Cydweithredu ar draws ysgolion clwstwr

Arfer effeithiol

Shirenewton Primary School


 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Drenewydd Gelli-farch ym mhentref Drenewydd Gelli-farch, bedair milltir y tu allan i dref Cas-gwent ar y ffin yn Sir Fynwy.  Mae 200 o ddisgyblion rhwng 4 ac 11 yn mynychu’r ysgol, mewn saith dosbarth un oedran.  

Y cyfartaledd tair blynedd ar gyfer disgyblion sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim yw tua 1%, sydd ymhell islaw’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 18%.  Nodir bod gan ryw 15% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol, sy’n is na’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 21%.  Nid oes unrhyw ddisgyblion yn siarad Cymraeg gartref.  Mae ychydig iawn o ddisgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol.

Daeth y pennaeth yn Bennaeth Gweithredol Ysgol Gynradd Drenewydd Gelli-farch a dwy ysgol arall yng Nghas-gwent am gyfnod o dair blynedd yn 2015.  Er mis Medi 2018, daeth y pennaeth gweithredol yn gydlynydd clwstwr ar gyfer clwstwr o ysgolion Cas-gwent, a dychwelodd i Drenewydd Gelli-farch i rannu’r brifathrawiaeth â’r Pennaeth Cysylltiol.  Penodwyd cyd-bennaeth parhaol gan y corff llywodraethol i rannu prifathrawiaeth yr ysgol yn 2017. 

Bu’r ysgol yn ysgol arloesi ar gyfer y celfyddydau mynegiannol, ac mae bellach yn parhau fel ysgol ddysgu broffesiynol yng nghonsortiwm y Gwasanaeth Cyflawni Addysg.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Bu’r tair ysgol o fewn Cynghrair Ysgolion Cynradd Cas-gwent yn cydweithio’n agos i greu arweinyddiaeth ddosrannol effeithiol ym mhob ysgol.  Cefnogwyd arweinyddiaeth ar bob lefel trwy sesiynau hyfforddi, dysgu a mentora pwrpasol.  Ymgymerodd arweinwyr â monitro ar y cyd ar draws y tair ysgol, gyda staff yn ymweld ag ysgolion ac ystafelloedd dosbarth ei gilydd i rannu cynllunio ac arferion.

Mae’r tair ysgol yn rhannu adnoddau, fel trefnu darpariaeth llyfrgell a rennir a hyfforddiant ar y cyd, ac yn fwy diweddar, defnyddio adnoddau TG y clwstwr.   Daeth y brifathrawiaeth weithredol i ben yn naturiol pan sefydlwyd arweinyddiaeth gynaledig ar draws yr ysgolion.  Arweiniodd hyn at rannu’r dysgu o’r gynghrair â’r clwstwr o ysgolion sy’n bwydo a chanolbwyntio o’r newydd ar waith y clwstwr trwy adeiladu ar brofiad y gynghrair.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Roedd penodi cydlynydd clwstwr yn allweddol i yrru cydweithio fel clwstwr.  Roedd hyn yn golygu penodi arweinydd dynodedig i wneud yn siŵr fod y cynllun yn cael ei gyflwyno’n effeithiol o fewn graddfeydd amser, a sicrhau deilliannau cadarnhaol.  

Dyma beth yw rôl cydlynydd y clwstwr:

  • gyrru cynllun cytûn y clwstwr gyda’i ffocws ar addysgu a dysgu, arweinyddiaeth, lles, datblygiad proffesiynol, pontio a chymedroli  
  • cydlynu a rheoli adolygiadau cymheiriaid y clwstwr, a choladu hunanwerthusiad a chynllun gweithredu ar gyfer pob adolygiad i fwydo i gynllun y clwstwr
  • mynychu cyfarfodydd rheolaidd gyda grŵp o lywodraethwyr llywio, gyda chynrychiolaeth o bob corff llywodraethol, darparu adroddiad yn unol â’r cynllun ac ymateb i her o ran gweithio fel clwstwr
  • mynychu cyfarfodydd llywio penaethiaid y clwstwr i adrodd ar gynnydd y cynllun, a diwygio’r cynllun fel y cytunwyd
  • cynnal diwrnod hyfforddi ar gyfer staff y clwstwr bob blwyddyn, gan alluogi pob un o’r staff i gyfrannu at gynllun y clwstwr a’i flaenoriaethau

Beth fu effaith y gwaith hwn ar y ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Penodi cydlynydd y clwstwr

Mae’r ysgol yn credu bod “Bodolaeth rôl ddynodedig ag amser wedi’i neilltuo wedi cael effaith wirioneddol ar ein gallu i weithio gyda chyflymdra yn ogystal â bwriad.  Er enghraifft, mae’r adborth o’r adolygiadau cymheiriaid wedi lledaenu yn gamau gweithredu yn gyflymach na’r hyn sydd efallai’n arferol.  Gallwn roi strategaethau ar waith ar draws y clwstwr yn fwy effeithiol, a gyda mwy o ffocws.  O ran gweithio fel clwstwr, mae rôl rhywun i yrru gwaith y cynllun wedi golygu ein bod wedi gallu rhoi blaenoriaethau strategol ar waith, fel hyfforddiant ar gyfer arweinwyr canol, yn gyflymach o lawer.  Mae gwaith y cydlynydd wedi ychwanegu at rôl y cadeirydd yn dda iawn ac wedi ychwanegu gallu at ein grŵp.  Mae gan gydlynydd y clwstwr allu ychwanegol mewn cefnogi gwelliant, ac mae wedi hwyluso’r camau gweithredu a drafodwyd yng nghyfarfodydd penaethiaid y clwstwr, er enghraifft o ran sicrhau cysondeb gwell mewn arferion ynghylch cymedroli Blwyddyn 6 a Blwyddyn 9, a sicrhau bod cynorthwyydd plant sy’n derbyn gofal y clwstwr yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol ym mhob ysgol,  gan uchafu deilliannau ar gyfer y disgyblion targedig, yn enwedig o ran pontio.  Mae llywodraethwyr llywio sy’n cynrychioli pob corff llywodraethol yng Nghas-gwent yn meddu ar ddealltwriaeth glir o rôl cydlynydd y clwstwr, a gallant hysbysu eu cyrff llywodraethol eu hunain a dwyn cydlynydd y clwstwr i gyfrif am gynnydd y cynllun”.

Adolygiadau cymheiriaid y clwstwr

Ar y cychwyn, cynhaliwyd yr adolygiadau gan benaethiaid yn edrych ar gryfderau a meysydd i’w datblygu yn yr ysgolion, a myfyrio ar hunanwerthusiad yr ysgolion eu hunain.  Galluogodd hyn y penaethiaid i rannu eu cryfderau a cheisio cymorth ar gyfer unrhyw feysydd i’w datblygu.  Hefyd, cryfhaodd y berthynas rhwng penaethiaid y clwstwr a’r ymdrech tuag at fwy o gydweithio ystyrlon.  Buan y datblygodd hyn yn drefn lle roedd uwch arweinwyr yn arwain adolygiadau gydag arweinwyr canol.  Mae adolygiadau diweddar wedi cynnwys y rheiny ar gyfer datblygu medrau disgyblion mewn llythrennedd, mathemateg a gwyddoniaeth, ac ar gyfer datblygu gweithdrefnau i gryfhau pontio, anghenion dysgu ychwanegol a chynhwysiant.  Dyma beth yw effaith yr adolygiadau hyn:

  • datblygiad proffesiynol effeithiol a rhannu arfer ar draws y clwstwr
  • gwerthusiadau yn seiliedig ar dystiolaeth sy’n arwain at flaenoriaethau ar gyfer cynllun gweithredu’r clwstwr

Datblygiad Arweinyddiaeth Ganol

Mae cyfres o weithdai rhyngweithiol, dan arweiniad cydlynydd y clwstwr, yn arwain a chefnogi datblygiad arweinyddiaeth.  Mae’r hyfforddiant hwn yn archwilio rôl arweinwyr canol ac yn cefnogi eu gallu i greu hunanwerthusiadau gonest a chynlluniau datblygiad craff yn seiliedig ar dystiolaeth wedi’i thriongli o graffu.  Mae’r rhan fwyaf o arweinwyr canol cynradd, a lleiafrif o rai uwchradd, wedi cwblhau hyfforddiant y clwstwr ar gyfer arweinwyr canol.  Llwyddodd y sesiynau i wella medrau arweinwyr canol tra’n darparu cyfleoedd iddynt ddysgu oddi wrth ei gilydd.  Mae cymryd rhan mewn craffu ar draws y clwstwr wedi galluogi’r arweinwyr i rannu arferion a nodi blaenoriaethau’r clwstwr neu flaenoriaethau ysgolion unigol.

Ar draws grwpiau meysydd dysgu a phrofiad y Clwstwr

Mae pob un o’r staff cynradd ar draws y clwstwr ac arweinydd canol a enwyd o’r ysgol uwchradd yn gysylltiedig â grŵp meysydd dysgu a phrofiad.  Maent yn cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn, dan arweiniad arweinydd dysgu proffesiynol.  Maent yn rhannu arferion ac arloesedd tuag at y meysydd dysgu a phrofiad newydd.  Mae’r grwpiau hyn wedi datblygu perthnasoedd cryf rhwng staff ar draws y clwstwr, gan arwain at rwydwaith defnyddiol o weithwyr proffesiynol.  Cyflwynodd pob grŵp meysydd dysgu a phrofiad i’r clwstwr y gwaith roeddent wedi’i wneud tuag at ymgorffori’r pedwar diben a rhannu addysgeg ac arferion, yn ogystal â rhannu eu blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn i ddod.  O ganlyniad i’r rhwydwaith hwn, mae’r ysgol wedi cynnal sawl prosiect llwyddiannus ar draws y clwstwr, fel dysgu byd-eang, celf a phrosiect y celfyddydau mynegiannol ar gyfer disgyblion mwy abl a thalentog.

Cynnydd Dysgu o Flwyddyn 6 i Flwyddyn 7

Pennwyd mai llyfrau Blwyddyn 6 fyddai’r man cychwyn ar gyfer dysgwyr ym Mlwyddyn 7, gyda staff yn gallu myfyrio ar ymdriniaeth, cyflwyniad a medrau llythrennedd a rhifedd.  Ar ddiwedd yr hanner tymor cyntaf, bu cydlynydd y clwstwr yn craffu ar lyfrau ac yn rhannu adborth â staff Blwyddyn 6 a 7.  Mae’r monitro a’r sgyrsiau proffesiynol wedi cael effaith gadarnhaol ar safonau mewn Saesneg a mathemateg, a datblygiad medrau llythrennedd a rhifedd ar draws y cwricwlwm ym Mlwyddyn 7.  Cryfhawyd hyn ymhellach trwy gysylltiadau’r meysydd dysgu a phrofiad a’r adolygiadau cymheiriaid sydd wedi bwydo i flaenoriaethau a chydweithio.  Er enghraifft, arweiniodd yr adolygiad llythrennedd at gytundeb i ddefnyddio nodiadau ‘gludiog’ i ddisgyblion ‘lunio cwestiwn’ i’w hathrawon am rywbeth penodol yn eu hysgrifennu.  Ar ôl hyn, mae athrawon yn rhoi adborth i ddisgyblion ynglŷn â’r cwestiwn. 

Rheolwr Busnes ar y Cyd

Fel rhan o’u cynllun clwstwr, mae rheolwr busnes yn yr ysgol uwchradd yn gweithio ar draws yr ysgolion cynradd am ddiwrnod yr wythnos.  Fel rhan o ddiwrnod hyfforddi, cyfarfu pob un o’r staff gweinyddol i drefnu sesiynau gweinyddu rheolaidd ar gyfer y clwstwr i rannu arfer, a dysgu ac arloesi gyda’i gilydd.  Mae gan dîm gweinyddu’r clwstwr rwydwaith cryf lle maent yn rhannu arfer ac yn ceisio gwerth am arian.  Mae’r ysgolion wedi gwneud arbedion ariannol trwy gydweithio ac adnewyddu contractau a chwilio am gyflenwyr eraill.

Lles

Cydlynydd y clwstwr yw arweinydd dysgu proffesiynol ac arweinydd lles y clwstwr.  Mae hyn wedi cynyddu gallu ar draws y clwstwr.  Mae’r cydlynydd yn gweithio’n agos gyda’r ysgolion, gan ledaenu gwybodaeth genedlaethol a rhanbarthol, yn ogystal â sicrhau bod holl ysgolion y clwstwr yn cael hyfforddiant o’r un ansawdd, er enghraifft mewn profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a thestunau eraill.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

  • Mae’r ysgol wedi cyflwyno eu harferion adolygu cymheiriaid yn nigwyddiadau amrywiol y consortiwm ac mewn ysgolion ar draws y consortiwm.  Rhannodd cydlynydd y clwstwr arfer adolygu’r clwstwr gyda grŵp llywio rhanbarth y Gwasanaeth Cyflawni Addysg wrth ddatblygu eu system adolygu cymheiriaid.
  • Mae cydlynydd y clwstwr wedi cyflwyno hyfforddiant y clwstwr ar gyfer arweinwyr canol ar draws y consortiwm.
  • Rhannwyd astudiaeth achos clwstwr Cas-gwent ar draws y Gwasanaeth Cyflawni Addysg trwy eu cylchlythyr.

Mae cydlynydd y clwstwr wedi rhannu’r arsylwadau disgyblion a chymheiriaid ar draws y consortiwm, ac wedi cyfrannu at ddeunyddiau’r consortiwm ar gyfer gwella ysgolion a hunanwerthuso.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn