Cyflenwi model newydd ar gyfer Bagloriaeth Cymru - Estyn

Cyflenwi model newydd ar gyfer Bagloriaeth Cymru

Arfer effeithiol

St David’s Catholic College


Gwybodaeth gyd-destunol fras am y darparwr/y bartneriaeth (seiliwch y wybodaeth hon ar dran cyd-destun yr adroddiad gan gynnwys nodweddion sy’n berthnasol i’r astudiaeth achos)

Sefydlwyd Coleg Catholig Dewi Sant gan Archesgobaeth Caerdydd yn goleg chweched dosbarth Catholig ym 1987. Mae’r coleg ar un campws yng ngogledd-ddwyrain Caerdydd. Mae Coleg Dewi Sant yn rhoi cyfleoedd dysgu i ryw 1,550 o ddysgwyr amser llawn. Mae bron yr holl ddysgwyr rhwng 16 a 19 oed. Nid oes dysgwyr rhan-amser. Mae ychydig o dan 80% wedi ymrestru ar lefel 3, gyda 60% o’r rhain ar gyrsiau Safon Uwch/UG a 27% o’r rhain yn cymysgu cyrsiau Safon Uwch/UG â chyrsiau galwedigaethol Lefel 3. Mae tua 18% wedi ymrestru ar lefel 2 a rhyw 3% ar lefel 1. Daw’r rhan fwyaf o’r dysgwyr yn y coleg o Gaerdydd, ond daw tua 13% o fannau pellach i ffwrdd, gan gynnwys Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Caerffili a Phen-y-bont ar Ogwr. Mae tua 54% o’r dysgwyr yn ferched a 46% yn fechgyn. Daw tua 22% o’r dysgwyr o grwpiau lleiafrif ethnig. Daw tua 45% o’r dysgwyr o ardaloedd o amddifadedd addysgol. Mae pob dysgwr amser llawn yn astudio at Gymhwyster Bagloriaeth Cymru.

Nodwch sut mae’r maes arfer ragorol/arfer sy’n arwain y sector, a nodwyd yn ystod yr arolygiad, yn berthnasol i gwestiwn allweddol, dangosydd ansawdd a/neu agwedd arbennig:
Cwestiwn Allweddol: 1 a 2
Dangosydd ansawdd: 1.1-Safonau, 2.1-Profiadau Dysgu.
Agwedd: 1.1.1, 1.1.4, 2.1.1, 2.1.2

Cyd-destun a chefndir i arfer ragorol/arfer sy’n arwain y sector

Mae’r arweinyddiaeth yn y Coleg yn arddangos ymrwymiad cryf ar lefelau strategol a gweithredol at Gymhwyster Bagloriaeth Cymru. Roedd rôl wedi ei nodi’n amlwg i Gymhwyster Bagloriaeth Cymru i gyfrannu at wella profiadau a pherfformiad y dysgwyr. O ganlyniad, mae dros1000 o ddysgwyr, carfan lefel 3 bron i gyd, bellach yn astudio ar gyfer Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ar Safon Uwch. Mae’r model yn defnyddio’r cysyniad o gwricwlwm ‘craidd’ Coleg Dewi y mae pob dysgwr yn y coleg yn cael mynediad ato. Mae’r cwmpas yn cael ei fapio ar draws y craidd, tynnir tystiolaeth o feysydd y cwricwlwm ac ymgymerir â gwahaniaethu o ran y a’r cymhwyster yr anelir ato.

Mae Bagloriaeth Cymru ar Safon Uwch yn chwarae rhan allweddol wrth gynorthwyo gyda:

  • hyrwyddo datblygiad cylfawn y dysgwyr;
  • gosod targedau a arweinir gan y dysgwyr;
  • gwaelodi a chyd-destunoli cyfleoedd i ddatblygu medrau;
  • codi cyrhaeddiad medrau allweddol;
  • datblygu cysylltiadau cryf rhwng darpariaeth y cwricwlwm a gofal bugeiliol;
  • hyrwyddo diwylliant Cymru, gwasanaeth cymunedol, ESDGC ac Addysg yn Gysylltiedig â Gwaith; a
  • sicrhau bod y craidd dysgu yn cael gwerth cyfartal

Ystyriwyd sawl model ar gyfer cyflwyno Cymhwyster Bagloriaeth Cymru gan y Coleg. Mae’r dulliau cyflwyno yn gwahaniaethu yn ôl lefel y cymhwyster. Roedd y model cyflwyno ar Safon Uwch wedi ei integreiddio gyda mentrau eraill gan y coleg, fel cynllun dysgu unigol electronig (e-GDU) a’r llwyfan dysgu ar sail Moodle. Gwnaed y datblygu ar y model trwy ymgynghori ag ystod o randdeiliaid, gan gynnwys dysgwyr; staff addysgu; ymgynghorwyr addysg uwch a rhieni. Datblygwyd strategaeth i sicrhau bod rhieni yn gwerthfawrogi ac yn cefnogi’r cymhwyster.

Mae’r model presennol yn canolbwyntio ar ddatblygiad y dysgwyr mewn nifer o ffyrdd; mae cyflwyno’r dysgwyr i amrywiaeth o arddulliau addysgu a dysgu yn galluogi i ddysgwyr ganolbwyntio a datblygu eu setiau medrau. Er enghraifft, mae gwersi cyflwyno thematig yn annog dysgwyr i ddatblygu medrau gwrando a thrafod, ac mae gwersi menter yn galluogi i ddysgwyr ddatblygu eu medrau gwaith tîm a hunanymwybyddiaeth. Mae rhaglen Bagloriaeth Cymru hefyd yn cyflwyno’r disgyblion i bynciau sy’n eu hannog i fod yn ddinasyddion mwy cyfrifol yn ogystal â hyrwyddo meysydd sy’n bwysig i Gymru ac economi Cymru. Mae’n bwysig nodi efallai na fyddai dysgwyr yn cael cyfleoedd o’r fath pe baent heb ymrestru ar y rhaglen. Yn ychwanegol, mae cyrhaeddiad medrau allweddol wedi codi oherwydd y cyfleoedd datblygu sydd wedi’u h’ymgorffori yn y model cyflwyno a’r gofyniad i fod yn hyfedr mewn meysydd a ystyrir yn bwysig gan sefydliadau addysg a chyflogwyr fel ei gilydd. Mae rhai dysgwyr wedi cyflawni medrau allweddol Lefel 4 a’r Prosiect Estynedig drwy gyflwyno rhaglen wedi’i chyfoethogi i ddysgwyr mwy galluog a dawnus.

Mae’r model presennol ‘wedi ei ysbrydoli gan gyfanwaith’ lle gyrrir yr addysgu a’r dysgu ar bynciau amrywiol gan arddulliau dysgu penodol, gan arwain at y dysgwr yn cael profiad addysgu a dysgu trosfwaol sy’n ysgogol ac yn amrywiol. Rhennir y cydrannau craidd yn themâu, ac mae arweinwyr tîm arbenigol yn cynhyrchu adnoddau sy’n mynd i’r afael â themâu o’r fath ac sy’n cynnig cymorth a chanllawiau i athrawon Cymhwyster Bagloriaeth Cymru wrth iddynt ei gyflwyno, yn ogystal â monitro ansawdd y cyflwyno a’r asesu. Mae cyflwyno Bagloriaeth Cymru yn cael ei gefnogi’n llawn gan y llwyfan dysgu ar sail Moodle, lle gall dysgwyr ymgymryd â dysgu ar sail arbrofi. Yn ychwanegol, mae’r Moodle yn caniatáu i ddysgwyr ac athrawon olrhain y broses asesu. Mae Medrau Allweddol a Medrau Hanfodol Cymru wedi eu hintegreiddio’n llawn ym mhob thema/modiwl a gall dysgwyr gyflwyno tystiolaeth a chael adborth ffurfiannol trwy lwyfan Moodle. Mae gan Moodle Bagloriaeth Cymru gefnogaeth medrau sylfaenol yn greiddiol iddo; esboniadau a gallu i archebu sesiynau cefnogaeth un wrth un, pan fydd angen. Mae’r model yn dangos ei fod yn un llwyddiannus dros ben ac mae’n sicrhau profiad cyson i bob dysgwr, digon o gefnogaeth a chanllawiau i’r cyflwynwyr a thryloywder o bersbectif ansawdd.

Disgrifio natur strategaeth neu weithgaredd a nodwyd yn arfer ragorol/arfer sy’n arwain y sector

Peilotiwyd nifer o fodelau cyn mabwysiadu’r model cyflwyno ar gyfer Safon Uwch. Yn dilyn adolygiad helaeth (yn cynnwys dadansoddiad o ddata meintiol, adborth gan ddysgwyr a chyflwynwyr, ebedagogaeth addysgol, adborth gan safonwyr, cyfeirio at arfer orau a chael cyngor gan arbenigwyr Moodle), cynigiwyd y model cyflwyno presennol yn haf 2009. Y prif feysydd i gael sylw a gododd o’r adolygiad hwn oedd yr angen i wella cymhlethdod ac amrywioldeb yr arddulliau addysgu a’r deunyddiau, gwella cysondeb o ran ansawdd (pan oedd nifer fawr o gyflwynwyr yn cymryd rhan) a chanolbwyntio ar sut gellid defnyddio technoleg yn fwy effeithiol. Mae’r model presennol wedi ymdrin â phob un o’r meysydd hyn. Serch hynny, mae nifer o welliannau yn cael eu hystyried i wella’r profiad dysgu ymhellach. Er enghraifft, cynnwys mwy o nodweddion Moodle rhyngweithiol ac arloesol fel gweithdai, fforymau a phodlediadau yn ogystal â gwella ansawdd cyflwyno gwersi.

Yn ganolog i fireinio a datblygu’r fenter y mae cyfraniad gweithredol y cyfranddalwyr wrth osod blaenoriaethau ar gyfer gwella parhaus. Mae cynnwys Cymhwyster Bagloriaeth Cymru yn llawn yn fframwaith ansawdd y Coleg yn cynorthwyo wrth ddarparu adborth ar gyfer gwella parhaus. Yn dilyn yr adborth eleni gan ddysgwyr, rydym wedi penderfynu gosod pwyslais o hyd ar gyflwyno ac asesu’r rhaglen drwy ddeunyddiau a gweithgareddau ar-lein a byddwn yn cynyddu’r pwyslais ar asesu ffurfiannol, olrhain a monitro ar-lein. Mae dysgwyr wedi gwerthfawrogi’r cynnydd yn amrywiaeth yr magwedd yn y cymhwyster. O ganlyniad, mae ystod o opsiynau ar gael i ddysgwyr megis ieithoedd tramor modern, unedau arweinyddiaeth a rheolaeth a’r unedau cymwysterau cyn Prifysgol gan Gaergrawnt. Bydd yr ymagweddau arloesol hyn, ac eraill, yn parhau i gael eu datblygu.

Pa effaith mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ansawdd y ddarpariaeth a safonau’r dysgwyr

Mae cyfaint yr ymdriniaeth â medrau allweddol a chyrhaeddiad medrau allweddol wedi codi’n ddramatig. Er enghraifft, yn 2009/10 fe wnaeth y cyfraddau llwyddo mewn Cyfathrebu godi o 61.6% i 75.4% cododd Gweithio Gydag Eraill o 58.3% i 86.8% a chyfradd llwyddo Gwella’ch Dysgu a’ch Perfformiad eich Hunan o 76.9% i 87.9%. Mae mesuriadau lles a datblygu deallusrwydd emosiynol wedi codi o’r herwydd o ganlyniad i’r ymagwedd at y cymhwyster.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn