Cymorth ysgol i blant sydd wedi cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod - Estyn

Cymorth ysgol i blant sydd wedi cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod

Arfer effeithiol

Headlands School


 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Headlands yn ysgol arbennig annibynnol wedi’i lleoli mewn ardal breswyl ym Mhenarth, Bro Morgannwg.  Mae’n rhan o elusen Gweithredu dros Blant.  Mae’r ysgol yn cynnig lleoliadau preswyl a dydd yn ystod y tymor i blant 7 i 19 oed sydd ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol, ac anhwylderau’r sbectrwm awtistig.

Ar hyn o bryd, mae’r ysgol yn addysgu 68 o ddisgyblion rhwng cyfnod allweddol 2 a’r cyfnod ôl-16.  Daw bron pob un o’r disgyblion o awdurdodau lleol Cymru, gydag ychydig bach ohonynt o awdurdodau lleol Lloegr.  Mae gan bob disgybl ddatganiad o anghenion addysgol arbennig (AAA) ac mae statws plentyn sy’n derbyn gofal gan 20 o ddisgyblion.

Nod yr ysgol yw datblygu lles ac annibyniaeth pobl ifanc trwy ymagwedd unigol at addysg a gofal.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Sut i gefnogi plant a phobl ifanc sydd wedi profi trawma cynnar a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod oedd y man cychwyn ar gyfer datblygu ein hymagwedd ysgol gyfan.  Mae’r effaith ar blant sydd wedi profi profiadau niweidiol yn ystod plentyndod wedi’i chofnodi’n helaeth gan gyfres o adroddiadau a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2014 ac mae’n bryder mawr i’r rhai sy’n darparu gwasanaethau i blant o’r fath.  Yn ffodus, yr hyn sy’n hysbys hefyd yw effaith presenoldeb oedolyn y gellir ymddiried ynddo ym mywyd y plentyn er mwyn lleddfu canlyniadau trallod.  Felly, nod yr ysgol oedd sicrhau ei bod yn cynnig perthnasoedd y gellir ymddiried ynddynt a gwasanaeth sy’n ystyriol o drawma i’n disgyblion a’u teuluoedd ar bob adeg.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Datblygodd y strategaeth o’r weledigaeth y dylai’r ysgol fod yn fan diogel a sicr yn emosiynol, lle y mae pob aelod staff yn ymateb i anghenion ein disgyblion mewn ffordd sy’n ystyriol o drawma.  I gyflawni hyn, rhoddodd arweinwyr raglen sylweddol o ddysgu a datblygu ar waith, ar ymagweddau’n ymwneud â thrawma, ymlyniad a pherthynas, a’r medrau y mae ar staff eu hangen i roi’r rhain ar waith yn effeithiol.  Cefnogir hyn gan ymarfer myfyriol rheolaidd dan lyw’r grŵp arweinyddiaeth.

Yna, dechreuodd yr ysgol ar broses o alinio ei harferion yn yr ystafell ddosbarth â’r nod o gynyddu diogelwch emosiynol a lleihau cywilydd.  Bu’n gweithio mewn partneriaeth â seicolegwyr clinigol ymgynghorol y GIG i ystyried y cwestiwn hwn: sut beth yw ysgol dosturiol, sy’n ystyriol o drawma?  Ysbrydolodd y cynllun gweithredu a ddeilliodd o hyn newid ar hyd a lled yr ysgol.  Ystyriodd staff bopeth o bolisïau a gweithdrefnau a materion arwain, i ryngweithiadau munud wrth funud yn yr ystafell ddosbarth, fel bod sensitifrwydd yn treiddio i bob arfer gyda’r nod o fodloni anghenion disgyblion mewn ffordd a oedd yn cynyddu diogelwch a gostwng cywilydd a deimlid.

Mae’r ysgol yn sicrhau ei bod yn gallu bodloni anghenion disgyblion orau trwy flaenoriaethu cyfleoedd i staff fyfyrio ar brofiadau blaenorol a hanes y disgyblion.  Mae hyn yn helpu staff i ddeall sut y gallai disgyblion fod yn teimlo amdanynt eu hunain, am y byd ac am bobl eraill.  I wneud hyn, mae’r ysgol yn defnyddio ymagwedd fformiwleiddio seicolegol sy’n caniatáu i ni deilwra ymyriadau seiliedig ar berthynas ar gyfer pob disgybl.  Saif yr ymyriadau unigol hyn o fewn fframwaith ysgol gyfan sy’n anelu at greu diogelwch i staff a disgyblion.  Mae ein hathroniaeth yn seiliedig ar ysgogi newid drwy fodelu perthnasoedd iach a phrofiadau cadarnhaol.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae prosesau gwerthuso’r ysgol wedi darganfod nifer o ddeilliannau diddorol, sy’n cynnwys:

  • Gwelliant yn ansawdd yr adborth i ddisgyblion.  Nododd arsylwadau fod athrawon bellach yn tueddu i gynnwys mwy o gydnabyddiaeth o’r cyd-destun emosiynol yn eu hadborth, er enghraifft: “Fe wnes i wir fwynhau gweld sut defnyddiaist ti’r syniadau drafodon ni heddiw a sut gwnest ti ddal ati, hyd yn oed pan nad oeddent yn llwyddiannus.  Roedd hynny’n anodd, mae’n siŵr.  Pam na wnaethon nhw weithio, yn dy farn di?”
  • Mwy o empathi a thosturi.  Fel rhan o brosiect ymchwil, cynhaliom gyfweliadau wedi’u strwythuro’n rhannol gyda staff, rhieni a disgyblion i ddarganfod pa effaith roedd ein hymagwedd yn ei chael.  Canfyddiad allweddol oedd bod disgyblion yn dangos mwy o empathi tuag at ei gilydd ac, o ganlyniad, gallant reoli’u hemosiynau a goddef awyrgylch yr ystafell ddosbarth am gyfnod hwy.
  • Gwelliant yn ansawdd y berthynas rhwng staff a rhieni a gofalwyr.  Nododd rhieni fod staff yr ysgol yn cyfathrebu â nhw mewn ffordd a oedd yn datblygu ymddiriedaeth ac undod. O’r herwydd, roedd ymdopi â materion cymhleth a dyrys a oedd yn dod i’r amlwg yn haws ac yn fwy cydweithredol.

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Rydym wedi rhannu ein model a’n harfer mewn cynhadledd ryngwladol ar arfer datblygiadol dyadig yn Lloegr.  Hefyd, rydym wedi hwyluso hyfforddiant a gweithdai mewn cynadleddau cenedlaethol, ysgolion a phrifysgolion.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn