Cymorth effeithiol yn helpu dysgwyr i siarad Cymraeg yn rhugl - Estyn

Cymorth effeithiol yn helpu dysgwyr i siarad Cymraeg yn rhugl

Arfer effeithiol

Dysgu Cymraeg Gwent/Learn Welsh Gwent


 

Gwybodaeth gyd-destunol fras am y darparwr

Darparwr Cymraeg i Oedolion yw Dysgu Cymraeg Gwent a sefydlwyd yn 2016 yn sgil ad-drefnu’r  sector Cymraeg i Oedolion.  Mae tua 1,400 o oedolion ar gyrsiau’r darparwr sydd yn darparu ystod o gyrsiau ar lefelau Mynediad i Hyfedredd, gan gynnwys cyrsiau prif ffrwd Cymraeg i Oedolion, Cymraeg yn y gweithle, Cymraeg i’r Teulu a rhaglen o gyfleoedd dysgu anffurfiol ar draws ardal Gwent.

Cyd-destun a chefndir yr arfer ragorol/sy’n arwain y sector

Mae gan staff y darparwr ymrwymiad angerddol tuag at gadw dysgwyr a sicrhau eu bod yn parhau â’u gwersi a dod yn siaradwyr rhugl.  Maent yn darparu cymorth unigol o safon uchel i’r dysgwyr sydd yn eu gofal.  Mae bron pob tiwtor yn adnabod eu dysgwyr yn dda ac maent yn gweithio’n ddiflino er mwyn cynorthwyo dysgwyr i oresgyn unrhyw rwystrau posibl rhag dysgu’r iaith.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd a nodwyd fel arfer ragorol/arfer sy’n arwain y sector

Defnyddir sawl dull gan Dysgu Cymraeg Gwent i ofalu am ei dysgwyr a chynnig pob cymorth posibl iddynt.

Monitro Presenoldeb Dysgwyr

Gwneir gwaith manwl a thrylwyr gan gydlynwyr Dysgu Cymraeg Gwent i fonitro ystadegau a chyfraddau presenoldeb a chadw yn fisol er mwyn cadw dysgwyr.  Mae cydlynwyr y ddarpariaeth mewn cyswllt rheolaidd â’u tiwtoriaid.  Mae cyfathrebu clir a chyson rhwng y ddau grŵp yn sicrhau bod y cydlynwyr yn ymwybodol o resymau absenoldebau pob dysgwr ar gyrsiau yn eu hardaloedd perthnasol.  Mae’r cydlynwyr yn cysylltu â’r dysgwyr hyn ar ôl pythefnos o absenoldeb i drafod y rheswm am yr absenoldeb, gan gynorthwyo’r dysgwyr i ailymuno â’u dosbarth, neu eu trosglwyddo nhw i ddosbarth arall os nad yw amser/dyddiad eu dosbarth presennol yn addas bellach.  Mae’r rheolwr ansawdd yn monitro cyfraddau presenoldeb a chadw pob dosbarth yn fisol, gan sicrhau y cofnodir rhesymau dysgwyr am bob achos o absenoldeb a’r rheswm pam mae dysgwyr yn gadael eu dosbarthiadau.

Prosiect Dal Ati

Ym mis Rhagfyr bob blwyddyn, cynhelir ymgyrch Dal Ati ar draws y ddarpariaeth, sydd yn targedu’r dysgwyr hynny ar lefelau Mynediad a Sylfaen 1.  Yn hanesyddol, dyma’r dysgwyr sydd fwyaf tebygol o roi’r gorau i’w dysgu yr adeg honno o’r flwyddyn. Trwy nifer o fideos a anelir at annog dysgwyr i ‘ddal ati’, ynghyd â gweithgareddau adolygu ar lein a chymorth a gynigir gan y cydlynwyr a’r tiwtoriaid, anelir at sicrhau nad yw dysgwyr yn gadael y dosbarthiadau hyn yr adeg honno o’r flwyddyn, a’u bod yn cael pob cefnogaeth bosibl i ailymuno â’u dosbarthiadau ym mis Ionawr os ydynt sesiynau yn ystod wythnosau prysur mis Rhagfyr.

Cynrychiolwyr Dosbarth

Mae gan Dysgu Gwent Cymraeg rwydwaith o gynrychiolwyr dosbarth.  Bob blwyddyn, gofynnir i ddysgwyr pob dosbarth benodi cynrychiolydd.  Rôl y person hwnnw yw gweithredu fel person cyswllt rhwng dysgwyr y dosbarth a rheolwyr y ddarpariaeth. Pe bai problem yn y dosbarth, er enghraifft gyda’r cwrs neu’r lleoliad, gallai’r cynrychiolydd weithredu ar ran y dysgwyr i gyd drwy hysbysu’r tiwtor yn y lle cyntaf, neu staff y lleoliad lle cynhelir y dosbarth os oes problem gyda’r lleoliad.

Os nad yw’r problem yn cael ei datrys ar lefel leol, gall y cynrychiolydd dosbarth gysylltu â chydlynwyr neu reolwyr y darparwr os oes angen.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ansawdd y ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae’r camau hyn yn golygu bod staff yn datblygu a meithrin perthnasoedd gwaith hynod gadarnhaol gyda’r dysgwyr yn eu gofal.  Oherwydd hyn, mae staff yn cynnig y cymorth priodol iddynt heb oedi, sydd yn ei dro yn sicrhau bod y darparwr yn cadw dysgwyr fyddai mewn perygl o adael cyrsiau fel arfer.  Yn ogystal, mae’r strategaethau hyn yn fodd defnyddiol o dynnu sylw rheolwyr at unrhyw diwtoriaid sy’n tanberfformio er mwyn mynd i’r afael ag unrhyw faterion cyn iddynt effeithio’n niweidiol ar brofiad y dysgwyr.  O ganlyniad, mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn nodi, yn holiadur cenedlaethol y sector, eu bod yn cael cymorth a gofal gwerthfawr gan y darparwr.