Cymryd rhan – Mehefin 2008

Adroddiad thematig


Prin yw’r awdurdodau lleol sydd â pholisïau ffurfiol neu feini prawf clir ar gyfer derbyn i ganolfannau adnodd. Mae rhai awdurdodau lleol yn gwneud meini prawf derbyn yn rhy eang i dderbyn disgyblion sydd ag ystod eang o anghenion. At ei gilydd, nid oes gan awdurdodau lleol drosolwg clir o b’un a yw disgyblion yn cael cyfle i wneud defnydd o gwricwlwm llawn ai peidio, neu pa mor dda y mae disgyblion yn gwneud cynnydd. Maent yn casglu data ar ddisgyblion unigol, ond nid ar grwpiau o ddysgwyr.Mae gweithio da mewn partneriaeth mewn awdurdodau lleol ar lefel weithredol, ond mae angen gwella’r gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill. Nid yw pob disgybl ledled Cymru yn cael digon o gyfleoedd i integreiddio mewn dosbarthiadau prif ffrwd. Lle bydd cynhwysiant yn gweithio’n dda, caiff staff eu cynnwys yn llawn yn y gweithgareddau dosbarth prif ffrwd.


Argymhellion

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • gasglu data trylwyr ar leoliadau canolfannau adnodd sydd ynghlwm wrth ysgolion a’r grwpiau o ddisgyblion y maent yn gweithio gyda nhw;
  • parhau i ymestyn y system integredig i blant fel y gellir rhannu gwybodaeth ar draws awdurdodau lleol yng Nghymru; ac
  • annog AALlau i ddatblygu polisïau derbyn ac ymadael cynhwysfawr gyda meini prawf clir ar gyfer canolfannau adnodd.

Dylai awdurdodau lleol:

  • gynnwys partneriaid allanol yn llawn wrth gynllunio darpariaeth;
  • casglu a dadansoddi data am ddisgyblion y diffiniwyd mai anawsterau dysgu cymedrol yw eu prif angen, a grwpiau eraill o ddisgyblion ag anghenion penodol, yn eu canolfannau adnodd i lywio cynllunio strategol; ac
  • adolygu grwpiau ac anghenion disgyblion mewn canolfannau adnodd yn rheolaidd a gwneud newidiadau priodol lle bydd angen.

I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn