Cyngor ac arweiniad diduedd ar yrfaoedd i bobl ifanc 14-16 oed a ddarperir gan gynghorwyr Gyrfa Cymru
Adroddiad thematig
- Ddatblygu systemau a meini prawf priodol i werthuso’r effaith a gaiff gwasanaethau ar effeithiolrwydd a gwydnwch pobl ifanc wrth iddynt gynllunio gyrfa a gwneud penderfyniadau
- Sicrhau bod gwerthuso effeithiol, wedi’i seilio ar dystiolaeth gywir, gynhwysfawr a pherthnasol, yn llywio cynllunio strategol a gwella ansawdd
- Cryfhau cysylltiadau gyda chwmnïau gyrfaoedd eraill i wella cyfleoedd ar gyfer dysgu proffesiynol a datblygu arfer dda
- Parhau i sicrhau bod dadansoddi o weithgareddau sicrhau ansawdd yn cael ei fwydo’n ôl i ysgolion unigol i gryfhau addysg gyrfaoedd ac addysg yn gysylltiedig â gwaith
- Sicrhau bod pob un o’r staff yn hyrwyddo ymwybyddiaeth pobl ifanc o werth y Gymraeg fel medr cyflogaeth
- Sicrhau bod pob un o’r staff yn deall trefniadau a gweithdrefnau’r cwmni ar gyfer diogelu pobl ifanc