Mae’r adolygiad yn ystyried: effaith y Gymraeg mewn Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCAau) ar wella cynllunio ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg, y dylanwad y mae CSCAau wedi ei gael o ran ysgogi a chefnogi camau gweithredu i godi safonau Cymraeg a Chymraeg ail iaith, ac i ba raddau y mae cyfrifoldeb statudol awdurdodau lleol o ran llunio CSCAau yn galluogi cydweithrediad â, a chymorth gan, wasanaethau gwella ysgolion consortia rhanbarthol
Argymhellion
Dylai awdurdodau lleol:
- A1 sicrhau bod y CSCAau yn flaenoriaeth strategol
- A2 cael prosesau systematig ar waith i fesur y galw am ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg
- A3 gweithio gydag ysgolion i esbonio wrth ddisgyblion a rhieni beth yw manteision addysg cyfrwng Cymraeg a dilyn cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg
- A4 gweithio gydag ysgolion i osod targedau i gynyddu cyfran y disgyblion yng nghyfnod allweddol 4 sy’n parhau i astudio Cymraeg fel mamiaith ac yn dilyn meysydd sy’n benodol i bwnc trwy gyfrwng y Gymraeg
- A5 gwneud defnydd effeithiol o’u fforymau addysg cyfrwng Cymraeg i helpu i ddatblygu eu CSCA a monitro cynnydd
- A6 arfarnu eu darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol cyfrwng Cymraeg i nodi unrhyw fylchau
Dylai Llywodraeth Cymru:
- A7 sicrhau bod y targedau y cytunwyd arnynt yn y CSCAau yn adlewyrchu’r dyheadau yn eu strategaeth addysg cyfrwng Cymraeg
- A8 sicrhau bod yr holl awdurdodau lleol yn rhoi digon o bwysigrwydd strategol i gyflawni’r targedau yn y CSCAau
- A9 monitro rhoi’r CSCAau ar waith yn drylwyr