Cyfleoedd sydd ar gael i ddisgyblion i ddylanwadu ar agweddau o’r ysgol
Quick links:
Gwybodaeth am yr ysgol
Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin yn ysgol gymunedol, benodedig Gymraeg, gymysg i ddisgyblion 11-18 oed ac yn cael ei chynnal gan awdurdod lleol Sir Gaerfyrddin. Mae wedi ei lleoli yng Nghroesyceiliog, Caerfyrddin. Mae ynddi 912 o ddisgyblion gyda 190 o fyfyrwyr yn y chweched dosbarth. Mae gan 4.2% o ddisgyblion yr ysgol yr hawl i brydau ysgol am ddim. Daw llawer (tua 70%) o ddisgyblion o deuluoedd lle mae’r Gymraeg yn cael ei siarad gartref ond mae pawb yn medru’r Gymraeg.
Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol
Yn erthygl 12 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn nodir bod gan bob plentyn yr hawl i gael llais yn y pethau sy’n effeithio arnynt. Roedd yr ysgol am wneud yn siwr bod pob disgybl yn teimlo eu bod yn medru defnyddio eu llais i yrru gwelliannau a chynlluniau ysgol gyfan. Roedd y cyngor ysgol eisoes yn ymwneud â phrosiectau ar ran y disgyblion, yn rhan o gynlluniau gwella’r ysgol, yn mynychu cyfarfodydd y corff llywodraethu a chyfrannu at apwyntiadau staff ond roedd arweinwyr yn awyddus i gynnwys mwy o’r disgyblion mewn penderfyniadau er mwyn sicrhau bod pawb â rhan i’w chwarae yn natblygu ‘teulu Bro Myrddin’.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd
Er mwyn gyrru gwelliannau ysgol gyfan, gosodwyd datblygu cyfleoedd ‘Llais y Disgybl’ yn flaenoriaeth yng nghynllun datblygu’r ysgol. Aethpwyd at i weithredu’r weledigaeth mewn amrywiol ffyrdd:
- Sicrhawyd bod llais y cyngor ysgol a’r pwyllgor dyngarol yn cael ei ledaenu ar draws yr ysgol trwy wasanaethau perthnasol a digwyddiadau amrywiol
- Cynhaliwyd cyfarfodydd wythnosol rhwng y Pennaeth a’r prif swyddogion er mwyn gwrando ar lais yr arweinwyr ifanc
- Datblygwyd fforymau lles i bob blwyddyn ar gais y Cyngor Ysgol o dan ofal blwyddyn 12/13 er mwyn ehangu llais y disgybl, ac roedd hyn yn golygu gosod agenda’r cyfarfodydd ac adrodd nôl i’r Uwch Dîm Arwain ar ddiwedd pob cyfarfod. Cyfnewidiwyd aelodau’r fforymau yn rheolaidd er mwyn sicrhau amrywiaeth o safbwyntiau a chynrychiolaeth deg a chytbwys ar draws yr ysgol.
- Sefydlwyd bocs llythyron lles sydd bellach yn cael ei ddefnyddio gan lawer iawn o’r disgyblion er mwyn i unigolion ddatgan eu gofid neu eu barn yn uniongyrchol
- Gosodwyd linc penodol ar wefan yr ysgol i ddisgyblion leisio barn a rhannu gofidiau yn gyfrinachol gyda phenaethiaid blwyddyn
- Trefnwyd fforymau disgyblion fesul blwyddyn i fynegi barn i’r Uwch Dîm Arwain a’r penaethiaid bugeiliol ar faterion cwricwlaidd a lles
- Gyrrwyd holiaduron ysgol gyfan i’r dysgwyr yn gofyn am eu barn ar nifer o bynciau gan gynnwys lles, diogelwch, bwyta’n iach, gwersi ar-lein ac effeithiolrwydd y ddarpariaeth gwricwlaidd
- Sicrhawyd bod pob adran yn gosod ‘llais y disgybl’ yn uchel ar eu hagenda a rhoddwyd cyfle i ddisgyblion leisio eu barn ar themâu a strategaethau addysgu’r adrannau
- Mynychwyd cynhadledd gan y Comisiynydd Plant er mwyn rhannu arfer dda
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr??
Yn sgîl ’gwrando’ ar lais y disgybl’ gweithredwyd ar nifer o’r syniadau:
- Addaswyd cynlluniau Addysg Bersonol a Chymdeithasol
- Darparwyd gwersi lles ychwanegol i ddisgyblion blwyddyn 7 ac 8 a’r cynnwys yn cael ei arwain gan y disgyblion.
- Addaswyd y cwricwlwm
- Addaswyd arlwy y gwersi ‘chwaraeon’
- Sicrhawyd mwy o ddefnydd o liniaduron gan gynnwys cynllun peilot offer 1:1 gyda blwyddyn 7, Medi 2022
- Datblygwyd gofod allanol yr ysgol i fod yn fwy disgybl gyfeillgar a defnyddiol.
- Datblygwyd y ganolfan fwyta newydd ‘Blas tu Fas’
- Addaswyd bwydlenni’r ffreutur
- Crëwyd ystafell astudio newydd i’r chweched dosbarth
- Datblygwyd mwy o weithgareddau i godi arian i achosion perthnasol i’r disgyblion.
Mae gan y disgyblion ‘lais’ yn yr ysgol ond yn bwysicach mae’r ysgol yn clywed llais y disgyblion ac yn gwrando. Mae hyn yn rhoi ymdeimlad o berchnogaeth iddynt. sydd yn adeiladu cymuned a chynefin yr ysgol gyfan.
Bellach, teimla arweinwyr , trwy lais grwpiau, fforymau a phwyllgorau penodol, bod llais y disgybl yn cael lle blaenllaw yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin. Mae’r cyfan wedi arwain at newidiadau cwricwlaidd a newidiadau i amgylchedd a threfniadaeth ddyddiol yr ysgol. Teimlant bod hyn wedi datblygu a dyfnhau gwybodaeth, dealltwriaeth a medrau’r disgyblion ar draws yr ysgol ac wedi ychwanegu at eu lles personol. Gobeithiant bod pob disgybl bellach yn teimlo yn rhan o ‘deulu Bro Myrddin.’
Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?
Mae’r ysgol wedi codi ymwybyddiaeth o’r arferion trwy wasanaethau arbennig, cyfarfodydd llywodraethwyr, gwefannau cymdeithasol amrywiol a thrwy gyfathrebu gyda’r rhieni. Mae’r ysgol hefyd yn ran o ymchwil Llywodraeth Cymru ar lais y disgybl a’r pandemig, sy’n gyfle i rannu yr arferion da.