Cymorth effeithiol yn yr ysgol ar gyfer disgyblion sydd dan anfantais a disgyblion sy’n agored i niwed – astudiaethau achos arfer dda
Adroddiad thematig
Mae’r adroddiad yn nodi arferion ysgol effeithiol i gynorthwyo disgyblion sydd dan anfantais a disgyblion sy’n agored i niwed. Gallai hyn gynnwys gwaith a ariennir gan y Grant Datblygu Disgyblion (GDD). Mae’r astudiaethau achos arfer orau yn yr adroddiad yn dangos pa mor llwyddiannus y mae darparwyr yn cynorthwyo’r disgyblion hyn ac yn gwneud gwahaniaeth i’w lles a’u cyflawniad.
Argymhelliad
Dylai ysgolion:
- A1 Ystyried yr arfer orau a amlinellir yn yr astudiaethau achos a geir yn yr adroddiad hwn