Cymorth effeithiol ar gyfer disgyblion sy’n siarad Saesneg fel iaith ychwanegol
Quick links:
Gwybodaeth am yr ysgol
Agorwyd Ysgol Gynradd Parc Lewis ym 1908 yn Nhrefforest, Pontypridd. Mae 258 o ddisgyblion ar y gofrestr, a 35% o blant yn byw mewn Ardal Cymunedau yn Gyntaf. Y cyfartaledd tair blynedd yn nata’r CYBLD ar gyfer prydau ysgol am ddim yw 26%. Yn RhCT, Parc Lewis oedd â’r ganran uchaf o ddisgyblion ag ethnigrwydd heblaw Prydeinig / Cymreig (Ysgol 26% ALl blaenorol 4.6%) a’r ganran uchaf o ddisgyblion â SIY Cam A-C (Ysgol 16% ALl blaenorol 1.4%), ac mae hyn yn parhau. Mae ganddi lefelau uchel o symudedd ysgol gyfan gyda disgyblion yn cyrraedd ac yn gadael yn aml trwy gydol y flwyddyn, ar draws pob grŵp blwyddyn. Ychydig iawn o ddisgyblion sy’n mynychu Parc Lewis sy’n dechrau yn y dosbarth meithrin ac yn aros yn yr ysgol tan Flwyddyn 6.
Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol
Mae lefelau uchel o ddisgyblion sy’n siarad Saesneg fel iaith ychwanegol (SIY) yn dechrau yn yr ysgol trwy gydol y flwyddyn ar draws yr ysgol, heb unrhyw gapasiti ar gyfer nodi nac ymyrraeth i ddiwallu anghenion iaith, gan arwain at hunan-barch a hyder isel, ac sy’n effeithio ar gynnydd disgyblion
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch
- Mae’r Grŵp Gwella Ysgolion yn gweithio i nodi arfer orau ar gyfer disgyblion SIY.
- Gweithredu protocol cyn mynediad disgyblion SIY gyda rhiant / gwarcheidwad i gasglu gwybodaeth benodol am deulu, iaith a diwylliant.
- Crëwyd traciwr Symudedd Mynediad ac Ymadael i gefnogi rhannu gwybodaeth am gynnydd disgyblion yn ystod y cyfnod pontio.
- Mae pob aelod o staff wedi cael hyfforddiant i ddilyn llwybr Asesu SIY ar gyfer disgyblion pan fyddant yn dechrau yn yr ysgol, gan ddefnyddio Model Cam 5 LlC, Gwaelodlin neu Incerts, Salford a phecyn ELSA o asesiadau yn yr ysgol i nodi angen ac ymyrraeth.
- Mae’r holl ddisgyblion SIY yn mynychu sesiynau grŵp ‘Rhaglen Kidstuff ESL’ dan arweiniad cynorthwyydd cymorth dysgu bob wythnos i ddysgu geirfa a magu hyder.
- Bydd disgyblion SIY Cam A-B yn cael Cyfieithydd / Cyfaill Ifanc; Camau C-E i gymryd rhan mewn gweithgareddau ‘Grŵp Cyfeillgarwch’ Mentoriaid Cyfoedion amser cinio.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?
Mae gweithredu proses glir a strwythuredig ar gyfer disgyblion SIY pan fyddant yn dechrau yn yr ysgol wedi bod yn werthfawr i godi safonau llafaredd ysgol gyfan. Mae hyn, ynghyd â rhaglen dysgu proffesiynol ar gyfer yr holl staff, sy’n canolbwyntio ar gaffael a datblygu iaith, wedi cael effaith gadarnhaol ar ddysgu’r holl ddisgyblion ar draws yr ysgol.
Mae cyfarfod â rhieni cyn dyddiad dechrau eu plentyn wedi sicrhau bod yr ysgol a’r cartref yn gweithio gyda’i gilydd i nodi anghenion iaith, cymdeithasol, emosiynol a diwylliannol disgyblion, er enghraifft nodi plant sydd wedi cyrraedd y wlad gyda pherthynas, nid eu rhiant; deall anghenion disgyblion sy’n ffoaduriaid; a nodi disgyblion nad oes ganddynt iaith gyntaf gadarn.
Mae disgyblion sy’n cymryd rhan yn y cynllun ‘Cyfieithwyr Ifanc’ wedi datblygu dealltwriaeth well o gynhwysiant ac wedi gwella eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o anghenion disgyblion SIY ymhlith eu cyfoedion. Wrth gyflwyno’r cynllun trwy weithgareddau chwarae, yn amgylchedd y Cyfnod Sylfaen a thrwy sesiynau Mentoriaid Cyfoedion yng nghyfnod allweddol 2, llwyddwyd i feithrin perthnasoedd a chyfeillgarwch newydd a dealltwriaeth ddiwylliannol. Mae arolwg lles disgyblion yr ysgol wedi dangos cynnydd yn hunan-barch yr holl ddisgyblion â SIY. Mae hyn wedi esblygu i ddechrau o chwarae dieiriau i ddisgyblion yn magu hyder i dreialu a defnyddio iaith achlysurol mewn cyd-chwarae. Mae gweithredu’r Rhaglen SIY fel ymyrraeth wedi darparu fframwaith ar gyfer cynorthwyo staff i alluogi cynnydd effeithiol.
Mae prosesau ar gyfer deall anghenion dysgwyr SIY o’r dechrau wedi bod yn werthfawr wrth helpu plant i ymgynefino’n gyflym yn yr amgylchedd dysgu newydd. O ganlyniad i ddiwylliant lles ac ethos teuluol cryf yr ysgol, mae pob un o’r staff wedi cymryd perchnogaeth o’u rolau mewn datblygu hyder disgyblion i greu amgylchedd sy’n annog iaith newydd i lifo.
Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?
Rhannwyd yr arfer hon i ddechrau gydag ysgolion a fynychodd Gynhadledd SIY 2018 yn Stadiwm Dinas Caerdydd fel rhan o Brosiect Clwstwr Cathays.
Mae’r ysgol wedi rhannu ei gwaith Prosiect SIY 32 y Gwasanaeth Gwella Ysgolion gyda Chlwstwr Y Ddraenen Wen a Gwasanaeth SIY RhCT. Mae Parc Lewis yn parhau i fod yn ffynhonnell cyngor a chymorth i ysgolion eraill sy’n newydd o ran diwallu anghenion disgyblion â SIY Cam A-E.