Cymorth i deuluoedd er mwyn codi safonau mewn dysgu. - Estyn

Cymorth i deuluoedd er mwyn codi safonau mewn dysgu.

Arfer effeithiol

Derw Bach Preschool


Gwybodaeth am y lleoliad

Mae Derw Bach yn gylch chwarae cyn-ysgol sydd ynghlwm wrth Ysgol Gynradd Calon y Dderwen. Mae’r lleoliad wedi’i leoli yng nghanol Y Drenewydd ac yn gwasanaethu ardal o amddifadedd.

Mae Derw Bach wedi’i gofrestru ar gyfer hyd at 32 o blant 3 i 4 oed sy’n cynnig tair awr o addysg a mwy, a’r Cynnig Gofal Plant. Mae’n lleoliad cyfrwng Saesneg ond yn ymdrechu i ddefnyddio ac annog defnydd o’r Gymraeg.

Mae Derw Bach yn darparu amgylchedd amrywiol, cyfeillgar a diogel lle eir ati i annog a chynorthwyo plant i ddod yn unigolion caredig, parchus ac annibynnol.

Ar hyn o bryd, mae Derw Bach yn cynnwys teuluoedd o Wlad Pwyl, Twrci ac Wcráin. Mae’n ymdrechu i gyfathrebu ym mhriod iaith teulu trwy gyfarch a defnyddio geiriau allweddol.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Nododd arfer gwerthuso y bu ffigurau presenoldeb isel yn ystod y tymor blaenorol, ac ni wnaeth y plant gymaint o gynnydd ag y gallent, o ganlyniad. Penderfynodd ymarferwyr ganolbwyntio ar wella a meithrin perthnasoedd gyda rhieni ymhellach i wella presenoldeb. Roeddent o’r farn fod hyn yn gyfle i blant wneud mwy o gynnydd, a gwella cyrhaeddiad plant sy’n wynebu elfennau o anfantais. Roedd cyfle hefyd i rieni ddatblygu dealltwriaeth well o sut mae eu plentyn yn dysgu, a theimlo wedi eu grymuso o ran sut i gefnogi dysgu eu plentyn. Penderfynodd Derw Bach hyrwyddo bwyta’n iach, gwella dealltwriaeth rhieni o sut mae plant yn dysgu, a chryfhau’r cysylltiadau rhwng y lleoliad a’r cartref.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Rhoddwyd nifer o strategaethau a gweithgareddau ar waith gan ddefnyddio grantiau’r blynyddoedd cynnar a oedd ar gael ar y pryd. Adolygwyd y polisi cyn-ysgol iach i ddechrau gan fod y lleoliad o’r farn bod rhaid iddo gyfleu neges am fwyta’n iach i rieni ynghylch bocsys bwyd. Roedd y strategaethau a roddwyd ar waith yn cynnwys sticeri ‘bwytäwr iach’, syniadau am focsys bwyd ar y cyfryngau cymdeithasol, gan gynnig ciniawau poeth i’r rhai sydd eu hangen, ymweliadau â’r man rhannu bwyd lleol, a gweithgareddau coginio syml gyda’r plant. Defnyddiwyd grantiau i ddarparu aelod ychwanegol o staff i alluogi llawer o blant i aros am ddwy awr yn ychwanegol a chael cinio yn y lleoliad.

Roedd y lleoliad yn rhoi pecyn amser gartref i bob plentyn ei gadw, a oedd yn cynnwys syniadau am weithgareddau, ryseitiau, arwyddion Makaton, cynghorion darllen a gweithgareddau ioga, yn ogystal â set o Numicon a llyfr heb eiriau. Cynhaliodd y lleoliad ddiwrnodau agored ar gyfer rhieni a neiniau a theidiau, a threfnwyd tripiau gyda phlant a theuluoedd.

Cafodd pob plentyn adroddiad personoledig ar ddiwedd ei chwe wythnos gychwynnol yn y lleoliad, i roi gwybod i rieni am yr hyn yr oedd eu plentyn wedi’i gyflawni a sut gallai rhieni helpu ymhellach ar yr aelwyd. Defnyddir ap defnyddiol hefyd, a rhennir ffotograffau pob plentyn gyda’r cartref bob wythnos, yn cynnwys syniadau am sut gall rhieni gefnogi dysgu eu plentyn.

Mae iechyd meddwl gwael hefyd yn cynyddu yn yr ardal, ac mae niferoedd cynyddol o deuluoedd yn cael trafferthion ag arferion o ddydd i ddydd ac yn darparu’r sefydlogrwydd a’r drefn sydd eu hangen ar eu plentyn. Mae Derw Bach yn cydnabod y trafferthion a wynebir ac yn darparu ar gyfer pob angen unigol, p’un a yw hyn yn syml trwy ddarparu lle am sgwrs neu gynnig ymgysylltiad a chymorth i ddod â’u plant i mewn yn rheolaidd. Mae Derw Bach yn aml yn anfon negeseuon at rieni nad ydynt yn dod i’r lleoliad ac yn cynnig amseroedd hyblyg i gyrraedd a gadael. Mae croeso bob amser i rieni “aros a chwarae” os oes angen iddynt setlo plant. Mae Derw Bach yn cynnig oriau ychwanegol i blant er mwyn galluogi rhieni i fynychu apwyntiadau ysbyty neu yn ystod cyfnodau heriol. Mae hefyd yn cynnig llyfrau, llaeth a chinio am ddim.

Yn ystod diwrnodau pontio i’r ysgol, mae’r lleoliad yn cynorthwyo rhieni i anfon plant. Bydd staff yn mynd â rhai plant i’r ysgol pan mae rhieni’n gweithio, a bydd staff yn cyfarfod â phlant eraill wrth ddrws yr ysgol er mwyn cynorthwyo rhieni trwy’r cyfnod anodd ac emosiynol hwn.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae’r lleoliad eisoes wedi gweld gwelliant yn ansawdd y prydau bwyd a ddarperir mewn bocsys bwyd. Erbyn hyn, mae llawer o ffrwythau a llysiau yn bresennol. Mae plant yn sôn yn hyderus wrth y staff am y bwyd iach sydd ganddynt i ginio. Mae’r oriau ychwanegol a gynigir dros amser cinio wedi cynyddu ffigurau presenoldeb. Mae hyder ac annibyniaeth plant wedi tyfu, hefyd.

Mae cysylltu â rhieni pan mae plant yn absennol a chynnig cymorth wedi gwneud gwahaniaeth i hyder rhieni, ac felly mae plant yn dod i’r lleoliad hyd yn oed os ydynt yn hwyr. Mae llawer mwy o rieni yn cysylltu â’r lleoliad i roi gwybod am absenoldeb gan fod nifer o ffyrdd i gysylltu.

O ganlyniad i’r pecynnau amser gartref, mae plant wedi dangos lefel gynyddol o fedr â’r siapiau Numicon, ac mae llawer ohonynt yn gyfarwydd â’r stori a rannwyd yn y pecyn ac yn gallu rhoi sylwadau yn briodol. Mae rhieni wedi sôn am y modd y mae plant yn awyddus i gymryd rhan yn y gweithgareddau ac wedi magu hyder ers cyflwyno’r pecynnau. Mae plant yn hoffi cyfrif â’r siapiau Numicon.

Mae ymarferwyr yn hyderus y bydd y gwaith hwn yn parhau i gael effaith ar les y plant. Mae wedi dod yn amlwg fod rhieni’n gwneud nodyn o’r awgrymiadau am weithgareddau sy’n cael eu hanfon gartref gan fod medrau plant yn cynyddu. Mae llawer o rieni wedi rhannu ffotograffau o’u plentyn yn cymryd rhan mewn gweithgareddau a awgrymir trwy’r ap. Mae plant yn dangos balchder pan fyddant yn dangos y medrau a ddysgwyd. Erbyn hyn, mae rhieni’n cymdeithasu ac yn teimlo’n fwy hyderus i fynychu gan fod y lleoliad wedi agor y cyntedd i rieni yn y boreau. Erbyn hyn, cânt fwy o gyfle i allu defnyddio’r llyfrau, y taflenni a’r wybodaeth am ddim, a’r llaeth sydd ar gael am ddim iddynt.

Llwyddodd yr holl blant a ddechreuodd yn yr ysgol ym mis Medi i ymgynefino yn yr ysgol yn gyflym ac yn hyderus.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Rhannwyd arfer dda gyda lleoliadau eraill y blynyddoedd cynnar.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn