr ysgol

UCD sy’n cael ei rhedeg gan awdurdod lleol ar gyfer hyd at 56 o ddisgyblion oedran cynradd yw Canolfan Addysg Tai.  Mae’n darparu addysg ar gyfer disgyblion yn y cyfnod sylfaen a chyfnod allweddol 2 sydd ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol.  Mae niferoedd cynyddol o ddisgyblion sydd hefyd yn bresennol ag anghenion ychwanegol fel Anhwylder y Sbectrwm Awtistig neu Anhwylder Diffyg Canolbwyntio, ac ystod o anghenion ychwanegol eraill.  

Mae gan bron i hanner y disgyblion ddatganiad o anghenion addysgol, ac maent yn gymwys am brydau ysgol am ddim

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Yn aml, bydd disgyblion yn dechrau eu taith yng Nghanolfan Addysg Tai wedi ymddieithrio o addysg ar ôl cael profiadau negyddol mewn ysgolion blaenorol.  Ym mis Medi 2018, roedd disgyblion yn wynebu her ychwanegol wrth i’r Ganolfan symud safle.  I ddechrau, cafodd hyn effaith negyddol ar les ac ymddygiad y disgyblion.  Bryd hynny, roedd y Ganolfan hefyd yn cynnal archwiliadau ac yn cynllunio ar gyfer Cwricwlwm i Gymru. 

Mae gan staff hanes cryf o gydweithio llwyddiannus, ac maent o’r farn, er mwyn i ddisgyblion ymgysylltu o’r newydd ag addysg yn llwyddiannus, ei bod yn hanfodol fod y cwricwlwm yn cael ei arwain gan ddisgyblion ac yn ystyrlon.  Felly, mae llais y disgybl yn rhan annatod o ddatblygu’r cwricwlwm, gyda’r holl waith yn cael ei addasu i alluogi pob plentyn i lwyddo.  Caiff yr arwyddair ‘Dysgu Gyda’n Gilydd’ (‘Learning Together’) ei ymgorffori ar draws y lleoliad cyfan, ac mae’n allweddol i’r dull gwaith tîm, gan alluogi disgyblion a staff i ddysgu a llwyddo.  Mabwysiadwyd y dull cynllunio ysgol gyfan hwn yn Tai ac ymgorfforir egwyddorion y cwricwlwm newydd ar draws yr ysgol.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Ysgol Arloesi ar gyfer Dysgu Proffesiynol yw Canolfan Tai.  Mae pob un o’r staff wedi cymryd rhan mewn sesiynau hyfforddi, gan sicrhau tegwch a chysondeb ynglŷn â mentrau a datblygiadau newydd ar draws y lleoliad.  Mae staff yn angerddol ynglŷn â darparu cwricwlwm sy’n gyffrous, yn hwyl, yn berthnasol, yn ystyrlon ac yn briodol i anghenion pob unigolyn ar gyfer disgyblion.

Caiff disgyblion asesiadau gwaelodlin pan fyddant yn dechrau yn Tai.  Mae’r asesiad hwn yn galluogi athrawon i gael dealltwriaeth uniongyrchol o lefel eu gallu.  Wedyn, bydd disgyblion yn gosod targedau unigol ochr yn ochr â staff fel rhan o’u Cynllun Datblygiad Personol.  Dogfennau gwaith yw’r rhain, sy’n cael eu diweddaru’n aml ac yn cynnwys yr holl randdeiliaid, gan wella cynllunio effeithiol.  Cynhelir adolygiadau cynnydd disgyblion bob hanner tymor, sy’n nodi cynnydd neu danberfformio yn briodol.  Mae hyn yn golygu nodi ymyriadau’n gynnar i gefnogi a herio disgyblion yn effeithiol.

Diwygiwyd y cynllunio fel bod cynllunio tymor canolig yn ymgorffori’r pedwar diben craidd a’r chwe Maes Dysgu a Phrofiad Cwricwlwm i Gymru, ynghyd â’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol a’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol.  Llais y disgybl yw’r grym y tu ôl i gynllunio cwricwlwm yr ysgol.  Mae disgyblion yn nodi testunau ysgol gyfan ac yn penderfynu’r hyn mae arnynt eisiau ei ddysgu, a sut.  O hyn, mae staff yn rhannu syniadau, gwybodaeth a medrau o fewn grwpiau meysydd dysgu a phrofiad yr UCD ei hun, sy’n cynnwys yr holl staff addysgu a staff cymorth.  Ystyrir bod gwaith tîm yn allweddol o ran gwneud gwelliannau yng nghynnig y cwricwlwm a’r deilliannau.

Mae diwrnodau trochi yn dechrau pob testun newydd ac maent yn cynnwys pob un o’r staff a’r disgyblion yn arddel thema ysgol gyfan.  Mae’r holl destunau’n canolbwyntio ar gyd-destunau ‘bywyd go iawn’ fel defnyddio arian mewn busnesau.  Yn nodweddiadol, mae’r trochi yn cynnwys staff yn gwisgo dillad sy’n gysylltiedig â’r thema, a gosod heriau ar gyfer disgyblion, dosbarthiadau a grwpiau penodol o ddysgwyr.  Mae hyn yn galluogi cyflwyno pob testun ysgol gyfan mewn ffordd hwyliog, chwilfrydig ac ystyrlon ar gyfer staff a disgyblion fel ei gilydd. 

Yn ogystal â’r dull thema, bu ffocws ysgol gyfan ar ddiwallu anghenion disgyblion unigol yn dda, a chreu a gwella annibynniaeth disgyblion.  Mae’r dull hwn wedi galluogi disgyblion i fod yn fwy hyderus yn nodi eu gallu eu hunain a gwybod sut i herio eu hunain.  Mae llawer o ddisgyblion yn datblygu amrywiaeth o fedrau annibynnol yn effeithiol ac yn defnyddio’r medrau hyn yn fwy llwyddiannus yn eu hysgol prif ffrwd.

Caiff rhieni, gofalwyr a rhanddeiliaid eu cynnwys yn y broses ddysgu hefyd, gyda chyrsiau rhieni, a chynhelir ‘arddangosiadau’ yn rheolaidd.  Caiff hyn effaith gadarnhaol wrth wella eu dysgu eu hunain, a dysgu eu plentyn.  

Beth fu effaith y gwaith hwn ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae bron pob un o’r disgyblion yng Nghanolfan Addysg Tai yn gwneud cynnydd hynod gryf mewn perthynas â’u mannau cychwyn, sy’n aml o waelodlin isel iawn.  Mae disgyblion yn llwyr fwynhau perchnogi eu cwricwlwm eu hunain, a’i gynllunio.  Mae’r dull hwn wedi cael effaith hynod gadarnhaol ar eu dysgu a’u hymddygiad.  Mae lefelau ymgysylltu a chymhelliant ar draws yr ysgol wedi gwella, ac mae bron pob un o’r disgyblion yn gwneud cynnydd cryf o ran datblygu eu hunan-barch a’u cred ynddyn nhw eu hunain fel dysgwyr llwyddiannus.  Adlewyrchir hyn yn eu pwyntiau a’r targedau a gyflawnir ganddynt.  Mae dysgu, ansawdd gwaith a chynnydd pob grŵp o ddisgyblion yn dangos eu bod yn cyflawni’n eithriadol o dda, ac mae bron pob un o’r disgyblion yn cyflawni eu targedau dysgu personoledig.  Mae ailintegreiddio wedi gwella hefyd, fel y mae ymddygiad a lles y disgyblion, gyda gostyngiad mewn gwaharddiadau ac achosion yn ymwneud ag ymddygiad.

Mae hyder cynyddol hefyd ymhlith staff i rannu arbenigedd, a manteisio ar eu dysgu proffesiynol eu hunain.  

Sut ydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Mae’r UCD yn gweithio’n eithriadol o agos gyda’i hysgolion prif ffrwd.  Caiff syniadau, medrau a strategaethau eu rhannu’n wythnosol, a gwahoddir ysgolion i bob digwyddiad ac adolygiad.

Cyflwynwyd sesiynau hyfforddi o fewn grwpiau gwella lleol a rhanbarthol ac ysgolion nad ydynt yn rhai arloesi o fewn y consortiwm lleol a dosbarthiadau canolfan adnoddau dysgu.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn