Cymorth ar gyfer lles yn ystod y cyfnod pontio o’r sector cynradd i’r uwchradd

Arfer effeithiol

Ysgol Dyffryn Aman


 

Gwybodaeth am yr ysgol

Ysgol ddwyieithog a gynhelir gan awdurdod lleol Sir Gaerfyrddin yw Ysgol Dyffryn Aman.  Mae 1,436 o ddisgyblion ar y gofrestr, gyda 267 ohonynt yn y chweched dosbarth.

Mae’r ysgol wedi’i lleoli yn Rhydaman wrth droed y Mynydd Du.  Daw tua hanner y disgyblion o’r dref ei hun, a daw’r hanner arall o’r ardal wledig a’r pentrefi cyfagos.  Cyfran y disgyblion sy’n gymwys i brydau ysgol am ddim yw 18.9%, sydd ychydig yn uwch na’r cyfartaledd ar draws Cymru, sef 16.4%.

Daw bron traean o’r disgyblion o gartrefi lle siaredir y Gymraeg.  Mae tua 47% o’r disgyblion yn siarad Cymraeg yn rhugl ac mae ychydig dros hanner yn astudio’r Gymraeg fel iaith gyntaf.

Mae gan bron 6% o ddisgyblion ddatganiadau o anghenion addysgol arbennig o gymharu â 2.2% ar gyfer Cymru gyfan.  Mae gan bron 30% o ddisgyblion angen addysgol arbennig.  Mae’r ffigwr hwn yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 22.9%.  Mae gan yr ysgol gyfleuster addysgu arbenigol i 29 o ddisgyblion sydd ag anghenion dysgu dwys a chymhleth.

Penodwyd y pennaeth ac un dirprwy bennaeth ym Medi 2017.  Mae’r uwch dîm arwain yn cynnwys y pennaeth, dau ddirprwy bennaeth, tri phennaeth cynorthwyol, dau uwch athro a’r cydlynydd anghenion dysgu arbennig.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Prif amcan yr ysgol yw cefnogi lles a chynnydd y disgyblion trwy ymateb i ofynion pob unigolyn.  Oherwydd cyd-destun, maint a natur yr ysgol, nid yr un ddarpariaeth a chefnogaeth sydd ei angen ar bob disgybl.  Rhaid felly paratoi cwricwlwm academaidd eang sydd wedi ei fireinio ar gyfer yr unigolyn er mwyn sicrhau ymglymiad a ffyniant.  Law yn llaw â hyn, darperir cymorth pwrpasol i hybu lles a hapusrwydd y disgybl, gan ddatblygu gwytnwch yr unigolyn i wynebu heriau dyddiol.  Ym marn yr ysgol, os yw’r disgybl yn hapus ac yn iach, bydd hyn yn arwain at agweddau cadarnahol tuag at ddysgu a gwneir cynnydd cadarn.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Cynllun Pontio

Mae’r ysgol wedi meithrin perthnasoedd cryf gyda’i hysgolion cynradd partner.  Sylfaen y system hon yw sicrhau bod gan yr ysgol ffocws glir o ran hyrwyddo lles y disgyblion newydd.  Llunir proffil unigol ar gyfer pob disgybl er mwyn darparu’r gefnogaeth a’r ymyrraeth briodol wrth iddynt ddechrau ar eu taith addysgol yn Nyffryn Aman.  Yn ystod blynyddoedd 5 a 6, cynhelir rhaglen o ymweliadau, gweithdai a sesiynau blasu.  Defnyddir disgyblion presennol yr ysgol uwchradd fel llysgenhadon yn yr ysgolion cynradd i rannu’u profiadau gyda’r darpar ddisgyblion.

Trefnir dwy noson agored ar ddechrau blwyddyn 6 sy’n gyfle i rieni a disgyblion weld yr ysgol ar waith.  Gan fod oddeutu 250 o ddisyblion yn trosglwyddo i’r ysgol yn flynyddol, yn ogystal â’r ffaith ei bod yn ysgol ddwyieithog, cynhelir dwy noson agored sy’n cynnwys cyflwyniadau a thaith o gwmpas yr ysgol.  Mae’r broses hon yn cynnig profiad mwy personol i’r rhieni a’r disgyblion mewn awyrgylch gartrefol a theuluol.  Trefnir gweithdy ychwanegol i rieni’r darpar ddisgyblion lle y gellir holi cwestiynau a dysgu mwy am y ddarpariaeth a’r cymorth ieithyddyol sydd ar gael.

Cwricwlwm eang a chyfoethog

Un o gryfderau’r ysgol yw’r cwriwclwm eang a ddarperir.  Yng nghyfnod allwedol 3, mae arweinwyr yn cyd-weithio’n effeithiol ac yn barod i dreialu a gwerthuso trefniadau cwricwlaidd newydd.  Mae’r ysgol yn arbrofi gyda dull newydd o addysgu ym Mlwyddyn 7 trwy gynllun dysgu trwy brosiect.  Er ei fod yn ddyddiau cynnar, mae disgyblion wedi elwa o brofiadau gwerthfawr fel ymweliad i gartref henoed i ymchwilio i’r gwahaniaethau rhwng cenedlaethau.  Ychwanegwyd cwrs mewn datblygiad personol a sgiliau cyflogadwyaeth i’r arlwy yng nghyfnod allweddol 3 a 4 yn ddiweddar.  Cynlluniwyd y rhaglen yn ofalus er mwyn ymateb i anghenion disgyblion penodol a’u hannog i ymgysylltu’n bositif â’r cwricwlwm.  O ganlyniad, mae darpariaeth yr ysgol yn sicrhau ymglymiad ac yn adeiladu gwytnwch disgyblion bregus.  Trwy fethodoleg hyblyg o ran y dull o gyflwyno’r rhaglen, a chyfoeth o adnoddau i gefnogi cynnwys y cwricwlwm, mae’r rhaglen yn cwrdd yn llwyddiannus ag anghenion a diddordebau’r disgyblion.  Datblygir hyder a hunan werth y bobl ifanc trwy roi iddynt gyfrifoldebau penodol a gwrandewir yn gyson ar eu barnau.  Sicrheir cynnydd yn eu medrau craidd er mwyn eu paratoi ar gyfer bywyd tu hwnt i’r ysgol.

Cefnogi i bwrpas

Mae’r ysgol yn gymuned deuluol a gofalgar sydd yn cynnig cefnogaeth ac arweiniad gwerthfawr i’w disgyblion ac i rieni.  Mae’r berthynas weithio hynod o agos a chynhaliol yn hybu amgylchedd o gefnogaeth ac yn magu ymagweddau cadarnhaol iawn y disgyblion tuag at eu gwaith.  Perchir y gwahaniaethau sydd yn bodoli rhwng disgyblion o wahanol gefndiroedd a galluoedd, er enghraifft darperir ar gyfer disgyblion nad ydynt yn medru’r Saesneg na’r Gymraeg wrth iddynt ymuno â’r ysgol.  Gwneir hyn trwy gefnogaeth ieithyddol ddwys o dan arweiniad athrawes arbenigol mewn grŵp bach.  Fel rhan o’r ddarpariaeth hon, cynllunir amserlen unigol i ddatblygu sgiliau ieithyddol a fydd yn galluogi’r disgyblion, ymhen amser, i gael mynediad llawn i’r cwricwlwm a’r brif ffrŵd. Sicrheir amgylchedd ofalgar er mwyn eu cynorthwyo i ymgartrefu’n llwyddiannus a’u datblygu i fod yn ddinasyddion gwybodus ac egwyddorol.

Cymdeithas gynhwysol

Mae gweledigaeth glir gan yr ysgol o ran sicrhau cyfleoedd cyfartal a phrofiadau ysgogol i holl ddisgyblion y dalgylch.  Yn ogystal, mae ystod eang o weithgareddau allgyrsiol yn cyfoethogi profiadau dysgu’r disgyblion yn effeithiol.  Elfen bwysig o’r cynhwysiant yw mewnbwn rhieni.  Trefnir cyfres o weithdai ar gyfer rhieni sy’n cynnig fforwm iddynt rannu syniadau a gwella eu dealltwriaweth o flaenoriaethau a phrosesau’r ysgol.  Mae llawer o ddisgyblion, gan gynnwys rhai ag anghenion ychwanegol, yn cael cyfleoedd gwerthfawr  i ddatblygu eu medrau arweinyddol.  Mae’r grŵp maethu, ‘Enfys’, yn cefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol ac anghenion emosiynol trwy gynnig amserlen wedi ei theilwra yn benodol ar eu cyfer.  Mae’r ddarpariaeth wedi profi’n llwyddiannus o ran adeiladu gwytnwch y disgyblion ynghyd â gwella’u hymglymiad a’u hymagweddau at ddysgu.  Mae grwpiau o ddisgyblion eraill, megis plant mewn gofal, yn derbyn cefnogaeth cydlynydd penodol sy’n tracio cynnydd a lles y disgyblion ar lefel unigol.  Gweithia’r cydlynydd  yn agos gydag asiantaethau allanol i sicrhau mynediad hylaw i’r disgyblion a’u teuluoedd i wasanaethau perthnasol eraill.  Mae’r gefnogaeth yn adeiladu gwytnwch trwy ddatblygu’r ymdeimlad o berthyn i gymuned sy’n eu cynorthwyo i ymdopi gydag heriau bywyd.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae ethos gref o berthyn a chynhwysiant yn Ysgol Dyffryn Aman.  Cefnogir disgyblion yn effeithol a gosodir disgwyliadau uchel fel bod pob unigolyn yn barod i wynebu sialensau yn ddyddiol.  Yr amcan yw meithrin disgyblion annibynnol, hyderus a hapus.  Mae’r ethos hon wedi ymdreiddio i bob rhan o ddarpariaeth yr ysgol.  Yn ystod arolygiad diweddaraf yr ysgol yn Nhachwedd 2019, barnwyd fod “lles ac agweddau at ddysgu disgyblion yn nodwedd hynod gref o Ysgol Dyffryn Aman.’  Yn benodol, nodwyd bod “’parodrwydd i ddyfalbarhau pan yn wynebu heriau ‘yn nodwedd arbennig o ymagweddau cadarnahol y disgyblion tuag at eu gwaith.’  Barnwyd hefyd bod ‘disgyblion ag anghenion addysgol dwys yn datblygu’u medrau bywyd yn ardderchog o fewn Canolfan Amanwy’ a nodwyd bod ‘llawer o ddisgyblion yn datblygu eu medrau personol a chymdeithasol yn eithriadol trwy ymgymryd â gwahanol gyfrioldebau o fewn cymuned yr ysgol.’ Felly ‘yn ystod eu hamser yn yr ysgol, mae llawer o ddisgyblion yn gwneud cynnydd buan yn eu gwybodaeth bynciol a’u medrau.’

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Er mwyn cyfrannu at system hunangynhaliol, mae Ysgol Dyffryn Aman wedi rhannu arfer dda trwy gynnal digwyddiadau hyfforddiant yn yr ysgol neu fynd allan i ymweld ag ysgolion eraill.  Cafwyd cyfleoedd buddiol i rannu a gwerthuso arferion a strategaethau sy’n adeiladu gwytnwch disgyblion yn llwyddiannus.